Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 27 Ionawr 2021.
Gwnaf, yn sicr, ac a gaf fi ddiolch i Huw Irranca-Davies am ei ymgyrchu ar ran ei etholwyr mewn perthynas â'r mater hwn? Rydym yn gweithio ar gam 2 proses WelTAG yn awr i ddatblygu opsiynau ymhellach, ac mae'n bwysig fod y gwaith hwn yn parhau gyda chefnogaeth ac ymgysylltiad rhanddeiliaid lleol, ac mae Huw Irranca-Davies wedi bod yn gefnogol iawn i'n hymdrechion i ddod â’r rhanddeiliaid hynny a Trafnidiaeth Cymru at ei gilydd. Fe ofynnaf i fy swyddogion roi manylion y pum opsiwn sy'n cael eu hystyried i Huw Irranca-Davies, a sut y bydd Trafnidiaeth Cymru yn bwrw ymlaen â chamau nesaf y gwaith. Yn amlwg, mae angen imi nodi nad yw seilwaith rheilffyrdd yn fater sydd wedi'i ddatganoli hyd yma, ac felly mae angen i Lywodraeth y DU ysgwyddo'i chyfrifoldeb a'n cynorthwyo i wneud y gwaith hwn, ac rydym yn disgwyl i Network Rail gyflawni, ac i Lywodraeth y DU ariannu system groesi ddiogel ar y rheilffordd ym Mhencoed, ac rydym yn gweithio gyda hwy i sicrhau y gallwn wneud i hyn ddigwydd, ac yn sicr, mae’n flaenoriaeth i mi a'r Llywodraeth hon.