Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 27 Ionawr 2021.
Weinidog, a gaf fi groesawu eich ymateb? Rwy’n wirioneddol ddiolchgar i chi, eich swyddogion, Network Rail, Trafnidiaeth Cymru a swyddogion cyngor Pen-y-bont ar Ogwr am eu hymwneud ar y mater hanfodol hwn, sef cynyddu amlder y gwasanaeth ar reilffordd Maesteg i Ben-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd. Mae'n rhywbeth rwyf wedi bod yn ymgyrchu'n ddi-baid drosto, fel y gwyddoch—er rhwystredigaeth i chi mewn rhai ffyrdd yn ôl pob tebyg—ers imi ddod i’r Senedd yn ôl yn 2016. Rwyf fel yr olwyn wichlyd ar y locomotif, yn mynnu sylw. Rydym wedi cwblhau'r cam WelTAG, ac ymlaen nawr i WelTAG 2. Felly, a allwch gadarnhau ymrwymiad Llywodraeth Cymru yn glir ac yn groyw heddiw i roi mwy o drenau i ni ar reilffordd Llynfi i ychwanegu at y gwasanaeth dydd Sul roeddem yn falch o'i gael y llynedd, ac at y gwelliannau i gerbydau rydym eisoes wedi'u cael? A phan fydd y pandemig yn caniatáu, a wnaiff gyfarfod â mi ac ymgyrchwyr i drafod y cynnydd rydym yn ei weld bellach ac sydd i'w groesawu?