Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 27 Ionawr 2021.
Weinidog, yr wythnos diwethaf oedd Wythnos Brecwast Fferm, ac fel y gwyddoch, gan eich bod yn gynrychiolydd yng ngogledd Cymru, mae ffermio’n rhan bwysig o economi gogledd Cymru. Un o'r cyfleoedd a gyflwynir gan Brexit yw'r cyfle i newid rheolau caffael y sector cyhoeddus fel y gall ffermwyr a chynhyrchwyr eraill werthu mwy o'u cynnyrch i’r sector cyhoeddus. Pa gamau rydych yn eu cymryd fel Gweinidog yr economi i sicrhau bod hyn yn rhywbeth y gall y gymuned ffermio ac eraill ledled Cymru fanteisio arno wrth symud ymlaen, a ble rydym arni gydag adolygiad Llywodraeth Cymru o brosesau caffael, o gofio ein bod bellach wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd?