Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 27 Ionawr 2021.
Wel, rydym yn parhau i weithio gyda'r sector amaethyddol, a chyda phob sector arall yn wir, i ddeall y rhwystrau newydd i fasnachu y mae dewisiadau gwleidyddol Llywodraeth y DU wedi'u gorfodi arnynt. Wrth gydnabod bodolaeth cytundeb heb dariffau a heb gwotâu, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i'r Aelod fod yn eithaf clir ynglŷn â'r ffaith bod cymhlethdod y berthynas fasnachu rhwng ein hallforwyr a'r Undeb Ewropeaidd yn llawer mwy na'r hyn ydoedd ar 31 Rhagfyr, a bydd yn gosod y costau sylweddol y mae'r busnesau hynny'n ymgodymu â hwy erbyn hyn. Byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i gefnogi busnesau ym mhob sector yng Nghymru i barhau i allforio ac i ddeall y fiwrocratiaeth newydd y mae cytundeb Boris Johnson wedi'i gorfodi arnynt. Ond gadewch inni fod yn glir mai'r cytundeb sydd wrth wraidd hynny, ac yn anffodus, ni all unrhyw gamau gweithredu gan Lywodraeth y DU na Llywodraeth Cymru newid hanfodion y berthynas newydd honno, sy'n gosod rhwystrau newydd.