Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 27 Ionawr 2021.
Diolch. Un enghraifft o rywbeth y gallech ei weithredu yw annog Llywodraeth Cymru i adolygu'r ffaith bod aelodau o griwiau a gyflogir ar sail cyfran o'r ddalfa yn cael eu heithrio o grant sector-benodol y gronfa cadernid economaidd. Nawr, ni fydd yn syndod i chi fy mod i'n falch unwaith eto fod cytundeb masnach Prif Weinidog y DU yn caniatáu i nwyddau a chydrannau'r DU gael eu gwerthu heb dariffau a heb gwotâu ym marchnad yr UE. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod bod Undeb Amaethwyr Cymru wedi mynegi pryderon am effaith gwrthdaro masnach ar y sector amaethyddol. Nawr, yn ystod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau'r UE) ar y cytundeb masnach a chydweithredu ddydd Mawrth 29 Rhagfyr, galwasoch ar Lywodraeth y DU i roi mesurau cymorth newydd ar waith ar gyfer yr economi i helpu busnesau drwy'r cyfnod pontio. Ac mae Llywodraeth y DU bellach yn cymryd y camau hynny. Rwy'n ymwybodol fod y Gweinidog ffermio, Victoria Prentis, wedi bod yn cynnal trafodaethau gyda'r Ffrancwyr, y Gwyddelod a'r Iseldirwyr, felly a wnewch chi egluro pa gamau pellach y byddwch yn eu cymryd i gynorthwyo'r sector amaethyddol gyda lleddfu gwrthdaro masnach?