Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 27 Ionawr 2021.
A gaf fi groesawu Janet Finch-Saunders yn gyntaf i'w chyfrifoldebau newydd? I ddechrau, hoffwn ddweud ein bod yn amlwg yn croesawu argaeledd y swm hwn o arian. Nid yw'n gronfa sydd wedi'i chyd-gynllunio, fel y dylai fod, gyda'r Llywodraethau datganoledig, ac mae'r manylion ynglŷn â chymhwysedd a chyflwyno yn parhau, rwy'n credu, i fod yn amwys iawn ar hyn o bryd, felly rydym yn gweithio ac yn gobeithio gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddeall hynny'n well. Yr hyn y dylwn ei ddweud, serch hynny, yw mai cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yn llwyr yw'r her sy'n wynebu'r sector pysgodfeydd mewn perthynas â'r penderfyniadau y mae wedi'u gwneud fel mater o ddewis gwleidyddol yn y negodiadau gyda'r Undeb Ewropeaidd. Roeddem ni fel Llywodraeth yn ofni y byddai hyn yn digwydd, a dyna pam y gwnaethom alw ar Lywodraeth y DU i flaenoriaethu mynediad llyfn at farchnadoedd, ac maent wedi methu gwneud hynny. Mae llawer o bobl yn rhoi blaenoriaeth uwch i'w hymdeimlad Rwritanaidd o sofraniaeth nag i fywoliaeth pysgotwyr ac eraill, a bydd y bobl hynny'n atebol i'r sectorau dan sylw am fod wedi mabwysiadu'r fath safbwynt, ac rwy'n cynnwys yr Aelod yn hynny. Mae pysgotwyr yn trin cynhyrchion sy'n ddarfodus iawn, ac rwy'n tybio y bydd enw da gwleidyddol y rhai a fu'n gefnogol i'r cytundeb sydd wedi tanseilio llesiant y sector pysgota, yn gweld bod eu statws gwleidyddol hwy eu hunain yn ddarfodus hefyd maes o law.