Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 27 Ionawr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:47, 27 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

Mae Dai Lloyd yn codi pwynt pwysig iawn yn ei gwestiwn. Mae'r cytundeb yn gwneud nifer o ddarpariaethau mewn perthynas â llywodraethu'r berthynas yn y dyfodol. Yn gyffredinol, ar wahân i un cyd-destun, rwy'n credu, nid yw'r sefydliadau datganoledig wedi'u cynnwys yn benodol yn hynny. Ac mae un o'r pwyntiau rwyf wedi'i wneud eisoes i Weinidogion y DU yn ymwneud â sicrhau bod gan Gymru'r rôl honno yn y strwythurau llywodraethu wrth symud ymlaen, sy'n adlewyrchu'r union bwynt am natur ddatganoledig llawer o'r meysydd sy'n cael eu trafod drwy'r fframweithiau llywodraethu hynny. Rydym yn datblygu'r hyn y byddem yn ei ystyried yn ofyniad manwl mewn perthynas â hynny, ond mae'r pwynt o egwyddor eisoes wedi'i wneud: fod angen i Gymru gael ei chynrychioli'n briodol yn y set honno o strwythurau yn yr un ffordd ag yr oedd trefniadau Cyngor y Gweinidogion yn darparu ar gyfer y math hwnnw o ymgysylltiad pan oeddem yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd.