Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 27 Ionawr 2021.
Diolch ichi am hynny, Weinidog. Gan symud ymlaen, wedi'i gladdu'n ddwfn o fewn y cytundeb masnach a chydweithredu rhwng y DU a'r UE ceir erthygl sy'n nodi y caiff Senedd Ewrop a Senedd y DU, sefydlu Cynulliad Partneriaeth Seneddol sy'n cynnwys Aelodau Seneddol ac Aelodau o Senedd Ewrop. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae trafodaethau eisoes ar y gweill yn Senedd y DU a Senedd Ewrop ynglŷn â sut i sicrhau bod hyn yn digwydd, ond nid oes dim wedi'i ffurfioli eto. Fel y gwyddom, mae cytundeb y DU-UE yn cwmpasu llawer o feysydd polisi sydd wedi'u datganoli mewn gwirionedd. A yw'r Gweinidog yn cytuno â mi, felly, na allwn dderbyn mai dim ond Aelodau Seneddol o San Steffan a fyddai'n cael eu cynrychioli ar bwyllgor o'r fath, ac a gaf fi ofyn, o gofio nad yw'r gwaith o sefydlu'r pwyllgor partneriaeth hwn wedi'i ffurfioli eto, a allai Llywodraeth Cymru, os nad ydynt eisoes wedi gwneud hynny, gyflwyno sylwadau a gweithio gydag eraill i sicrhau bod seneddwyr o bob rhan o'r gweinyddiaethau datganoledig yn cael eu cynrychioli ar y pwyllgor hwn?