Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 27 Ionawr 2021.
Dwi'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb yna. Mae'n amlwg yn annerbyniol ein bod, ar hyn o bryd, wedi colli'r pŵer i wahardd gwerthiant plastigau un-defnydd a deddfu yn y maes, felly rwy'n gobeithio bydd y Cwnsler Cyffredinol yn llwyddiannus yn yr achos llys.
Mae gen i ddiddordeb yn y ffaith bod y Cwnsler wedi dweud mewn araith allanol diweddar ynglŷn â sail yr achos llys, y byddai'r sail i wrthod yr ymgais i gipio'n pwerau yn anatebol, hyd yn oed petai Llywodraeth San Steffan o ddifrif ynghylch gwarchod safonau amgylcheddol a hawliau gweithwyr. Dywedoch chi hefyd eich bod chi o blaid cynyddu pwerau'r Senedd. Mae hon yn ddadl o blaid yr egwyddor y dylai'r pwerau y mae'r Senedd hon eu hangen orwedd yma, doed a ddelo, er mwyn rheoleiddio mewn ffordd sy'n cyd-fynd â dymuniadau dinasyddion Cymru. A yw hyn yn golygu eich bod chi bellach o blaid setliad cyfansoddiadol conffederal, gyda Senedd Cymru yn penderfynu pa bwerau i'w cadw a pha rai i'w rhannu gyda gweddill y Deyrnas Gyfunol?