Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 27 Ionawr 2021.
Wel, dwi wedi bod yn glir am hyn mewn amryw o gyd-destunau, fy mod i'n credu y dylem ni gael cymaint o bwerau ag y mae pobl Cymru eisiau eu cael yng Nghymru o dan reolaeth y Senedd ac o dan reolaeth y Llywodraeth, o ran Gweinidogion ac ati, yma yng Nghymru. Felly, mae hynny yn sicr yn egwyddor, buaswn i'n dweud, sydd ddim yn un dadleuol iawn bellach. Beth rŷn ni wedi'i weld yn sgil ymgais y Llywodraeth yn San Steffan yn y Ddeddf ddiweddar hon yw bod ein setliad cyfansoddiadol ni o dan bwysau penodol, oherwydd mae gennym ni Lywodraeth Geidwadol yn San Steffan sydd yn sicr yn ceisio tanseilio'r setliad datganoli, ac mae'n rhaid i ni i gyd sydd yn gefnogol i hynny, ac yn bleidiol i weld mwy o bwerau yn dod yma i Gymru, ymateb mewn ffordd addas i hynny.