Llwybrau Llongau Uniongyrchol

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 27 Ionawr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 3:10, 27 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

Wel, tan fis Rhagfyr, porthladdoedd Cymru oedd y llwybr hawsaf ar gyfer traffig rhwng Iwerddon a thir mawr Ewrop. Mae'r rhwystrau rheoleiddiol newydd sy'n deillio o gytundeb Llywodraeth y DU â'r Undeb Ewropeaidd wedi newid hynny, ac rydym yn pwyso ar Lywodraeth y DU i wella gweithdrefnau tramwy er mwyn adfer mantais gystadleuol porthladdoedd Cymru.