2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru ar 27 Ionawr 2021.
5. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru ynghylch effaith ehangu llwybrau llongau uniongyrchol o Iwerddon i'r UE ar economi Cymru? OQ56168
Wel, tan fis Rhagfyr, porthladdoedd Cymru oedd y llwybr hawsaf ar gyfer traffig rhwng Iwerddon a thir mawr Ewrop. Mae'r rhwystrau rheoleiddiol newydd sy'n deillio o gytundeb Llywodraeth y DU â'r Undeb Ewropeaidd wedi newid hynny, ac rydym yn pwyso ar Lywodraeth y DU i wella gweithdrefnau tramwy er mwyn adfer mantais gystadleuol porthladdoedd Cymru.
Mewn gwirionedd, rwy'n croesawu'r ymgysylltiad adeiladol rhwng y Gweinidog â chymheiriaid yn y DU, ond wyddoch chi, mae'n rhaid i mi siarad yn ddi-flewyn ar dafod yma. Weinidog, roedd y bobl a oedd yn dweud y byddai gennym fasnach ddirwystr ar ôl ymadael â'r UE a fyddai'n caniatáu i'r llwybrau tir hyn ledled y DU barhau naill ai'n rhy wirion i sylweddoli'r hyn roeddent yn ei ddweud wrth y cyhoedd yng Nghymru, ac ar draws Prydain, neu roeddent yn dweud celwyddau noeth. Ac mewn gwirionedd, mae'r fiwrocratiaeth sydd gennym yn y DU ar hyn o bryd yn union yr un fath â'r hyn y cwynai Boris Johnson amdano yn y gorffennol, pan oedd yn lladd ar yr Undeb Ewropeaidd. Felly, Weinidog, rwy'n gweld gweithredwyr masnachol o Iwerddon nawr yn arddel manteision dargyfeirio hirdymor, i ffwrdd o'r cyswllt tir ar draws y DU, a thrwy fynd yn uniongyrchol o Iwerddon i'r UE. A wnaiff bwyso ar Weinidogion y DU i unioni'r niwed y maent wedi'i wneud a sicrhau mai dros dro yn unig fydd hyn a'u bod yn cael y fasnach hon yn ôl drwy ein porthladdoedd yng Nghymru cyn gynted â phosibl?
Wel, mae honno'n brif flaenoriaeth i ni fel Llywodraeth. Nid yn unig fod y rhwystrau hyn, os hoffech, i fasnachu a thramwy yn bethau y gellid eu rhagweld, fe gawsant eu rhagweld. Nawr, yr hyn rydym eisiau ei sicrhau yw y bydd cyflymder a chyfleustra llwybrau drwy Gymru yn dechrau denu cludwyr yn ôl cyn gynted â phosibl, ac rydym yn sicr yn pwyso ar Lywodraeth y DU, yn y ffordd y mae'n awgrymu, i wneud popeth posibl i helpu masnachwyr i lywio'r ffin newydd hon ac yna i gyfyngu ar yr effaith economaidd y mae'n ei chael. Ac mae Gweinidog yr economi, fel y byddwch wedi'i glywed mewn trafodaethau cynharach yn y Siambr heddiw, wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth ddoe i dynnu sylw at ein pryderon mwyaf diweddar. Yn amlwg, rydym yn poeni'n arbennig am y ffaith bod y llwybrau hynny'n gostus ac yn cymryd mwy o amser, ac mae hynny'n dweud wrthym, wrth gwrs, mai'r bont dir yw'r opsiwn gorau o hyd, i bob pwrpas. Yr hyn rydym eisiau ei wneud yw sicrhau ein bod yn gweithio gyda Llywodraethau eraill i berswadio'r cludwyr ynglŷn â hynny, ac mae'n golygu bod angen i Lywodraeth y DU wneud popeth yn ei gallu i leihau goblygiadau ymarferol yr archwiliadau ac yn y blaen ar y ffin.
Bydd y rhai y mae eu swyddi'n dibynnu ar borthladd Caergybi yn talu'r pris os bydd patrymau masnachu newidiol yn arwain at golli masnach yn barhaol, gan newid i lwybr uniongyrchol. Er y gall pentyrru mis Rhagfyr fod yn un o'r rhesymau dros yr hyn sydd wedi digwydd, a'r pandemig hefyd, yr eliffant ar y dec cerbydau hanner gwag hwnnw yw'r cynnydd enfawr mewn masnach ar y llwybrau uniongyrchol hynny. Credaf fod masnach drwy Rosslare wedi cynyddu tua 500 y cant. Ac ydy, mae'n hwy, ond nid oes unrhyw fiwrocratiaeth ynghlwm wrth y llwybr hwnnw, ac er bod llwybr Caergybi wedi bod yn rhatach yn draddodiadol yn ogystal â bod yn fwy cyfleus, nid yw'n cymryd athrylith i gyfrifo beth y mae cynnydd mawr mewn traffig uniongyrchol yn debygol o'i olygu i brisiau ar y llwybrau uniongyrchol hynny chwaith. Nawr, rwy'n ddiolchgar am y copi o'r llythyr sydd wedi'i grybwyll, gan Weinidog yr economi i Lywodraeth y DU, yn galw am gymorth, yn ariannol ac fel arall, i ymdopi â'r rhwystrau newydd sylweddol nad ydynt yn dariffau. Ond a wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn â sut y gall Llywodraeth Cymru ddarparu mwy o gymorth yn awr, gan gynnwys drwy sefydlu'r math o seilwaith hirdymor ar y ffin sydd ei angen arnom i helpu masnach i lifo'n rhydd mewn modd y mae Llywodraeth y DU wedi methu ei gyflawni?
Wel, mae'r hyn rydym yn ei wneud yn ymarferol iawn mewn gwirionedd, o ran gweithio gyda'r ddwy Lywodraeth arall a dod â'r rheini at ei gilydd. Rydym wedi bod yn flaenllaw yn y trafodaethau gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Iwerddon mewn gwirionedd, fel y soniais yn gynharach, ond hefyd gydag awdurdodau lleol, gan gynnwys ei randdeiliaid ei hun, a rhanddeiliaid porthladdoedd mewn perthynas â'r materion hyn, i sicrhau bod gennym y wybodaeth ddiweddaraf cyn belled ag y bo modd am yr hyn sy'n digwydd mewn amser real i gludo llwythi. Rydym wedi gweld rhywfaint o weithredu ar rai o'r materion y buom yn tynnu sylw atynt, gan gynnwys rhai o'r hawddfreintiau tymor byr, i bob pwrpas, y mae Llywodraeth Iwerddon wedi'u rhoi ar waith mewn perthynas â'r gweithdrefnau hysbysu cyn mynd ar long, ac fel y crybwyllais yn sydyn yn gynharach, rhai o'r pethau ymarferol iawn hynny gyda gweminarau ac yn y blaen.
O ran y seilwaith y mae'n siarad amdano, mae cyfrifoldebau newydd Llywodraeth Cymru, i bob pwrpas, yn dechrau o ddechrau mis Gorffennaf, yng Nghaergybi ac yn y de-orllewin, ond rydym yn gweithio gyda CThEM a Llywodraeth y DU i nodi'r lleoliadau gorau mor agos â phosibl at y porthladd ar gyfer lleoli'r seilwaith hwnnw. Rydym eisiau iddo fod mor agos â phosibl at y porthladd, am resymau sy'n amlwg yn fy marn i, a cheir nifer fach o opsiynau rydym wrthi'n eu hystyried. Yr hyn y byddwn yn ei ddweud wrtho, serch hynny, yw ei bod bron yn amhosibl dychmygu amgylchiadau lle y gellid cyflawni hynny erbyn 1 Gorffennaf, o gofio'r amser a gollwyd y llynedd pan nad oedd Llywodraeth y DU yn ymgysylltu'n briodol â ni. Felly, rydym yn pwyso ar Lywodraeth y DU yn awr am ddealltwriaeth o ba fesurau wrth gefn y gellir eu rhoi ar waith fel bod Caergybi a phorthladdoedd eraill yng Nghymru, a ledled y DU yn wir, yn gallu gwneud hyn mewn modd trefnus, o gofio'r amser a gollwyd gennym y llynedd.