Hawliau Gweithwyr

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 27 Ionawr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:42, 27 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch i Dawn Bowden am y cwestiwn atodol hwnnw, ac am ei chefnogaeth hirsefydlog i achos undebaeth lafur hefyd. Credaf y bydd gweithwyr ledled Cymru a'r DU yn gwbl siomedig fod Llywodraeth y DU, ar anterth pandemig ac argyfyngau economaidd, yn credu ei bod yn briodol mewn unrhyw fodd o gwbl i ystyried torri amddiffyniadau sylfaenol ar amser gweithio a hawliau tâl gwyliau. Rydym eisiau i waith fod yn decach ac yn fwy diogel, a byddwn yn llwyr wrthwynebu ffantasi'r Ceidwadwyr a chefnogwyr Brexit sy'n honni bod ein dyfodol yn gorwedd mewn gweithle camfanteisiol wedi'i ddadreoleiddio. Dywed Llywodraeth y DU ei bod wedi ymrwymo i gynnal amddiffyniadau sy'n bodoli eisoes, ac os yw hynny'n wir, pam y mae'n cynnal adolygiad? Rwy'n cytuno â Dawn Bowden—yn wyneb Llywodraeth y DU sy'n ymddangos fel pe bai'n benderfynol o ddileu eu hawliau yn y gwaith, mae'n bwysicach nag erioed fod gweithwyr yn ymuno ag undeb llafur, a byddwn yn defnyddio pob dull o liniaru effaith niweidiol unrhyw ymgais gan Lywodraeth y DU i wanhau hawliau ac amddiffyniadau gweithwyr. Boed hynny drwy bŵer pwrs y wlad neu ein dull partneriaeth gymdeithasol, rydym wedi ymrwymo'n llwyr, fel Llywodraeth Cymru dan arweiniad y Blaid Lafur, i gyfiawnder yn y gweithle ac i arferion gwaith teg.