Hawliau Gweithwyr

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 27 Ionawr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour 2:41, 27 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Weinidog, ac a gaf fi groesawu amddiffyniad cadarn y Prif Weinidog o hawliau gweithwyr mewn ymateb i gwestiynau yn y Senedd ddoe, oherwydd ni ddylai'r newyddion fod Llywodraeth Dorïaidd y DU yn bwriadu ymosod ar hawliau gweithwyr unwaith eto fod yn syndod i neb? Gwyddom ein hanes, a gwyddom y pris a dalwyd i sicrhau a gwella hawliau gweithwyr, a dylai wneud pobl yn ddig a'u paratoi i wrthsefyll, gobeithio, drwy eu hundebau llafur.

Weinidog, mae llai na 100 diwrnod nes etholiadau'r Senedd a gallwn weld yn glir yn awr fod hawliau gweithwyr ar y papur pleidleisio. Felly, er mwyn osgoi rhagor o addewidion toredig y Torïaid, addewidion sydd bellach mor ddrewllyd â'r pysgod sy'n pydru yn ein porthladdoedd, a gaf fi ofyn ichi fy sicrhau y bydd Llywodraeth Cymru, a'r blaid a gynrychiolwn yma yn y Senedd hon, yn herio unrhyw ymgais gan y Torïaid i aberthu hawliau gweithwyr ar allor eu dogma marchnad rydd?