Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 3:11 pm ar 27 Ionawr 2021.
Wel, mae honno'n brif flaenoriaeth i ni fel Llywodraeth. Nid yn unig fod y rhwystrau hyn, os hoffech, i fasnachu a thramwy yn bethau y gellid eu rhagweld, fe gawsant eu rhagweld. Nawr, yr hyn rydym eisiau ei sicrhau yw y bydd cyflymder a chyfleustra llwybrau drwy Gymru yn dechrau denu cludwyr yn ôl cyn gynted â phosibl, ac rydym yn sicr yn pwyso ar Lywodraeth y DU, yn y ffordd y mae'n awgrymu, i wneud popeth posibl i helpu masnachwyr i lywio'r ffin newydd hon ac yna i gyfyngu ar yr effaith economaidd y mae'n ei chael. Ac mae Gweinidog yr economi, fel y byddwch wedi'i glywed mewn trafodaethau cynharach yn y Siambr heddiw, wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth ddoe i dynnu sylw at ein pryderon mwyaf diweddar. Yn amlwg, rydym yn poeni'n arbennig am y ffaith bod y llwybrau hynny'n gostus ac yn cymryd mwy o amser, ac mae hynny'n dweud wrthym, wrth gwrs, mai'r bont dir yw'r opsiwn gorau o hyd, i bob pwrpas. Yr hyn rydym eisiau ei wneud yw sicrhau ein bod yn gweithio gyda Llywodraethau eraill i berswadio'r cludwyr ynglŷn â hynny, ac mae'n golygu bod angen i Lywodraeth y DU wneud popeth yn ei gallu i leihau goblygiadau ymarferol yr archwiliadau ac yn y blaen ar y ffin.