Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 27 Ionawr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 2:44, 27 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

Roedd yn dda gweld datganiad ysgrifenedig gennych chi yr wythnos diwethaf, Weinidog, yn hysbysu'r Aelodau eich bod wedi dwyn achos cyfreithiol yn y llysoedd gweinyddol i geisio caniatâd i gynnal adolygiad barnwrol o Ddeddf marchnad fewnol y DU. Nawr, mae Plaid Cymru yn cefnogi'r ymgais hon. Fel rydym wedi'i ddweud droeon o'r blaen, mae'r Ddeddf yn tanseilio democratiaeth Cymru ac yn gyrru ceffyl a throl drwy'r setliad datganoli. Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn parhau i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y sefyllfa sy'n datblygu mewn perthynas â'r camau cyfreithiol hyn. Yn y cyfamser, fodd bynnag, a allai'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn ag a yw wedi trafod y camau cyfreithiol hyn gyda chymheiriaid yn y gweinyddiaethau datganoledig eraill? A allai amlinellu wrthym, efallai, pa ymdrechion sy'n cael eu gwneud i gynnwys Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, fel cefnogwyr i'r camau cyfreithiol hyn, gan y byddai hynny, fel y bydd yn cytuno rwy'n siŵr, yn sicr o gryfhau hygrededd yr achos o blaid cynnal adolygiad barnwrol i'r ymdrechion diweddaraf hyn i gipio pŵer?