Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 27 Ionawr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:45, 27 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

Yn sicr. Wel, bydd yr Aelod yn amlwg yn deall na fyddwn eisiau datgelu manylion sgyrsiau rhwng swyddogion y gyfraith mewn gwahanol rannau o'r DU. Fodd bynnag, gallaf ddweud wrth gwrs y bydd wedi nodi o'r plediadau o bosibl ein bod wedi cydnabod bod gan swyddogion y gyfraith yn yr Alban a Gogledd Iwerddon ddiddordeb yn yr ystyr bod ganddynt ddiddordeb yn y canlyniad. Mae Llywodraeth yr Alban, fel y gwelodd hefyd efallai, wedi cyhoeddi mwy nag un datganiad o gefnogaeth i'r camau rydym yn eu cymryd fel Llywodraeth. Rydym bellach ar y cam lle mai'r cais cychwynnol fydd i'r llys benderfynu a gawn gyflwyno adolygiad barnwrol cyn i wrandawiad gael ei gynnal. Ac os bydd y llys yn caniatáu i ni fwrw ymlaen â'r achos, fel rydym yn gobeithio, credaf mai ar y pwynt hwnnw y byddai penderfyniad Llywodraethau datganoledig eraill yn ymffurfio ynglŷn â'u perthynas â'r achos cyfreithiol.