Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 27 Ionawr 2021.
Wel, efallai ei bod hi'n teimlo ei bod yn gweithio ac yn byw mewn swigen; yn sicr, nid wyf fi'n teimlo hynny. Y pwynt am y Ddeddf yw ei bod yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i restr siopa wythnosol pobl. Felly, os oes gennych ddiddordeb mewn sicrhau bod bwyd o'r safon y mae cynhyrchwyr Cymru a defnyddwyr Cymru yn gyfarwydd â hi, mae'r Ddeddf hon yn fygythiad i hynny. Os oes gennych ddiddordeb mewn sicrhau nad ydym yn llygru ein hamgylchedd gyda defnydd gormodol o blastigau, mae'r Ddeddf hon yn fygythiad i hynny. Os ydych eisiau sicrhau bod rheoliadau priodol ar waith mewn perthynas â darparwyr gwasanaethau yng Nghymru, mae'r Ddeddf hon yn fygythiad i hynny. Nid materion cyfansoddiadol yn unig yw'r rhain; maent yn effeithio ar fywydau bob dydd ein hetholwyr ni i gyd, a dyna pam ei bod yn hollbwysig fod pobl yn ymwybodol o'r hyn y mae'r Ddeddf hon yn ei gynnwys, a gofynnaf iddi ein helpu i ymestyn rhywfaint o hynny y tu hwnt i'r swigen y mae'n ei disgrifio.