Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 27 Ionawr 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mandy Jones Mandy Jones UKIP 3:08, 27 Ionawr 2021

(Cyfieithwyd)

Gwnsler Cyffredinol, rwy'n gweld cwestiynau fel hyn, ac rwy'n clywed yr atebion, a deallaf yn iawn pam y gelwir y lle hwn yn 'swigen'. Rydym yn dal i fod ynghanol pandemig, mae pobl wedi colli eu bywydau a'u bywoliaeth, maent wedi colli gobaith, ac mae'n ymddangos ein bod yn bogailsyllu yn y Senedd hon. Wedi dweud hynny, hoffwn wybod beth y mae'r Ddeddf hon yn rhwystro Llywodraeth Cymru rhag ei wneud y gallai ei wneud yn ddilyffethair o'r blaen? A pha wahaniaeth y mae'n ei wneud mewn gwirionedd i'n hetholwyr? Diolch.