3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 27 Ionawr 2021.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am nifer yr achosion o COVID-19 yn y DVLA yn Abertawe? TQ533
Mae'n destun gofid bod dros 500 o achosion COVID wedi eu cofnodi ymysg staff y DVLA ers mis Medi. Cafod tîm rheoli y digwyddiad ei sefydlu ar ddechrau mis Hydref i gefnogi'r ymateb amddiffyn iechyd. Rwyf wedi codi pryderon sawl gwaith gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynglŷn â nifer yr achosion a'r arferion yn y gweithle.
Diolch am yr ateb hwnnw, Brif Weinidog. Yn amlwg, mae'r sefyllfa bresennol yn y DVLA yn anfaddeuol. Mae nifer y staff sydd wedi dal COVID, fel yr amlinellwyd gennych, yn bryder enfawr, sy'n adlewyrchu'r pryderon a fynegwyd gan weithwyr ar y safle mewn perthynas ag arferion gwaith gwael ac arferion diogelu rhag COVID. A gaf fi ddyfynnu o e-bost diweddar a ddaeth i law gan aelod o staff? 'Ar fy llawr, mae 100 o staff ar y llawr o hyd, yn rhannu ceginau, toiledau ac nid oes unrhyw ffenestri i'w hagor ar y llawr cyfan. Rwy'n dychmygu bod hyn yr un fath ar y 15 llawr arall'—i'r rheini ohonoch sy'n adnabod adeilad y DVLA yn Abertawe.
Rwyf wedi ysgrifennu'n uniongyrchol at y DVLA ar dri achlysur gwahanol ers dechrau'r pandemig. Yn ôl ym mis Mawrth 2020 oedd y tro cyntaf, gan i'r pryderon hyn gael eu dwyn i fy sylw bryd hynny, hefyd ym mis Hydref 2020, ac yn gynharach y mis hwn, gydag atebion gan y prif weithredwr. Felly, rwyf wedi ysgrifennu deirgwaith. Roedd llawer o bobl sy'n cael eu cyflogi gan y DVLA yn cysylltu â mi, ac maent yn dal i wneud hynny, i ddweud nad oeddent yn teimlo'n ddiogel, fel y clywsom, gyda'r mesurau a oedd ar waith ac o ran yr hyn roedd y rheolwyr yn gofyn iddynt ei wneud. Yn anffodus, felly, mae'n ymddangos nad yw'r sefyllfa wedi gwella o gwbl—[Anghlywadwy.]—helpu ni yn Abertawe i geisio lleihau lledaeniad y feirws yn ein cymunedau lleol. Mae angen rhoi camau pendant ar waith ar hyn, a byddwn yn ddiolchgar am ragor o fanylion, Brif Weinidog, o ran sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwneud mwy—yn amlwg, mae'r DVLA yn fater sydd heb ei ddatganoli—gan weithio gyda Llywodraeth y DU a chyngor Abertawe ac edrych ar bob llwybr cyfreithiol posibl i sicrhau bod y DVLA yn amgylchedd gwaith diogel.
Felly, a allech chi amlinellu pa gamau pellach y gallech eu cymryd, yn enwedig o ran gorfodi cyfraith Cymru yn gyfreithlon yn y mater hwn? A ydych yn ystyried cryfhau'r gyfraith yn y maes hwn neu gryfhau'r sancsiynau? Os na all unrhyw gyflogwr, boed yn breifat neu'n gyhoeddus, warantu diogelwch eu gweithwyr ar yr adeg hon, dylid eu cau hyd nes y bydd mesurau priodol ar waith. Yn sicr, mae gweithwyr y DVLA a thrigolion Abertawe eisiau gweld gweithredu pellach, a byddwn yn eich annog i wneud popeth yn eich gallu i sicrhau cydymffurfiaeth â chyfraith Cymru yn yr achos hwn. Diolch yn fawr.
Mae Dr Lloyd yn nodi cyfres o bryderon pwysig iawn a fynegwyd wrtho gan aelodau o'r gweithlu. Maent yn cyd-fynd yn llwyr â'r pryderon y mae ein cyd-Aelod, Mike Hedges, wedi'u mynegi'n rheolaidd dros yr wythnosau diwethaf. Rwy'n talu teyrnged i waith Mike a'r ffordd weithgar y mae wedi mynd ar drywydd y mater hwn. Wrth ateb cwestiynau Dr Lloyd, yn gyntaf oll, fe fydd yn ymwybodol, rwy'n siŵr, fod y gyfraith wedi'i chryfhau yn ystod y cylch tair wythnos presennol. Yn y rheoliadau, rydym wedi cynnwys cyfres o ofynion y mae'n rhaid i bob gweithle eu dilyn i adlewyrchu'r risgiau ychwanegol a achosir gan yr amrywiolyn newydd o COVID-19. Ysgrifennais ddwywaith at y Gweinidog sy'n gyfrifol am y DVLA ym mis Rhagfyr ac ym mis Ionawr. Cefais sicrwydd ganddi y cydymffurfir â chyfraith Cymru yn y DVLA, gan gynnwys y newidiadau yn y gofynion a gyhoeddwyd ar gyfer cyflogwyr yng Nghymru ar 15 Ionawr. Yn y cyfamser, mae'r tîm rheoli digwyddiadau sy'n gweithredu mewn perthynas â'r DVLA yn parhau i gyfarfod a darparu cyngor ac i fynnu bod yr awdurdod hwnnw nad yw wedi'i ddatganoli yn gweithredu. Gwn y bydd yr Aelodau'n falch o glywed bod cofnodion Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos, ddydd Gwener diwethaf, mai dim ond pum aelod o staff y DVLA ar draws ei weithlu oedd yn ynysu o ganlyniad i'r feirws.
Mae Mike Hedges wedi bod yn codi hyn yn ein cyfarfodydd wythnosol gyda'r bwrdd iechyd lleol cyhyd ag y gallaf gofio, felly rwy'n falch ein bod yn cael cyfle i'w drafod heddiw. Fodd bynnag, nid dyma'r unig waith mawr yng Ngorllewin De Cymru sydd wedi bod yn ymdrin â niferoedd mawr; rydym wedi cael newyddion anodd gan Tata a chan Amazon hefyd, sydd hefyd wedi gweld cynnydd yn nifer yr achosion. Rwyf wedi cael gohebiaeth debyg iawn i Dai Lloyd gyda chwestiynau ynglŷn â beth ddylai fod yn digwydd ar y safle, ond rwyf hefyd wedi cael gohebiaeth yn dweud bod rheolwyr DVLA yn rhy frwd wrth orfodi a mynnu gorfodaeth. Felly, credaf fod y darlun braidd yn gymysglyd yno, ond serch hynny rydym mewn sefyllfa lle mae'r niferoedd wedi bod yn wael. Brif Weinidog, a ydych wedi cael unrhyw sylwadau uniongyrchol gan weithwyr yn y DVLA, neu'n wir, y ddau fusnes arall y clywais ganddynt? Ac a ydych wedi ystyried unrhyw newidiadau i'r canllawiau o ganlyniad i'r sylwadau hynny? Rwy'n siŵr y byddent o ddiddordeb i unrhyw weithredwyr safleoedd mawr mewn unrhyw ran o Gymru. Diolch.
Rwy'n sicr yn cael sylwadau uniongyrchol gan weithwyr mewn llawer o leoliadau ledled Cymru. Yn achos y DVLA, er enghraifft, drwy ryw lwybr rhyfedd, ffoniodd aelod o staff y DVLA fi gartref. Nawr, roeddwn yma yn y gwaith a bu'n rhaid i fy ngwraig siarad â menyw, y tybiai fy ngwraig ei bod yn ei phum degau, a oedd yn byw ar ei phen ei hun ac a oedd yn ofidus iawn ynglŷn â'r amodau y credai fod gofyn iddi weithio oddi tanynt yn y DVLA. Ac wrth gwrs, cafodd y pryderon hynny eu mynegi wrthyf a'u harchwilio. Felly, ydw, yn wir, rwy'n clywed y pethau hyn yn uniongyrchol ac fel y dywedodd Suzy Davies, nid y DVLA yw'r unig weithle lle mae gan weithwyr bryderon. Ac o ganlyniad i'r dystiolaeth sylfaenol, uniongyrchol honno, a gafodd ei rhoi i ni, a'i thrafod yn y fforwm iechyd a diogelwch cenedlaethol newydd sydd gennym yma yng Nghymru, fforwm a fynychir gan undebau llafur, cyflogwyr a rheoleiddwyr, penderfynasom gryfhau'r gyfraith yma yng Nghymru fel bod lleisiau gweithwyr yn cael eu clywed, yn unigol ac ar y cyd, gan Lywodraeth Cymru, a'n bod yn gweithredu ar eu pryderon lle bo angen.
Fel y gŵyr y Prif Weinidog, rwyf wedi bod yn siarad am y DVLA ers amser maith, a siaradais amdano hefyd mewn dadl yn y Senedd fis diwethaf. Rwyf hefyd wedi'i godi gyda'r bwrdd iechyd yn rheolaidd, fel y nododd Suzy Davies. Yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf, ar ôl y problemau cychwynnol, roedd y rhan fwyaf o bobl yn y DVLA yn gweithio gartref. Os ydych yn defnyddio'r system wasgaredig neu'r prif rwydwaith, nid yw'r lleoliad yn bwysig. Dyma rai dyfyniadau o dair o'r negeseuon e-bost niferus rwyf wedi'u cael:
Mae'r DVLA yn ymwybodol o broblemau iechyd a hefyd fy mod yn gofalu am deulu sydd â phroblemau iechyd.
Rwy'n ei chael hi'n anodd bod yn y gweithle, ac rwy'n ymwybodol iawn o'r amodau a nifer y bobl o'm cwmpas yn y swyddfa.
Rwyf wedi gofyn am gael gweithio gartref, ond yn anffodus mae'r DVLA wedi mynnu fy mod yn dod i'r swyddfa.
Diolch i'r Prif Weinidog am y llythyrau y mae wedi'u hanfon. Ac rwy'n credu mewn gwirionedd fy mod yn ei chael hi'n anodd gofyn i'r Prif Weinidog wneud mwy, gan na allaf feddwl am lawer mwy y gall ei wneud. Ond rwy'n credu mai'r hyn y byddwn i'n ei ddweud yw mai gweithio gartref, yn y pandemig cyntaf, oedd y norm ymhlith pobl yn y DVLA; ers yr ail gyfnod o gyfyngiadau symud, nid dyna yw'r norm. A hoffwn ofyn iddo ysgrifennu eto at y Farwnes Vere, i ddweud wrthi, lle gall pobl weithio gartref, eich bod yn disgwyl eu bod yn gwneud hynny—dyna yw'r gyfraith yng Nghymru.
Wel, Lywydd, a gaf fi ddiolch i Mike Hedges am hynny? Ac rwy'n hapus iawn i ysgrifennu eto at y Farwnes Vere, yn sgil y pryderon a fynegwyd ar lawr y Senedd. Lywydd, fel y dywedais, ysgrifennais at y farwnes, fel yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn yr Adran Drafnidiaeth, ar 22 Rhagfyr. Cefais ateb dyddiedig 23 Rhagfyr. A rhaid imi ddweud, yn ôl safonau'r ohebiaeth a welaf weithiau gan Whitehall, roedd hwn yn ateb manwl a pharod a oedd yn ymateb i'r materion a godwyd yn fy llythyr dyddiedig 22 Rhagfyr. Ysgrifennais eto ar 12 Ionawr, am fy mod yn dal i deimlo nad oedd yr ymateb cyntaf wedi ateb cyfres o faterion a godwyd yn uniongyrchol gyda ni fel Llywodraeth, gan gynnwys cyfran y staff y disgwylir iddynt fynychu'r gweithle yn y cnawd o gymharu â'r nifer sy'n gweithio gartref. Roedd yr ateb a gefais wedyn yn ymdrin yn uniongyrchol â nifer y bobl sy'n gweithio gartref, ynghyd â materion yn ymwneud â glanhau, awyru, ymgysylltu â staff, a nifer o faterion eraill a nodais yn fy llythyr. Fy mhryder i yw bod bwlch rhwng y cyngor y mae'r Is-ysgrifennydd Seneddol yn ei gael gan y rheolwyr ac eraill yn y fan a'r lle, o'i gymharu â'r dystiolaeth a ddarperir yn uniongyrchol i Aelodau yma gan bobl sy'n gweithio yn swyddfeydd amrywiol y DVLA. Ac rwy'n hapus iawn i ysgrifennu ati eto, i gyfleu pryderon yr Aelodau, a gofyn iddi unwaith eto i sicrhau bod y cyngor y mae'n dibynnu arno, neu'r—[Anghlywadwy.]—y mae'n ei ddarparu i Lywodraeth Cymru, yn ddilys o graffu arno gan y rhai sy'n gweithio yn y rheng flaen.
Diolch i'r Prif Weinidog. A'r ail gwestiwn atodol nesaf i'w ateb gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. Mi fyddaf i'n trosglwyddo'r gadair i Ann Jones yn y funud, ond dwi'n galw'n gyntaf ar David Rees i ofyn ei gwestiwn amserol. David Rees.