Part of the debate – Senedd Cymru am 4:24 pm ar 27 Ionawr 2021.
Mi fyddwn ni'n pleidleisio yn erbyn cynnig y Ceidwadwyr heddiw. Mi ydw i'n cyd-fynd â sawl elfen ohono fo. Dwi'n gresynu at ddechrau araf y cynllun yng Nghymru, er bod pethau yn amlwg yn cyflymu bellach. Ond dwi ddim, fel un pwynt penodol—. Wel, (1) dwi ddim eisiau cymryd gwersi gan y ffordd mae'r Llywodraeth yn Lloegr wedi delio efo'r pandemig, ond (2) dwi'n benodol ddim yn meddwl bod angen Gweinidog yn gyfrifol dim ond am frechu. Fel dwi wedi egluro o'r blaen, dwi'n credu bod hyn yn gymaint o flaenoriaeth i Gymru ar hyn o bryd bod rhaid i hyn fod yn ffocws y Gweinidog iechyd ei hun, a'r Prif Weinidog, hyd yn oed. Gallaf i ddim peidio â meddwl y byddai mynd trwy broses o benodi Gweinidog newydd yn amharu ar y ffocws sydd ei angen ar hyn yn hytrach na rhoi mwy o ffocws i'r gwaith.
Mi fyddwn ni hefyd heddiw yn pleidleisio yn erbyn gwelliant y Llywodraeth—eto, mae yna elfennau ohono fo dwi'n cyd-fynd â nhw—yn gyntaf, achos bod yna dal rhyw fethiant rhywsut i gydnabod a blaenoriaethu brys a chyflymder yn y broses frechu, ond hefyd, oherwydd bod y gwelliant yn cyfeirio cymaint at gyflenwad. Rydyn ni'n dal i aros am y data dwi wedi gofyn amdano fo dro ar ôl tro ynglŷn â chyflenwad, er mwyn gallu mesur hynny. Roeddwn i'n falch iawn bod y Gweinidog, o'r diwedd ddoe, yn ymateb i gwestiynau gen i, wedi cyfaddef y buasai gwneud data felly yn gyhoeddus yn beth da ac y bydd o'n gweld sut mae modd gwneud y ffigurau ar ddyraniadau y gwahanol frechlynnau i bedair gwlad y Deyrnas Unedig i weithio, drwy drafod hynny efo Gweinidogion ar draws y pedair gwlad. Mi edrychaf ymlaen at weld hynny yn digwydd.
O ran sylwadau pellach, dwi'n falch eto bod yna gyfle eto fan hyn i deulu teyrnged i dimau brechu ar draws yr NHS. Mae yna lawer iawn o dir wedi ei ennill, yn sicr, dros yr wythnos ddiwethaf. Mi ddylem ni i gyd ymfalchïo yn hynny. Ond rydym yn dal yn fyr o lle liciem ni fod a lle dywedodd y Llywodraeth y buasem ni erbyn hyn. Nid disgyn ychydig yn fyr o'r targed o frechu 70 y cant o bobl dros 80 oed ydy hitio 52.8 y cant; mae eisiau gonestrwydd yn hynny o beth. Felly, mi barhawn ni i ofyn cwestiynau, i wthio y Llywodraeth, i sicrhau bod y timau brechu yn cael y gefnogaeth a'r cyflenwadau maen nhw eu hangen.
Dau bwynt arall. Yn gyntaf, dwi eisiau gweld y buddsoddi sydd ei angen mewn isadeiledd brechu ar gyfer y cyfnod o'n blaenau ni. Nid dyma y tro olaf fydd angen brechu eang; rydym ni angen gwneud yn siŵr, pan rydym yn gorfod mynd trwy brosesau brechu fel hyn eto, o bosib fel rhan o'r pandemig yma, bod yna ddim arafwch fel rydym ni wedi'i weld yn digwydd dros y misoedd diwethaf yn cael ei ailadrodd. Mae angen buddsoddi mewn isadeiledd brechu ar gyfer hynny. Yn ail, dwi'n clywed bod Llafur yn Lloegr heddiw wedi gofyn am flaenoriaethu gweithwyr allweddol fel heddlu ac athrawon, fel dwi wedi'i wneud. Ymateb Llywodraeth Lafur Cymru ydy dweud, 'Na, mi fyddai hynny'n golygu dadflaenoriaethu pobl eraill'. Dwi'n dweud nad dadflaenoriaethu'r rheini sydd eisiau ond adeiladu mewn i'r system y cynllun ar gyfer sut mae'r grwpiau hynny yn cael eu cynnwys a'u hychwanegu at y cynlluniau sydd gennym ni ar hyn o bryd. Gadewch inni glywed hynny gan y Gweinidog yn ei ymateb o i'r ddadl yma heddiw. Diolch, Ddirprwy Lywydd.