Part of the debate – Senedd Cymru am 5:38 pm ar 2 Chwefror 2021.
Os gwnaiff y Senedd gymeradwyo'r Gorchymyn drafft heddiw, a gan fod Tŷ'r Cyffredin wedi'i gymeradwyo heddiw, a Thŷ'r Arglwyddi eisoes wedi gwneud hynny'r wythnos diwethaf, rydym yn disgwyl i'r Gorchymyn drafft gael ei gyflwyno i'w Mawrhydi yng nghyfarfod y Cyfrin Gyngor y mis nesaf. Rwy'n falch, felly, Dirprwy Lywydd, o symud y cynnig, a gofynnaf i'r Aelodau ei gefnogi.