11. & 12. Dadl: Egwyddorion Cyffredinol Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) a'r penderfyniad ariannol ynghylch Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws)

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:20 pm ar 2 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 6:20, 2 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Fel y dywedais i o'r blaen, nid bwriad Llywodraeth Cymru yw gohirio etholiad y Senedd. Mae hwn yn amddiffyniad i'w ddefnyddio dim ond pan ystyrir ei bod yn gwbl angenrheidiol i ddiogelu iechyd y cyhoedd rhag y risgiau a gaiff eu hachosi gan y coronafeirws—amddiffyniad yr ydym ni'n gobeithio na fydd yn rhaid i ni ei ddefnyddio byth. Fodd bynnag, fel Llywodraeth gyfrifol mae'n rhaid i ni wneud paratoadau sy'n caniatáu i ni ymateb i'r risgiau a gaiff eu hachosi gan y pandemig i ddiogelwch a thegwch yr etholiad. Diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau yn y ddadl hon a byddaf i'n ceisio rhoi sylw i gynifer ohonyn nhw ag y gallaf i.

Gan ddechrau gyda Mark Isherwood, mae arnaf i ofn fy mod i'n credu bod ganddo wyneb braidd i ddweud, 'Pam ydym ni yn y sefyllfa hon?' o gofio gwrthwynebiad blaenorol ei blaid, cyn y Nadolig, i unrhyw awgrym o gwbl ynghylch gohirio. Hoffwn i dynnu sylw hefyd at y ffaith bod y DU yn cyflwyno deddfwriaeth i ohirio etholiadau yn Lloegr mewn diwrnod os oes angen. Fe wnaethon nhw hynny yn union gyda'r Ddeddf perthynas yn y dyfodol, a oedd yn ymdrin â mater bach y cytuniad rhyngwladol pwysicaf y mae'r DU erioed wedi ei lofnodi mewn bron i 50 mlynedd—mewn un diwrnod. Felly, ni fyddaf i'n dysgu unrhyw wersi ganddo fe ynglŷn â'r angen i barchu'r angen i graffu mewn deddfwrfa. Mae'r mater a gododd ynghylch gwrthdaro buddiannau posibl gan y Prif Weinidog, wrth gwrs, yn cael ei ateb gan uchafiaeth y Llywydd a swyddogaeth y Senedd yn y Bil hwn, sef yr hyn y gwnes i ei nodi yn fy sylwadau agoriadol. Mae angen y pwerau arnom ni i wneud rheoliadau i ymdrin â'r pleidleisiau post sydd eisoes wedi eu bwrw a materion eraill o'r math hwnnw, y mae nifer o Aelodau wedi eu codi.

Mewn ymateb i nifer o bobl a ofynnodd, gan gynnwys Rhun ap Iorwerth, byddwn ni, wrth gwrs, yn cyflwyno ein hymateb ffurfiol i adroddiad y pwyllgor yfory, ond roeddwn i'n falch o allu mynd i'r afael â rhai o'r materion yn fy sylwadau agoriadol. Hefyd, o ran y canllawiau cyn yr etholiad, rydym ni'n sylweddoli bod hon yn sefyllfa wahanol iawn i'r arfer, ond byddwn ni'n eu cyhoeddi cyn gynted ag y bo modd i'r Aelodau allu gweld hynny. Rydym ni'n gweithio'n agos iawn gyda'r Pwyllgor Busnes, oherwydd byddwn ni eisiau sicrhau bod ochr Comisiwn y Senedd a rheolau ochr y Llywodraeth yn cyfateb a'u bod nhw mor glir ac mor hawdd eu defnyddio â phosibl. Rwyf i hefyd yn hapus iawn i gytuno ag awgrym Rhun ein bod ni'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd o ran dilyniant ein gwaith ar y mater hwn.

Mae'r Bil hwn yn gweithredu fel mesur wrth gefn hanfodol wrth baratoi ar gyfer etholiadau mis Mai. Ein gobaith a'n nod diffuant yw bod yr etholiad yn mynd yn ei flaen yn ôl y bwriad, a bod pobl Cymru yn gallu pleidleisio'n rhydd ac yn ddiogel ar 6 Mai. Rydym ni'n paratoi ar y sail honno ac felly ein partneriaid hefyd. Ond wrth gwrs, byddaii'n esgeulus i ni beidio â chydnabod nad yw hynt y pandemig hwn wedi bod yn llyfn, ac mae'n iawn y dylem ni, fel Llywodraeth gyfrifol, roi cynllun wrth gefn ar waith, hyd yn oed os yw'n un yr ydym ni'n gobeithio peidio byth â'i ddefnyddio.

O ran y sawl a ofynnodd i mi ba amgylchiadau y byddem ni'n disgwyl eu pwyso a'u mesur o ran gwneud y penderfyniad hwnnw, mae amrywiaeth enfawr o ffactorau i'w hystyried. Mae nifer o Aelodau wedi sôn amdanyn nhw, mewn gwirionedd—sefyllfa iechyd y cyhoedd, yr hyder mewn gweinyddu'r etholiad, ei effaith ar bleidleiswyr. Nid ydym ni'n nodi'r metrigau hynny yn benodol, oherwydd bod y sefyllfa yn parhau i symud mor gyflym ag y bu erioed yn y pandemig hwn. Yn amlwg, yr agosaf yr ydym ni'n dod at yr etholiad, y mwyaf yw'r risgiau o ran costau, goblygiadau ymarferol, dryswch pleidleiswyr ac yn y blaen, ac felly yn ddelfrydol byddem ni eisiau gwneud penderfyniad amserol.

Mae'n bwysig bod y Senedd yn gallu ymateb yn agos at ddyddiad y bleidlais hefyd, os oes angen, o ystyried pa mor gyflym y gall sefyllfa'r pandemig newid. Mae pob un ohonom ni yma wedi byw drwy newidiadau cyflym dros nifer o ddyddiau, weithiau, yn ystod y pandemig. Mae nifer o'r Aelodau wedi sôn, er enghraifft, fod y ffigurau yn gostwng ledled Cymru, a'n bod ni'n ddiolchgar iawn o weld hynny, ond bydd yr Aelodau wedi cofio adegau eraill yn y pandemig pan oedd ffigurau i'w gweld yn gostwng, ac yna'n gwrthdroi'n sydyn dros nos oherwydd bod amrywiolyn newydd yn codi neu ryw ffactor arall nad ydym ni eto wedi ei ystyried. Felly, rwy'n credu y byddai'n esgeulus iawn ceisio cyfyngu ar hynny. Llywydd, pe byddwn i'n gallu ei ddyfynnu, ac yn anffodus ni allaf i, byddwn i'n galw ar gymorth rhyw Donald Rumsfeld, ac yn siarad am y pethau anhysbys anhysbys y byddai'n rhaid i ni ymdrin â nhw yn y pandemig hwn wrth symud ymlaen.

Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelodau am eu cyfraniadau heddiw. Rwyf i yn eu hannog i bleidleisio o blaid y Bil hwn ac, wrth gwrs, y penderfyniad ariannol. Diolch yn fawr.