– Senedd Cymru am 5:43 pm ar 2 Chwefror 2021.
Felly, galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i gynnig y cynigion—Julie James.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae'r pandemig wedi cael effaith ddramatig ar ein bywydau, gan roi cyfyngiadau ar lawer o'r hawliau a'r rhyddid yr ydym yn eu trysori. Ym mis Mai, bydd pobl Cymru yn arfer eu hawl i leisio eu barn ar eu cynrychiolwyr etholedig pan fyddan nhw'n mynd i bleidleisio yn etholiad y Senedd. Barn gadarn y Llywodraeth yw y dylid cynnal yr etholiad yn ôl y bwriad ar 6 Mai. Rydym ni'n credu bod angen Senedd a Llywodraeth Cymru arnom â mandad newydd. Fodd bynnag, byddai'n anghyfrifol i ni beidio â pharatoi ar gyfer sefyllfa lle nad yw'n ddiogel i'r etholiad redeg yn ôl y bwriad oherwydd effaith y pandemig. Mae'r Bil hwn yn galluogi cytuno ar gynlluniau wrth gefn ar gyfer gohirio'r etholiad pan fydd popeth arall wedi methu yn unig, pe byddai'r pandemig yn fygythiad difrifol i redeg yr etholiad yn ddiogel ac yn deg.
Mae'r Bil yr ydym yn ei drafod heddiw yn ceisio diogelu un o'n hawliau mwyaf sylfaenol—yr hawl i bleidleisio—trwy alluogi pobl Cymru i gymryd rhan yn etholiad y Senedd. Os bydd yr etholiad yn cael ei gynnal ar 6 Mai yn ôl y bwriad, yna bydd yn ddiogel pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio, gyda'r holl fesurau y byddech yn eu disgwyl o ran hylendid a chadw pellter corfforol. Os na all yr etholiad ddigwydd, mae angen y Bil hwn arnom ni. Mae darpariaethau'r Bil hwn yn fesurau wrth gefn darbodus i sicrhau y gall swyddogion canlyniadau gyflawni'r etholiad yng nghyd-destun y pandemig sy'n datblygu. Mae perygl y gellir atal pleidleiswyr rhag pleidleisio, nid yn unig am resymau salwch neu'r angen i gydymffurfio â gofynion i hunanynysu, ond hefyd oherwydd ofnau a allai fod ganddyn nhw ynghylch diogelwch pleidleisio yn bersonol mewn gorsaf bleidleisio. Yn yr un modd, mae lefelau uchel o salwch hefyd yn peri'r risg na fydd digon o staff ar gael i weinyddu'r bleidlais, gyda risg ganlyniadol i uniondeb yr etholiad ei hun.
Yn gyntaf, mae adran 3 o'r Bil yn byrhau'r cyfnod diddymu o 21 diwrnod gwaith i saith diwrnod calendr. Bydd hyn yn caniatáu amser ychwanegol i'r Senedd ystyried deddfwriaeth hanfodol yn ymwneud â'r coronafeirws yn y cyfnod cyn yr etholiad. Pe byddai'r diddymiad yn digwydd fel y nodir mewn deddfwriaeth, byddai'r Aelodau yn peidio â bod yn Aelodau o 7 Ebrill, a byddai ein Senedd yn cael ei diddymu. Byddai'n anghyfrifol diddymu'r Senedd hon am fis cyfan yn ystod cyfnod o argyfwng cenedlaethol, pan fu ei chraffu yn elfen hanfodol o'r ymateb i'r pandemig. Mae gwaith craffu y ddeddfwrfa ar waith y Llywodraeth fwyaf hanfodol yn ystod argyfwng cenedlaethol.
Mae byrhau'r cyfnod diddymu yn darparu hefyd fod y Senedd hon ar gael i wneud penderfyniad ar ohirio'r etholiad. Ni fyddai'n iawn deddfu ar newidiadau i ddyddiad yr etholiad heb warantu y byddai'r Senedd ei hun yn gallu gwneud y penderfyniad terfynol. O ganlyniad, mae adran 10 hefyd yn addasu'r adeg pan ddaw unigolyn yn ymgeisydd yn yr etholiad. Mae hyn ynghlwm wrth y cyfnod diddymu ar hyn o bryd. Mae'r Bil yn datgysylltu'r ddau, fel y bydd unigolyn yn dod yn ymgeisydd yn etholiad y Senedd ar yr un pryd ag y byddai wedi ei wneud pe na byddai'r Bil wedi cynnig byrhau y cyfnod diddymu i saith diwrnod calendr. Er mwyn lliniaru unrhyw oedi i'r cyfrif ei hun, mae adran 4 yn gwneud newidiadau i'r amserlen ar ôl yr etholiad, gan ganiatáu diwrnod ychwanegol i'r cyfarfod cyntaf gael ei gynnal os bydd unrhyw oedi oherwydd y coronafeirws.
Gwnaeth y grŵp cynllunio etholiadau nifer o argymhellion i gynyddu hyblygrwydd wrth gynnal yr etholiad, ac rydym wedi cynnwys y rhain yn adran 10. Bydd pleidleisiau trwy ddirprwy brys ar gael i bleidleiswyr am reswm sy'n ymwneud â'r coronafeirws, sy'n golygu y bydd gan bleidleiswyr opsiynau ychwanegol os bydd hunanynysu yn eu hatal rhag mynd i orsaf bleidleisio yn bersonol. Mae'r Bil hefyd yn cyflwyno mwy o hyblygrwydd o ran cyflwyno papurau enwebu, a sut y gall ymgeisydd gydsynio i enwebiad.
Y ddarpariaeth yn y Bil hwn a drafodwyd fwyaf yw'r ddarpariaeth hefyd yr ydym yn gobeithio na fydd yn rhaid i ni ei defnyddio byth. Hynny yw, y pŵer newydd i'r Llywydd ohirio dyddiad y bleidlais i ddyddiad heb fod yn hwyrach na 5 Tachwedd 2021, am reswm sy'n ymwneud â'r coronafeirws, fel y nodir yn adran 5. Yn adran 6, mae'r Bil hefyd yn cyflwyno pŵer presennol y Llywydd i ohirio'r etholiad am hyd at fis am resymau nad ydyn nhw'n ymwneud â'r coronafeirws. Unwaith eto, hoffwn i bwysleisio mai ein bwriad cadarn yw y dylai'r etholiad gael ei gynnal fel y bwriadwyd ar 6 Mai, ac mai dim ond fel opsiwn wrth gefn y mae'r ddarpariaeth hon wedi ei chynnwys os nad yw'n ddiogel cynnal yr etholiad oherwydd y risg i iechyd y cyhoedd.
Nid yw'r Bil ei hun yn gwneud unrhyw newidiadau i ddyddiad yr etholiad. Mae dim ond yn darparu'r gallu i wneud hynny pe byddai ei angen. Byddai'r broses ohirio yn cael ei chychwyn drwy gynnig gan y Prif Weinidog i'r Llywydd, sydd yn ei thro yn cynnig dyddiad newydd i'w gyflwyno gerbron y Senedd. Mae'n rhaid i gynnig i ohirio'r etholiad gael cytundeb y Senedd gan fwyafrif o ddwy ran o dair o gyfanswm seddi'r Senedd.
Fel amddiffyniad pellach, mae'r Bil yn cynnig swyddogaeth i'r Comisiwn Etholiadol o ran gohirio. Os bydd y Llywydd neu'r Prif Weinidog yn gofyn, mae'n rhaid i'r Comisiwn Etholiadol roi cyngor iddyn nhw ar y mater gohirio. Yn yr un modd, mae adrannau 7 ac 8 hefyd yn mynd i'r afael ag is-etholiadau ar gyfer y Senedd ac ar gyfer llywodraeth leol. Maen nhw'n rhoi pŵer i'r Llywydd ohirio is-etholiadau'r Senedd, a phŵer gwneud rheoliadau i Weinidogion Cymru ohirio is-etholiadau llywodraeth leol.
Yn olaf, mae adran 12 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i wneud unrhyw ddarpariaethau cysylltiedig, atodol, canlyniadol, trosiannol, darfodol neu arbedol y maen nhw o'r farn eu bod yn briodol at ddibenion rhoi effaith lawn i'r Ddeddf, neu mewn cysylltiad â hynny. Mae hyn yn angenrheidiol er mwyn sicrhau, pe byddai'r etholiad yn cael ei ohirio, bod gan Weinidogion Cymru y gallu i wneud y trefniadau angenrheidiol ar gyfer effeithiau na ellid bod wedi eu rhagweld wrth ddatblygu'r Bil. Bydd y pŵer hwn hefyd yn darparu ar gyfer trefniadau ymarferol fel mynd i'r afael â blaendaliadau ymgeiswyr, dinistrio pleidleisiau post, ac yn y blaen, y gellir ymdrin â nhw drwy is-ddeddfwriaeth.
Roeddwn i'n falch o roi tystiolaeth ddoe i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ynglyn â'r Bil, ac rwy'n hynod ddiolchgar i'r Aelodau a'r swyddogion, a lwyddodd i lunio adroddiad erbyn amser cinio heddiw. Rwyf i wedi ystyried argymhellion y pwyllgor y prynhawn yma, ac rwy'n falch o dderbyn y rhan fwyaf ohonyn nhw.
Yn benodol, gallaf dderbyn argymhellion 8 a 9 o ran defnyddio'r weithdrefn amgen a wnaed yn hytrach na'r weithdrefn negyddol ar gyfer y rheoliadau; a rhan o argymhelliad 4, a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol i'r Prif Weinidog ymgynghori â'r prif swyddog meddygol cyn gwneud argymhelliad i ohirio. Rydym yn credu bod y ddarpariaeth o ran y Comisiwn Etholiadol yn ddigonol eisoes.
Argymhelliad 6, sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r Llywydd wneud datganiad yn esbonio ei phenderfyniad os bydd yn defnyddio ei phŵer presennol i amrywio'r bleidlais hyd at fis, rydym yn derbyn hyn at ddibenion tryloywder, er nad oes dyletswydd gyfatebol ar y Llywydd mewn etholiad arferol. Byddwn yn cyflwyno gwelliannau i fynd i'r afael â'r materion hyn.
Mae'n ddrwg gen i ddweud bod rhai argymhellion nad ydym mewn sefyllfa i'w derbyn ar hyn o bryd. O ran argymhelliad 1, nid yw Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei hasesiadau o gydweddu â deddfwriaeth hawliau dynol, ond rydym yn fodlon bod y Bil o fewn cymhwysedd ac nad yw'n torri Deddf Hawliau Dynol 1998. Nid wyf yn credu bod angen y cymal machlud, fel yr awgrymir yn argymhelliad 2. I'r graddau y mae angen terfynau amser ar y Bil, maen nhw eisoes wedi eu cynnwys yn nhestun y Bil.
Ac o ran argymhelliad 3, mae'r term 'priodol' yn ychwanegu hyblygrwydd, a byddai ei ddileu yn lleihau hyblygrwydd. Mae'n werth nodi bod y term 'priodol' yn cael ei ddefnyddio yn Neddf yr Alban hefyd. Rwyf i o'r farn y dylem ni gadw'r hyblygrwydd hwnnw yn y Bil, o ystyried natur anrhagweladwy y pandemig a'i effeithiau.
O ran argymhelliad 5, mae dealltwriaeth y pwyllgor, fel y nodir ym mharagraff 65 o'r adroddiad, yn gywir ar y cyfan. Mae gan y Llywydd ddisgresiwn i gynnig dyddiad. Fodd bynnag, y Llywydd sy'n gosod y dyddiad, ond dim ond os yw'r uwchfwyafrif yn cytuno ar y dyddiad.
Mewn ymateb i gwestiynau penodol y pwyllgor, nid yw'r Bil yn darparu ar gyfer pa un a ellir diwygio cynnig ai peidio. Gellid gwneud darpariaethau o'r fath yn y Rheolau Sefydlog, ac rydym ni wedi cychwyn trafodaeth gyda'r Pwyllgor Busnes ynglŷn â'r gweithdrefnau a allai fod yn briodol. Yn absenoldeb darpariaeth benodol yn y Rheolau Sefydlog, byddai cyflwyno a dethol gwelliannau yn fater i'r Llywydd. Os na fydd y Senedd yn pleidleisio o blaid dyddiad a gynigir gan y Llywydd, gall y Llywydd, mewn egwyddor, gynnig dyddiad arall. Unwaith eto, gellir gwneud darpariaeth ynglŷn â hyn yn y Rheolau Sefydlog. Ni fyddai cynnig dyddiad newydd yn gofyn am gynnig newydd gan y Prif Weinidog. Mae pŵer y Prif Weinidog yn ymwneud â chynnig gohirio'r etholiad, nid â'r dyddiad. Ni all y Llywydd bennu dyddiad ar gyfer etholiad gohiriedig o dan adran 5, ac eithrio un a gymeradwywyd yn benodol gan uwchfwyafrif y Senedd.
Mewn ymateb i argymhelliad 7, paratowyd gorchymyn adran 116—Gorchymyn breinlythyrau a phroclamasiynau 2021 Senedd Cymru—y mae disgwyl i'w Mawrhydi ei wneud yn y Cyfrin Gyngor ar 10 Chwefror. Mae'r Gorchymyn yn cynnwys math o eiriad ar gyfer proclamasiwn o dan adran 4(2) ac adran 5(4) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Rydym yn cynnig y gellir defnyddio ffurf y geiriad fel cynsail neu dempled ar gyfer proclamasiwn o dan adran 6 o'r Bil. Byddem yn trefnu i'r proclamasiwn gael ei gyhoeddi yn y newyddiaduron, a byddem, wrth gwrs, yn gweithio gyda'r Llywydd i dynnu sylw pawb sy'n ymwneud â'r etholiad at y newid i'r dyddiad ar unwaith. Mae fy swyddogion mewn cysylltiad â'r palas ynglŷn â hyn.
O ran argymhelliad 10, ni allaf gadarnhau yr union fanylion ar hyn o bryd, ond mae'r math o welliannau rwy'n eu harchwilio yn ymwneud ag addasiadau i sut y caiff ceisiadau am bleidleisiau post eu prosesu i leihau'r broses o wrthod ceisiadau o'r fath.
Ac yn olaf, mewn ymateb i argymhelliad 11, gallaf gadarnhau fy mod i'n bwriadu cyflwyno gwelliant yng Nghyfnod 2 a fyddai'n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru ddarparu ar gyfer diwrnodau pleidleisio ychwanegol yn yr wythnos cyn pleidleisio yn etholiad y Senedd, os caiff yr etholiad ei ohirio, a chyn belled nad yw'r bleidlais wedi ei chyfuno ag etholiadau'r comisiynydd heddlu a throseddu.
Mae'r cynnig penderfyniad ariannol sydd wedi'i gyflwyno yn cael ei ystyried heddiw hefyd. Byddai'r prif gostau yn y Bil hwn yn codi pe byddai'r etholiad yn cael ei ohirio. Nodir ein hamcangyfrif o'r costau yn yr asesiad effaith rheoleiddiol, sy'n cael ei osod gerbron y Senedd ochr yn ochr â thestun y Bil. Daw'r amcangyfrifon hyn o ffigurau ar gyfer yr etholiad yn 2016, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, ac maen nhw wedi eu diweddaru i brisiau cyfredol trwy ddefnyddio'r gyfres datchwyddydd cynnyrch domestig gros i gyrraedd cost 2021. Y dybiaeth yn yr amcangyfrif o'r costau hyn yw'r sefyllfa waethaf.
Dirprwy Lywydd, anogaf yr Aelodau i bleidleisio o blaid y Bil a'r penderfyniad ariannol i sicrhau bod gan bob un ohonom opsiynau wrth ymateb i'r pandemig. Diolch.
Galwaf nawr ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, Mick Antoniw.
Diolch, Llywydd. Cawsom dystiolaeth ar y Bil gan y Gweinidog ddoe, fel y soniwyd. Rwy'n ddiolchgar iawn i staff y Comisiwn a'r pwyllgor am y gwaith maen nhw wedi ei wneud i baratoi'r hyn sydd, yn fy marn i, yn adroddiad trylwyr a manwl iawn ar yr hyn sy'n ddarn pwysig iawn o ddeddfwriaeth etholiadol, ac felly cyfansoddiadol. Felly, rydym wedi rhoi sylw manwl iawn iddo mewn cyfnod byr iawn, iawn ac rydym yn ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am roi tystiolaeth ddoe, ond hefyd am y sylwadau manwl yr ydych wedi eu gwneud heddiw ynghylch y gwahanol argymhellion.
Byddaf yn trafod rhai o'r prif argymhellion. Wrth gwrs, fe wnaethom ni godi'r mater hawliau dynol eto, a'r diffyg cyfeiriad ato yn y memorandwm esboniadol. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol bod hwn yn fater yr ydym yn canolbwyntio arno yn sylweddol. Rwyf yn nodi sylwadau'r Gweinidog, ac yn cyfeirio'r Aelodau at yr argymhelliad yn yr adroddiad. Mae'r mater hawliau confensiwn yr un mor berthnasol.
Symudwn ymlaen at adran 1. Dywedodd y Gweinidog wrthym mai dim ond i etholiad 2021 y gall y Bil fod yn berthnasol. I bob pwrpas, mae'n darfod ar ôl 5 Tachwedd 2021. Nid oeddem yn gallu dod i gytundeb ynglyn â hyn. Er enghraifft, gallai'r pŵer yn adran 12 ganiatáu i Weinidogion Cymru ddiwygio'r dyddiad o 5 Tachwedd 2021, a nodir yn adran 5, drwy reoliadau, a dyna pam y gwnaethom argymhelliad 2, sef cymal machlud.
Gan gyfeirio at adran 5, mae hyn yn galluogi'r Prif Weinidog i gynnig i'r Llywydd fod etholiad 2021 yn cael ei ohirio am reswm sy'n ymwneud â'r coronafeirws, os yw'r Prif Weinidog o'r farn bod hynny'n angenrheidiol neu'n briodol. Bydd yr Aelodau yn ymwybodol iawn o'r pryderon sydd gan y pwyllgor ynghylch defnyddio'r term 'priodol', pa un a yw wedi ei gynnwys yn neddfwriaeth Cymru, deddfwriaeth yr Alban neu unrhyw ddeddfwriaeth arall. Felly, mae ein safbwynt ar hynny yn parhau, nad ydym yn credu ei fod yn rhywbeth a ddylai fod mewn deddfwriaeth, er ein bod ni yn cydnabod yr esboniad manwl amdano a roddodd y Gweinidog i'r pwyllgor.
O ran arfer y pŵer yn adran 5(1), ein pedwerydd argymhelliad yw diwygio'r Bil i'w gwneud yn ofynnol i'r Prif Weinidog ymgynghori â'r Comisiwn Etholiadol, y prif swyddog meddygol a phobl briodol eraill. Ac rwy'n ddiolchgar am sylwadau'r Gweinidog ynghylch hynny.
Gan symud ymlaen at y darpariaethau eraill yn adran 5, yn gyffredinol, nid ydym o'r farn bod geiriad adrannau 5(2), 5(3) na 5(4) mor glir ag y gallai fod. Nid yw'n hawdd dirnad union gyfres y camau sy'n gysylltiedig â gohirio etholiad, yn enwedig oherwydd y defnydd o 'gall' yn adran 5(2). Ein dealltwriaeth ni yw bod gan y Llywydd, yn ei hanfod, ddisgresiwn o dan adran 5 i gynnig dyddiad ar gyfer pleidlais ohiriedig, ond mai dim ond ar ôl i uwchfwyafrif o'r Senedd bleidleisio o'i blaid y bydd y dyddiad hwnnw yn cael ei osod yn sefydlog. Rwy'n credu mai dyna a wnaeth y Gweinidog ei gadarnhau. Ond ar y sail honedig honno, gofynnodd argymhelliad 5 i'r Gweinidog gadarnhau'r ddealltwriaeth honno. Rwy'n credu bod cadarnhad wedi ei roi, ac rwy'n ddiolchgar am hynny.
Gan droi yn awr at adran 6, sy'n rhoi'r pŵer i'r Llywydd amrywio dyddiad etholiad a ohiriwyd o dan adran 5 fis cyn neu ar ôl y dyddiad newydd, gan nad yw'r pŵer hwn wedi ei gysylltu yn uniongyrchol â'r pandemig ac y byddai'n diystyru dyddiad y bleidlais, fel y cytunwyd gan o leiaf 40 o Aelodau, mae argymhelliad 6 yn dweud y dylai fod yn rhaid i'r Llywydd gyhoeddi datganiad ar y rhesymau, ac rwy'n ddiolchgar bod y Gweinidog wedi cadarnhau bod hynny yn wir. Roeddem ni yn credu bod hwnnw yn gam rhesymol.
Os yw'r Llywydd yn cynnig amrywio dyddiad yr etholiad eto o dan adran 6(2) o'r Bil, mae adran 6(4) yn darparu i'w Mawrhydi, drwy broclamasiwn brenhinol, ddiddymu'r Senedd a'i gwneud yn ofynnol i'r bleidlais gael ei chynnal ar y diwrnod a gynigir gan y Llywydd. Ni nododd y Bil sut y byddai hyn yn gweithio yn ymarferol, ond rwy'n ddiolchgar am y sylwadau ychwanegol y mae'r Gweinidog wedi eu gwneud i egluro'r sefyllfa honno. Dywedodd argymhelliad 7, felly, y dylai'r Gweinidog esbonio i'r Aelodau y mesurau hynny, o ran y proclamasiwn, felly rydym yn ddiolchgar am hynny.
Gan droi yn awr at y pwerau i wneud rheoliadau yn adrannau 8 a 12 o'r Bil. Mae'r ddwy adran yn cynnwys pwerau Harri VIII, sy'n galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy'n addasu, diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad. Bydd rheoliad o'r fath yn ddarostyngedig i'r weithdrefn negyddol. At hynny, nid yw'r pŵer i wneud rheoliadau yn adran 8 wedi ei gysylltu yn uniongyrchol â'r coronafeirws. Felly, fel egwyddor gyffredinol, nid ydym o'r farn ei bod yn briodol diwygio deddfwriaeth sylfaenol drwy gyfrwng y weithdrefn negyddol, ac ni chawsom ein darbwyllo gan reswm y Gweinidog dros wyro oddi wrth yr egwyddor hon. Fodd bynnag, rydym ni yn cydnabod y gallai fod angen gweithredu'n gyflym. Er hynny, mae rheoliadau a wnaed eisoes mewn ymateb i'r coronafeirws wedi eu gwneud yn gyflym, ond nid yw hynny wedi golygu bod angen defnyddio'r weithdrefn negyddol. Rwy'n ymddiheuro os wyf i wedi methu sylwadau'r Gweinidog ynghylch hynny. Mae argymhellion 8 a 9 yn nodi y dylid diwygio'r Bil fel bod rheoliadau a wneir o dan adrannau 8 a 12 sy'n diwygio deddfwriaeth sylfaenol yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol a wnaed, ac rwy'n ddiolchgar am sylwadau'r Gweinidog wrth dderbyn y pwynt hwnnw.
Gan droi yn olaf at bleidleisio drwy'r post a phleidleisio'n gynnar. Fe wnaethom ni ofyn i'r Gweinidog roi rhagor o eglurder i'r Aelodau ar fwriadau Llywodraeth Cymru o ran pleidleisio drwy'r post a phleidleisio'n gynnar. Mae ymdrin â'r Bil fel Bil brys yn cyfyngu ar yr amser sydd ar gael i ddeall ei ddarpariaethau yn llawn. Fodd bynnag, rydym ni wedi dod i'r casgliad bod gwneud darpariaeth ddeddfwriaethol a fydd yn galluogi gohirio etholiad 2021, ac is-etholiadau'r Senedd a llywodraeth leol, am gyfnod byr yn ateb pragmatig, o ystyried argyfwng iechyd cyhoeddus parhaus y coronafeirws.
Pe cytunir ar yr egwyddorion cyffredinol heddiw, nod ein hadroddiad yw rhoi rhagor o wybodaeth i'r Aelodau a allai lywio gwaith craffu a thrafodaethau yn ystod y camau dilynol. Diolch, Llywydd.
Wel, wrth geisio cytundeb y Senedd hon i Egwyddorion Cyffredinol Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws), mae Llywodraeth Cymru yn ei hanfod yn gofyn i ni ailgylchu'r pwyntiau a'r dadleuon a wnaed pan wnaethom ni drafod a chytuno i gyflwyno Bil brys hwn y Llywodraeth wythnos yn ôl. Fel y dywedais i bryd hynny, mae Bil brys yn
'symleiddio prosesau deddfu ac atebolrwydd y Senedd'— ac felly
'dim ond pan fydd argyfwng gwirioneddol ac anrhagweladwy y dylid ei defnyddio.'
Fel y nodais i hefyd bryd hynny,
'Cyflwynwyd Bil Etholiad Cyffredinol yr Alban (Coronafeirws), sy'n galluogi Gweinidogion Llywodraeth yr Alban i ohirio etholiad cyffredinol yr Alban y tu hwnt i 6 Mai, yn amodol ar bleidlais o Senedd gyfan yr Alban, yn Senedd yr Alban am y tro cyntaf'— fis Tachwedd diwethaf, ac
'er iddo gael ei basio drwy amserlen ar garlam, roedd gan Aelodau Senedd yr Alban dros bum wythnos o hyd i ystyried y Bil.'
Mae amserlen arfaethedig Llywodraeth Cymru ar gyfer y Bil hwn, mewn cyferbyniad, yn rhoi pythefnos o graffu yn unig i ni tan Gyfnod 3 yr wythnos nesaf. Er y bu argyfwng y pandemig yma ers mis Mawrth 2020 ac rydym ni wedi bod yn ymwybodol o ddyddiad etholiad nesaf Senedd Cymru am bum mlynedd, ni wnaeth y Prif Weinidog awgrymu newid y rheoliadau tan fis Tachwedd diwethaf. Felly mae'n rhaid i ni ofyn unwaith eto pam mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi ei hun mewn sefyllfa lle mae angen iddi fod yn defnyddio gweithdrefnau brys o'r fath, pan oedd yn amlwg y byddai'r pandemig yn dal i fod yn rheoli'r agenda? Yn ddealladwy, mae pryder ynghylch creu gwrthdaro buddiannau lle mai'r Prif Weinidog, sydd wedi ei rymuso gan y ddeddfwriaeth hon i ofyn yn ffurfiol am oedi'r etholiad yw'r un person a fydd yn arwain yr ymgyrch etholiadol ar gyfer un o'r pleidiau yn yr etholiadau hyn—Llafur Cymru.
Fe wnaethom ni bleidleisio yr wythnos diwethaf i gytuno y gall Llywodraeth Cymru gyflwyno'r Bil hwn fel Bil brys yn y Senedd, gan gydnabod yr angen posibl am oedi ar sail y sefyllfa iechyd cyhoeddus sy'n dirywio'n wael. Fodd bynnag, fel y dywedais bryd hynny, 'dim ond rhoi benthyg ein pleidlais a wnawn.' Nid yw Llywodraeth Cymru wedi dweud pa sefyllfa y bydd angen i'r pandemig fod ynddi i'w gwneud yn ofynnol i'r etholiad gael ei oedi, a byddai ein cefnogaeth barhaus yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru nodi beth fydd angen i'r trothwy fod cyn i'r Prif Weinidog wneud cais yn ffurfiol am yr oedi. Rydym yn pryderu eu bod nhw'n dal i ddod o hyd i resymau dros beidio â gwneud hyn, ac felly rydym ni'n eu hannog i nodi difrifoldeb ein safbwynt ar hyn.
Rydym ni yn cydnabod bod rhinwedd i lawer o gynnwys y Bil. Fodd bynnag, rydym yn parhau i bryderu ei bod yn bosibl mai dim ond yn ddiweddarach y byddai rhywfaint o'r cynnwys arfaethedig yn cael ei gyflwyno, fel gwelliannau Llywodraeth Cymru. Fe wnaethom ni gymryd rhan yng ngrŵp cynllunio etholiadol Llywodraeth Cymru, ac mae gennym ni nifer o bryderon o hyd ers y grŵp cynllunio, gan gynnwys ymestyn y pleidleisio dros sawl diwrnod, lle byddai pleidleiswyr, er enghraifft, yn cael eu difreinio pe byddan nhw'n credu y byddai pleidleisio dros Senedd Cymru ar ddiwrnod arall yn dal i ganiatáu iddyn nhw bleidleisio dros eu comisiynydd heddlu a throseddu. Ac eithrio pleidleisio absennol felly, byddwn ni'n ceisio cefnogaeth y Senedd i atal y pleidleisio mewn gorsafoedd dros sawl diwrnod. Byddwn ni hefyd yn ceisio cefnogaeth y Senedd i sicrhau bod yr Aelodau yn cael eu hatal rhag defnyddio eu lwfans swyddfa neu eu lwfans cyfathrebu i hyrwyddo eu hunain yn ystod yr hyn a fyddai wedi bod y cyfnod diddymu; i leihau o 21 nifer y diwrnodau sydd eu hangen ar y Senedd nesaf iddi gynnal ei chyfarfod cyntaf lle y gellir cynnal y trefniadau tyngu llw ar-lein, a gellir trefnu diwrnodau tynnu lluniau i'r Aelodau newydd gael tynnu eu llun yn y Siambr os byddai hynny'n cael ei ganiatáu o dan y rheolau COVID ar y pryd; i leihau'r cyfnod y mae'r grym i ohirio'r etholiad yn berthnasol iddo o chwech i bedwar mis, pan fydd angen i ni gynnal yr etholiad cyn unrhyw gynnydd posibl mewn achosion COVID-19 yn ystod y misoedd oerach; ac i atal y sefyllfa lle y gallai'r etholiad gael ei ohirio fwy nag unwaith. Mae angen eglurder hefyd ynghylch beth fyddai'n digwydd i bleidleisiau post a gaiff eu bwrw cyn cytuno ar oedi'r etholiad. Mae'r pandemig wedi taflu goleuni llachar ar Lywodraeth ddatganoledig yng Nghymru, a dim ond o dan amgylchiadau brys eithriadol y dylid ystyried gohirio etholiad cyffredinol Cymru sydd i'w gynnal ar 6 Mai. Diolch.
Mi bwysleisiaf innau'r amlwg i ddechrau: mae'r amserlen ar gyfer y Bil yma yn dynn iawn, iawn, iawn. Mi ddylai hwn fod wedi digwydd ynghynt, ac mae yna bryder bod yna ddiffyg cyfle rŵan i roi'r ystyriaeth fuasem ni'n dewis ei rhoi i'r materion sy'n codi o'r memorandwm esboniadol ac adroddiad y pwyllgor deddfwriaeth hefyd—a dwi'n eu llongyfarch nhw am droi adroddiad rownd dros nos neithiwr, dwi'n deall. Ond mi fyddwn ni'n cefnogi'r Bil yng Nghyfnod 1 heddiw i ganiatáu iddo fo symud ymlaen i'r cyfnod nesaf, pan allwn ni gyflwyno gwelliannau i gryfhau'r Bil a mynnu mwy o sicrwydd am rai agweddau penodol, ac mi wnaf i sôn am rai o'r agweddau yna a gofyn i'r Gweinidog os gall hi roi ymateb llawn i'r pwyntiau naill ai yn ei hymateb i'r ddadl y prynhawn yma neu yn ysgrifenedig mor fuan â phosib ar ôl y ddadl heddiw er mwyn inni allu cyflwyno gwelliannau ystyrlon yng Nghyfnod 2 o fewn amserlen dynn iawn.
Ychydig o sylwadau am y cyfnod diddymu yn gyntaf, y cyfnod sydd yno i roi tegwch i bob ymgeisydd sicrhau bod adnoddau cyhoeddus ddim yn gallu cael eu camddefnyddio. Mae o'n fecanwaith hefyd i sicrhau tegwch a chydbwysedd rhwng Llywodraeth y dydd a'r gwrthbleidiau drwy'r confensiwn purdah a'r nod, wrth gwrs, ydy sicrhau integriti'r etholiad. Mae'n rhaid ei gael o. Mi oedd y peryg o golli hwnnw oherwydd amgylchiadau'r pandemig yn gyfan gwbl yn achos pryder mae'n rhaid dweud. Dwi'n deall bod y Pwyllgor Busnes wedi cytuno mewn egwyddor y bydd yna gyfnod cyn diddymu, pre-dissolution, rŵan a fydd yn debyg i gyfnod diddymu ond, ar yr un pryd, yn rhoi hyblygrwydd i adalw'r Senedd am resymau'n gysylltiedig â'r pandemig. Mae hynny yn mynd peth o'r ffordd i leddfu pryder. Rydw i'n deall bod y Llywodraeth wedi cynnig sut allai gweithgarwch gael ei gwtogi—stopio cyflwyno cwestiynau ysgrifenedig, er enghraifft, rhag ffafrio Aelodau presennol—ond dydyn ni ddim eto, hyd y gwn i, wedi gweld y canllawiau am oblygiadau'r cyfnod cyn diddymu i weithgarwch y Llywodraeth. Rydw i'n deall bod canllawiau o'r fath wedi cael eu cyhoeddi mor fuan â Rhagfyr 2015 ar gyfer etholiad 2016 dan y trefniadau arferol. Mae'n rhaid inni gael eglurder am y canllawiau a fydd yn berthnasol i'r Senedd a'r Llywodraeth fel ei gilydd er mwyn gallu ymdrin yn briodol efo'r Bil yma.
Rydw i am wneud ambell i sylw ynglŷn â'r angen i sicrhau bod iechyd cyhoeddus a iechyd ein democratiaeth ni yn rhan o'r hafaliad fel ei gilydd yn y penderfyniadau sydd o'n blaenau ni. Fel y dywedais i'r wythnos diwethaf, yr her sydd gennym ni ydy ystyried y darlun llawn hwnnw a chydbwyso’r gwahanol risgiau. Mae'r broses o alluogi bwrw pleidlais a'r broses o alluogi cyfri'r pleidleisiau hynny'n ddiogel yn allweddol, ond yr un mor bwysig yw galluogi trafodaeth ystyrlon efo pobl Cymru wrth iddyn nhw ethol llywodraeth am y pum mlynedd nesaf. Mae'r risg i intregiti'r etholiad o'i chynnal hi heb allu cael y drafodaeth ystyrlon honno yn dal, imi, ar goll braidd o edrych ar y memorandwm esboniadol.
Rydyn ni'n fawr callach am y sefyllfa o ran dosbarthu taflenni a dulliau ymgyrchu eraill. Ai dim ond drwy'r Post Brenhinol mae modd dosbarthu taflenni ar hyn o bryd? A oes modd talu rhywun neu asiantaethau cwmnïau eraill i wneud hynny? Mae eisiau edrych ar sut mae dosbarthu taflenni am elw yn dderbyniol ond dosbarthu gwirfoddol ddim. Mae yna beth gwybodaeth i bleidiau gwleidyddol yn adran FAQs lefel rhybudd 4 y Llywodraeth ar ddulliau ymgyrchu. Rydyn ni'n annog pleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr ac ymgyrchwyr i ystyried yr ystod lawn o ddulliau, gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol sydd ar gael iddynt i ddarparu gwybodaeth i etholwyr. Mae gen i ofn bod hyn yn gwbl annigonnol ac yn methu'r pwynt sylfaenol rydw i ac eraill wedi ei godi—nid pawb sydd ar y cyfryngau cymdeithasol ac nid pob ymgeisydd sydd am fod yn ddigon ariannog i dalu i ddosbarthu gwybodaeth. Pryd fydd yna ganllawiau cynhwysfawr ar gael i bleidiau gwleidyddol yn dangos yn glir beth allan nhw ei wneud o dan bob un o'r lefelau rhybudd yng nghynllun COVID Llywodraeth Cymru?
Yn olaf, Llywydd, rydw i'n troi at yr angen am eglurder am yr amserlen ar gyfer gwneud penderfyniad ac at yr angen am ddiweddariadau cyson am statws yr etholiad. O ran yr amserlen pendefynu, pe byddai angen gohirio'r etholiad, rydw i'n credu bod awgrym o saith diwrnod cyn diwrnod pleidleisio yn dynn iawn, iawn. Dydy hi ddim yn glir a allai pŵer presennol y Llywodraeth gael ei ddefnyddio mor hwyr â 3 Mai, wythnos yr etholiad ei hun. Mi fydd llawer o bobl wedi pleidleisio'n barod drwy'r post erbyn hynny, felly beth fyddai'n digwydd i'w pleidleisiau nhw ac ati? Gan nad ydy hi'n glir beth fyddai'r amodau neu'r trothwy iechyd cyhoeddus fyddai'n cael eu defnyddio i benderfynu a ydy hi'n ddiogel i'r etholiad fynd yn ei blaen ai peidio a bod y Bil fel y mae o yn darparu ar gyfer gohirio'r etholiad yn hwyr iawn yn y dydd, mi fyddwn ni'n ystyried cyflwyno gwelliant yng Nghyfnod 2 i'w gwneud hi'n ofynnol i Weinidogion Cymru roi diweddariadau cyson inni ar statws y paratoadau ar gyfer yr etholiad a'r gallu i'w gynnal o yn ddiogel i gydfynd â'r adolygiadau tair wythnos o reolau COVID. Mae hynny'n lleiafswm, dwi'n meddwl, o ran gofynion. Tybed beth fyddai'r cyngor gwyddonol ar gyfer caniatáu i'r etholiad fynd rhagddo petai o'n cael ei gynnal yfory, er enghraifft. Llawer o gwestiynau i'w gofyn, amserlen dynn, ac rydyn ni angen eglurder ar frys gan y Llywodraeth ar nifer o'r pynciau hyn.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am y ffordd y mae hi wedi cyflwyno'r ddeddfwriaeth hon y prynhawn yma. Byddwn i'n dweud yn dyner iawn wrth y Ceidwadwyr fod angen iddyn nhw ddysgu peidio â gwrthwynebu popeth y mae'r Llywodraeth yn ceisio ei wneud wrth ymdrin â'r pandemig hwn. Mae'r rhain yn ddyddiau hynod anodd, ac rwyf i yn cydymdeimlo yn fawr â'r Gweinidog wrth wneud y penderfyniadau y mae wedi eu hamlinellu i ni, ac rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd ar bob un ohonom ni sy'n eistedd yma, pa ran bynnag o'r Siambr yr ydym ni'n ei chynrychioli, i geisio mewn gwirionedd rhoi ein democratiaeth o flaen unrhyw ystyriaeth arall.
Dywedais yr wythnos diwethaf yn fy nghyfraniad i fy mod i'n cefnogi cyflwyno'r Bil hwn, fy mod i'n cefnogi proses Bil brys a fy mod i'n credu bod hynny yn arfer y pwerau hyn mewn modd teg a da, ac rwyf i hefyd yn cefnogi arfer y pwerau y mae'n ei ddarparu i Weinidogion. Ond rwyf i yn credu, wrth arfer y pwerau hyn a cheisio'r pwerau hyn, y dylai Gweinidogion hefyd amlinellu i ni o dan ba amgylchiadau y maen nhw'n rhagweld y bydd y pwerau hyn yn cael eu harfer. Rwy'n hapus gyda'r prosesau a'r mesurau diogelu sy'n rhan o'r Bil. Rwy'n credu ei fod yn darparu ar gyfer craffu democrataidd da a chytundeb democrataidd eang ar y materion hyn, sy'n mynd y tu hwnt i blaid wleidyddol unigol. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig cael yr ymdeimlad hwnnw o fenter ar y cyd ar draws y Siambr. Ond mae yn bwysig, wrth geisio pwerau, pwy bynnag yw hwnnw, boed y Prif Weinidog, y Gweinidog neu hyd yn oed y Llywydd, fod y bobl hynny yn amlinellu o dan ba amgylchiadau y byddai'r pwerau hynny yn cael eu harfer. Mae gen i ddiddordeb mewn deall beth yw'r amserlen ar gyfer penderfyniadau o'r fath. Mae gennym ni etholiad rai wythnosau i ffwrdd, o bosibl. Ar ba bwynt y mae hynny yn anghynaliadwy? Ar ba bwynt y mae'r Gweinidog yn rhagweld y bydd hi'n dod i'r lle hwn gyda chynnig neu'n gofyn am yr awdurdod i wneud cynnig o'r fath? Ar ba bwynt y mae etholiad ar 6 Mai yn dod yn opsiwn anghynaliadwy?
Ac yna, yn ogystal â deall yr amserlen, beth yw'r meini prawf, y prosesau a'r amgylchiadau a fyddai'n llywio penderfyniad? Mae cyfradd y coronafeirws ym Mlaenau Gwent wedi gostwng yn fwy nag mewn bron i unrhyw ran arall o Gymru, ac erbyn hyn mae'n un o'r rhannau isaf yng Nghymru. Byddai'n ddiddorol, rwy'n credu, i ni ddeall sut y byddai'r gwahanol niferoedd yr ydym yn eu gweld yn cael eu hadrodd bob dydd yn dylanwadu ar benderfyniad ac yn ei lunio. Ai'r gyfradd achosion fesul 100,000? Ai dyna'r hyn fydd yn llywio penderfyniad? A fydd yn ffigur cenedlaethol, neu'n un sy'n ystyried yr ardal? Felly, er enghraifft, os oes problem wirioneddol ddifrifol mewn un rhan o Gymru, a fyddai hynny'n golygu bod angen gohirio'r etholiad ar gyfer Cymru gyfan am gyfnod? Mae angen i ni ddeall beth yw'r meini prawf hyn.
Ac, yn olaf, roeddwn i'n credu bod y pwyntiau a wnaeth Rhun ap Iorwerth yn bwerus iawn ac wedi eu gwneud yn dda iawn. Mae angen i hwn fod yn etholiad diogel, yn sicr, ond mae angen iddo fod yn etholiad teg hefyd, ac mae angen iddo ymddangos yn deg hefyd, ac mae hynny'n golygu'n arbennig yn deg i'r sefydliadau hynny, pleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr na fydd ganddyn nhw'r adnoddau sydd gan y rhan fwyaf o'r pleidiau sydd wedi eu cynrychioli yma y prynhawn yma. I lawer ohonom ni, mae gennym ni bleidiau etholaethol strwythuredig, mae gennym ni bleidiau cenedlaethol strwythuredig sy'n gallu cynnal ymgyrch, ond mae'n rhaid i ni beidio â chamddefnyddio'r fraint o fod yn dal sedd, ac mae hynny'n golygu galluogi a chaniatáu a chreu'r lle i gael ein herio a chael ein herio'n deg ar gyfer ein seddi. Felly rwy'n gobeithio, ym mis Mai neu pryd bynnag y bydd yn digwydd, y byddwn yn cael etholiad teg yn ogystal ag etholiad diogel. Diolch yn fawr iawn, Llywydd.
Diolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r ddadl heddiw. Rwyf i yn derbyn ei sicrwydd mai mesur wrth gefn yw hwn, fodd bynnag, nid ydym ni ym Mhlaid Diddymu Cynulliad Cymru yn gweld yr angen i ddeddfu i ohirio'r etholiad ac rydym ni'n credu y dylem ni ganolbwyntio ar sicrhau bod yr etholiad yn mynd yn ei flaen yn unol â'r bwriad ddydd Iau 6 Mai. Rwy'n nodi eto bod gan y Llywydd yr awdurdod i ohirio etholiad hyd at fis os yw sefyllfa iechyd y cyhoedd yn galw am hynny yn wirioneddol. Ond mae angen i ni fod yn ofalus yma. Dim ond am bum mlynedd y gwnaeth y pleidleiswyr ein hethol ni ac efallai nad ydyn nhw'n rhy hapus i'r Aelodau yn y lle hwn—gan gynnwys fi fy hun, wrth gwrs—barhau y tu hwnt i'w tymor gorfodol. Mae Aelodau Llafur wedi bod yn gadarn iawn wrth wneud y pwynt hwn yn y gorffennol diweddar, yn enwedig Alun Davies, yr ydym ni newydd glywed ganddo. Rwy'n gwybod ei fod yn dweud rhywbeth ychydig yn wahanol nawr, ond ychydig bach o amser yn ôl, yr oedd yn dweud wrthym ni fod tymor y Cynulliad hwn—y pumed Cynulliad—eisoes wedi bod yn rhy hir.
Byddai gohirio etholiad y tu hwnt i 6 Mai yn atal democratiaeth i bob pwrpas. Felly, mae'n rhaid i ni fod yn ofalus nad ydym ni'n mynd ar hyd y trywydd hwn. Rwy'n credu, er bod Alun yn cefnogi'r ddeddfwriaeth heddiw, ei fod newydd godi rhai cwestiynau perthnasol iawn, y mae'n rhaid i'r Gweinidog eu hateb o hyd; er enghraifft ar ba sail benodol y gallai'r etholiad gael ei ohirio os ydym ni'n pasio'r ddeddfwriaeth hon. Oherwydd yn amlwg, fel yr oedd y Gweinidog yn glir yn ei gylch pan agorodd y ddadl, nid yw'r ddeddfwriaeth hon ynddi ei hun yn oedi etholiad; dim ond rhoi cynllun wrth gefn ar gyfer gwneud hynny y mae'n ei wneud. Felly, mae angen iddi hi esbonio i ni ar ba sail benodol a neilltuol y gallai'r etholiad gael ei ohirio. Rwy'n credu bod angen i ni wybod hynny.
Mae materion eraill. Nid yw'r mater hwn o fewn rheolaeth Llywodraeth Cymru yn llwyr, oherwydd bod etholiadau'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn cael eu cynnal ar yr un pryd, mae'n debyg. Llywodraeth y DU sy'n pennu'r dyddiad ar gyfer y rhain, felly mae'n bosibl ein bod yn arwain at sefyllfa lle mae Llywodraeth y DU yn penderfynu ein bod ni'n mynd i gael etholiad yng Nghymru ar 6 Mai, sef etholiad y Comisiynydd. Pe byddai hynny yn wir, byddai'n hurt yn fy marn i pe byddai Llywodraeth Cymru wedyn yn dweud nad yw'n bosibl i ni gael etholiad y Senedd ar yr un diwrnod, oherwydd byddai gwneud hynny yn golygu cael dau etholiad ar wahân yn lle un. Byddai hefyd yn cynyddu'r gost o gynnal yr etholiadau hyn, gan wastraffu arian trethdalwyr. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru yn dda iawn am wneud hynny, ond nid wyf i'n credu y dylen nhw fod yn ei wneud fel mater o arfer. Felly, rwyf i'n credu bod yn rhaid i ni wneud unrhyw benderfyniad yng nghyd-destun yr hyn sy'n digwydd gydag etholiad y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, ac mae hynny yn fater i Lywodraeth y DU.
I wneud achos mwy cadarnhaol, mae cyfraddau brechu yn gwella yng Nghymru, felly mae yn ymddangos y gallai'r gwaethaf o'r pandemig fod y tu ôl i ni erbyn i ni gyrraedd mis Mai. Felly, gallai mynd ar drywydd penderfynu oedi gael ei ddehongli fel cyfaddefiad o fethiant o ran sefyllfa iechyd y cyhoedd, sydd yn gwella mewn gwirionedd. A gaf i nodi hefyd, gan ychwanegu at bwyntiau a wnaeth Mark Isherwood, fod y pandemig hwn a'r cyfyngiadau symud amrywiol wedi bod gyda ni ers misoedd lawer erbyn hyn? Felly mae'r awdurdodau perthnasol yng Nghymru wedi cael digon o amser i gynllunio ar gyfer yr etholiad hwn. I gloi, mae angen i ni gael yr etholiad hwn ar 6 Mai, ac felly, â phob parch, ni fydd Diddymu Cynulliad Cymru yn cefnogi'r ddeddfwriaeth hon. Diolch yn fawr.
Rwy'n dweud eto bod yn rhaid i etholiad ar 6 Mai ddigwydd os yw hynny'n bosibl o gwbl, fel y mae fy nghyfaill Alun Davies wedi ei ddweud droeon. Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud wrth y rhai sy'n gwrthwynebu'r estyniad posibl yw sut y byddech chi'n ymdrin â phleidleisiau post nad oes modd eu casglu, achosion newydd o COVID-19 ar raddfa fawr lle mae pobl yn cael gorchymyn i aros gartref, neu le nad yw'n bosibl i staffio gorsafoedd pleidleisio? I'r rhai hynny sy'n dweud nad yw hynny'n bosibl, a gaf i eich tywys chi yn ôl i 2001, pan wnaethom ni ohirio'r etholiad cyffredinol ac etholiadau'r cyngor oherwydd clwy'r traed a'r genau? Felly, gall ddigwydd.
Mae gen i un pryder ynghylch y ddeddfwriaeth. Fel y bydd unrhyw un sydd wedi bod yn asiant etholiadol yn dweud wrthych chi, mae llawer iawn o bleidleisiau post yn cael eu hanghymhwyso oherwydd bod y dyddiad dychwelyd, nid y dyddiad geni, wedi ei gofnodi, neu nad yw'r llofnod yn cyfateb. Yn aml, mae hynny oherwydd strôc neu glefyd Parkinson sydd wedi digwydd ers i'r person wneud cais am bleidlais bost ac mae ei lofnod wedi newid, ac wedi newid yn sylweddol. Rwy'n deall bod ein partneriaid yn y DU wedi ysgrifennu at y Gweinidog neu eu bod yn bwriadu ysgrifennu at y Gweinidog i godi'r union bwynt hwnnw. A gaf i ofyn i ni ddilyn America, a chaniatáu i bobl gywiro'r ffurflen drwy anfon eu dyddiad geni, a chaniatáu iddyn nhw egluro pam nad yw'r llofnod yn cyfateb hefyd?
O ran dosbarthu taflenni, mae gen i daflenni gyda'r argraffwyr sy'n aros i fynd allan, mae gen i daflenni yn barod i fynd at yr argraffwyr yn barod i fynd allan, ond rwy'n credu bod yn rhaid i ddiogelwch y cyhoedd ddod yn gyntaf. Er cymaint y byddwn i'n hoffi bod yn crwydro'r strydoedd yn dosbarthu taflenni—i fy helpu i golli rhywfaint o bwysau os nad dim byd arall—rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn i ni ofalu am iechyd ein hetholwyr a'n hymgyrchwyr, ac ymgysylltu dim ond pan fydd yn ddiogel.
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i ymateb i'r ddadl—Julie James.
Fel y dywedais i o'r blaen, nid bwriad Llywodraeth Cymru yw gohirio etholiad y Senedd. Mae hwn yn amddiffyniad i'w ddefnyddio dim ond pan ystyrir ei bod yn gwbl angenrheidiol i ddiogelu iechyd y cyhoedd rhag y risgiau a gaiff eu hachosi gan y coronafeirws—amddiffyniad yr ydym ni'n gobeithio na fydd yn rhaid i ni ei ddefnyddio byth. Fodd bynnag, fel Llywodraeth gyfrifol mae'n rhaid i ni wneud paratoadau sy'n caniatáu i ni ymateb i'r risgiau a gaiff eu hachosi gan y pandemig i ddiogelwch a thegwch yr etholiad. Diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau yn y ddadl hon a byddaf i'n ceisio rhoi sylw i gynifer ohonyn nhw ag y gallaf i.
Gan ddechrau gyda Mark Isherwood, mae arnaf i ofn fy mod i'n credu bod ganddo wyneb braidd i ddweud, 'Pam ydym ni yn y sefyllfa hon?' o gofio gwrthwynebiad blaenorol ei blaid, cyn y Nadolig, i unrhyw awgrym o gwbl ynghylch gohirio. Hoffwn i dynnu sylw hefyd at y ffaith bod y DU yn cyflwyno deddfwriaeth i ohirio etholiadau yn Lloegr mewn diwrnod os oes angen. Fe wnaethon nhw hynny yn union gyda'r Ddeddf perthynas yn y dyfodol, a oedd yn ymdrin â mater bach y cytuniad rhyngwladol pwysicaf y mae'r DU erioed wedi ei lofnodi mewn bron i 50 mlynedd—mewn un diwrnod. Felly, ni fyddaf i'n dysgu unrhyw wersi ganddo fe ynglŷn â'r angen i barchu'r angen i graffu mewn deddfwrfa. Mae'r mater a gododd ynghylch gwrthdaro buddiannau posibl gan y Prif Weinidog, wrth gwrs, yn cael ei ateb gan uchafiaeth y Llywydd a swyddogaeth y Senedd yn y Bil hwn, sef yr hyn y gwnes i ei nodi yn fy sylwadau agoriadol. Mae angen y pwerau arnom ni i wneud rheoliadau i ymdrin â'r pleidleisiau post sydd eisoes wedi eu bwrw a materion eraill o'r math hwnnw, y mae nifer o Aelodau wedi eu codi.
Mewn ymateb i nifer o bobl a ofynnodd, gan gynnwys Rhun ap Iorwerth, byddwn ni, wrth gwrs, yn cyflwyno ein hymateb ffurfiol i adroddiad y pwyllgor yfory, ond roeddwn i'n falch o allu mynd i'r afael â rhai o'r materion yn fy sylwadau agoriadol. Hefyd, o ran y canllawiau cyn yr etholiad, rydym ni'n sylweddoli bod hon yn sefyllfa wahanol iawn i'r arfer, ond byddwn ni'n eu cyhoeddi cyn gynted ag y bo modd i'r Aelodau allu gweld hynny. Rydym ni'n gweithio'n agos iawn gyda'r Pwyllgor Busnes, oherwydd byddwn ni eisiau sicrhau bod ochr Comisiwn y Senedd a rheolau ochr y Llywodraeth yn cyfateb a'u bod nhw mor glir ac mor hawdd eu defnyddio â phosibl. Rwyf i hefyd yn hapus iawn i gytuno ag awgrym Rhun ein bod ni'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd o ran dilyniant ein gwaith ar y mater hwn.
Mae'r Bil hwn yn gweithredu fel mesur wrth gefn hanfodol wrth baratoi ar gyfer etholiadau mis Mai. Ein gobaith a'n nod diffuant yw bod yr etholiad yn mynd yn ei flaen yn ôl y bwriad, a bod pobl Cymru yn gallu pleidleisio'n rhydd ac yn ddiogel ar 6 Mai. Rydym ni'n paratoi ar y sail honno ac felly ein partneriaid hefyd. Ond wrth gwrs, byddaii'n esgeulus i ni beidio â chydnabod nad yw hynt y pandemig hwn wedi bod yn llyfn, ac mae'n iawn y dylem ni, fel Llywodraeth gyfrifol, roi cynllun wrth gefn ar waith, hyd yn oed os yw'n un yr ydym ni'n gobeithio peidio byth â'i ddefnyddio.
O ran y sawl a ofynnodd i mi ba amgylchiadau y byddem ni'n disgwyl eu pwyso a'u mesur o ran gwneud y penderfyniad hwnnw, mae amrywiaeth enfawr o ffactorau i'w hystyried. Mae nifer o Aelodau wedi sôn amdanyn nhw, mewn gwirionedd—sefyllfa iechyd y cyhoedd, yr hyder mewn gweinyddu'r etholiad, ei effaith ar bleidleiswyr. Nid ydym ni'n nodi'r metrigau hynny yn benodol, oherwydd bod y sefyllfa yn parhau i symud mor gyflym ag y bu erioed yn y pandemig hwn. Yn amlwg, yr agosaf yr ydym ni'n dod at yr etholiad, y mwyaf yw'r risgiau o ran costau, goblygiadau ymarferol, dryswch pleidleiswyr ac yn y blaen, ac felly yn ddelfrydol byddem ni eisiau gwneud penderfyniad amserol.
Mae'n bwysig bod y Senedd yn gallu ymateb yn agos at ddyddiad y bleidlais hefyd, os oes angen, o ystyried pa mor gyflym y gall sefyllfa'r pandemig newid. Mae pob un ohonom ni yma wedi byw drwy newidiadau cyflym dros nifer o ddyddiau, weithiau, yn ystod y pandemig. Mae nifer o'r Aelodau wedi sôn, er enghraifft, fod y ffigurau yn gostwng ledled Cymru, a'n bod ni'n ddiolchgar iawn o weld hynny, ond bydd yr Aelodau wedi cofio adegau eraill yn y pandemig pan oedd ffigurau i'w gweld yn gostwng, ac yna'n gwrthdroi'n sydyn dros nos oherwydd bod amrywiolyn newydd yn codi neu ryw ffactor arall nad ydym ni eto wedi ei ystyried. Felly, rwy'n credu y byddai'n esgeulus iawn ceisio cyfyngu ar hynny. Llywydd, pe byddwn i'n gallu ei ddyfynnu, ac yn anffodus ni allaf i, byddwn i'n galw ar gymorth rhyw Donald Rumsfeld, ac yn siarad am y pethau anhysbys anhysbys y byddai'n rhaid i ni ymdrin â nhw yn y pandemig hwn wrth symud ymlaen.
Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelodau am eu cyfraniadau heddiw. Rwyf i yn eu hannog i bleidleisio o blaid y Bil hwn ac, wrth gwrs, y penderfyniad ariannol. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 11? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Dwi'n gweld gwrthwynebiad. Gan fod y bleidlais ar eitem 11 wedi'i gohirio tan y cyfnod pleidleisio, bydd y bleidlais ar y penderfyniad ariannol hefyd yn aros tan y cyfnod pleidleisio.
We've now reached voting time, and therefore I will adjourn the meeting for a short time in order to prepare for the vote.