Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 2 Chwefror 2021.
Yn amlwg, mae'r cynnydd ychwanegol o £5.5 miliwn i gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor y cyfeiriasoch ato, Prif Weinidog, i'w groesawu, ond mae'n is na'r cynnydd i ôl-ddyledion y dreth gyngor, a'r bobl sydd fwyaf tebygol o fod wedi mynd i ôl-ddyledion yw'r rhai y mae'r coronafeirws wedi effeithio arnyn nhw, aelwydydd â phlant, pobl ag anableddau. Mae rhewi'r dreth gyngor yn fesur tymor byr, er fy mod i'n siŵr y byddai croeso mawr iddo gan lawer o'r teuluoedd hynny; yr ateb tymor hwy yw diwygio'r hyn y mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi ei alw yn system dreth gyngor hen, atchweliadol ac afluniol. Pam ydych chi wedi caniatáu i'r system annheg hon barhau cyhyd?