1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 2 Chwefror 2021.
6. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu brechlyn COVID-19 yng Nghaerffili? OQ56227
Wel, Llywydd, cafwyd ymdrechion gwych gan bawb sy'n gysylltiedig â chyflawni'r rhaglen frechu yma yng Nghymru ar gyfradd gyflym ac sy'n cyflymu. Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, mae 72 o feddygfeydd teulu yn cymryd rhan yn y rhaglen ar draws ardal gyfan y bwrdd, gan gynnwys yr holl feddygfeydd teulu ym mwrdeistref sirol Caerffili.
Rwy'n cytuno; rwy'n credu bod bwrdd iechyd Aneurin Bevan wedi rhoi pob gewyn ar waith. Mae wedi bod yn gwbl anhygoel gweld rhaglen frechu yn dechrau o ddim i'r hyn y maen nhw'n ei gynhyrchu ar hyn o bryd, sef bod 77 y cant o bobl 80 oed wedi cael eu brechu. Mae'n debyg bod hynny wedi cynyddu ers i'r sesiwn ddechrau heddiw. Pryder rhai trigolion yr wyf i wedi bod mewn cysylltiad â nhw fu ynghylch ciwio y tu allan i'r canolfannau, ac un broblem yw y bydd y bobl hynny y mae'n rhaid iddyn nhw ddal bysiau o ardaloedd fel Senghennydd, Abertridwr a Nelson yn canfod nad oes ganddyn nhw unrhyw ddewis ond cyrraedd yn gynnar, oherwydd dyna sut mae'r bysiau yn gweithio. Rwyf i wedi bod mewn cysylltiad â chyngor Caerffili, sy'n ymchwilio i gludiant cymunedol i geisio darparu gwell gwasanaeth cludiant yn syth i'r ganolfan i bobl. Mae cyngor Caerffili wedi dod yn ôl ataf ac wedi dweud eu bod nhw'n ymchwilio i'r dewisiadau hynny ac yr hoffen nhw ei redeg, hefyd, ar sail ranbarthol. A wnaiff y Prif Weinidog, gan gydnabod y cynnydd enfawr sydd wedi ei wneud, hefyd roi rhywfaint o gefnogaeth i ddarpariaeth o gludiant cymunedol i ganolfannau brechu torfol?
Llywydd, diolchaf i Hefin David am y cwestiwn dilynol yna, ac mae yn llygad ei le ynglŷn â'r hyn sydd wedi ei gyflawni yng Nghaerffili—mae dros 7,000 o bobl dros 80 oed eisoes wedi'u brechu yn y fwrdeistref. Mae rhywun yn cael ei frechu bob pum eiliad yma yng Nghymru, felly rwy'n eithaf sicr, erbyn i'r cwestiwn hwn ddod i ben, y bydd rhywun yng Nghaerffili wedi cael ei frechu yn rhan o'r rhaglen honno, ac rwy'n credu ei fod yn dweud rhywbeth wrthym ni, Llywydd, ein bod ni bellach ar y cam hwnnw yn y rhaglen lle'r ydym ni'n gallu canolbwyntio nid yn unig ar yr ymdrech seilwaith enfawr a wnaed i sicrhau'r holl ganolfannau brechu torfol, y tros 400 o feddygon teulu sy'n cymryd rhan, yr unedau symudol sydd allan yna yn brechu hefyd, ond ein bod ni'n gallu canolbwyntio bellach ar fanylion ymarferol o'r math y mae Hefin David wedi tynnu sylw atyn nhw y prynhawn yma. Wrth gwrs, nid ydym ni eisiau gweld pobl oedrannus, yn arbennig, yn gorfod ciwio y tu allan yn nhywydd mis Ionawr a mis Chwefror, a gwneud yn siŵr bod cyfleoedd cludiant i bobl nad ydyn nhw'n gallu dibynnu ar eu ceir eu hunain pan fyddwn ni'n gofyn iddyn nhw fynd i leoliad penodol i gael brechiad, dyna'r mathau o fanylion yr ydym ni'n gallu mynd i'r afael â nhw nawr. Ac yn y gwaith sy'n cael ei arwain gan fy nghyd-Weinidog Vaughan Gething, ac rwy'n ymuno ag ef bob wythnos mewn cyfarfod gyda'r prif dîm sy'n gyfrifol am frechu ledled Cymru, byddwn yn gwneud yn siŵr ein bod ni'n codi'r materion y mae'r Aelod wedi eu codi heddiw fel y gallwn ni gynorthwyo ymdrechion Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i wneud yn siŵr bod y rhaglen yn parhau i fod y llwyddiant ysgubol yr yw hi heddiw.