Adfywio'r Stryd Fawr

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 2 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:28, 2 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Llywydd, mae ein rhaglen trawsnewid trefi yn y gogledd yn canolbwyntio ar gefnogi bywiogrwydd canol ein trefi, gan eu gwneud nhw'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, gan ganiatáu i swyddi gael eu creu a gwella cyfleusterau cymunedol. Gan weithio yn agos gyda phartneriaid awdurdodau lleol, mae prosiectau gwerth dros £39 miliwn yn cael eu cyflawni dros y cyfnod rhwng 2018 a 2021.