Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 2 Chwefror 2021.
Diolch. Prif Weinidog, mae llawer o siopau'r stryd fawr wedi diflannu ac maen nhw'n annhebygol o ddychwelyd byth. Mae colli Debenhams a brandiau Grŵp Arcadia a'r swyddi sy'n gysylltiedig â'r siopau ffisegol yn cael ei deimlo yn aruthrol ar draws y gogledd. Mae'r pandemig wedi arwain at foratoriwm ar ardrethi busnes, a fydd, yn ei dro, yn arwain at ostwng refeniw treth i awdurdodau lleol. A yw'n bryd bellach rhoi ailystyriaeth radical i gyfundrefn ardrethi busnes sydd wedi cael ei hystyried yn ddylanwad cyfyngol ar fusnesau newydd sbon a'u cynaliadwyedd, ac edrych ar rywbeth sy'n adlewyrchu arferion siopa modern, fel treth fach ar werthiannau ar-lein?