Goroeswyr Trais Domestig

Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 2 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 2:37, 2 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am yr ateb yna. Fel y gwyddoch chi, wrth gwrs, mae'r argyfwng hwn a'r cyfyngiadau symud cysylltiedig wedi arwain at gynnydd mewn risg i fenywod sydd naill ai mewn perthynas gamdriniol neu sy'n ffoi rhagddynt. Ond mae argyfwng cyn waethed ar y gorwel sy'n gysylltiedig ag ariannu'r gwasanaethau cymorth arbenigol sy'n darparu achubiaeth yn llythrennol, neu'n drosiadol i'r menywod hyn. Derbyniwyd yr arian yn ddiweddarach na'r disgwyl ac maen nhw'n ei chael hi'n anodd gwario'r arian cyn y dyddiad cau ym mis Mawrth. Mae sefydliadau fel Cymorth i Fenywod Cymru yn galw am hyblygrwydd yn y terfyn amser hwn ar wariant, gan fod hyn yn broblem benodol mewn sefyllfaoedd lle cafodd y cyllid ei glustnodi ar gyfer recriwtio—mae sefydliadau wedi cael amser byr iawn i recriwtio a hyfforddi staff newydd i ateb y galw parhaus am wasanaethau. Os na chaiff yr hyblygrwydd hwnnw ei gyflwyno, Gweinidog, neu os yw'r ymrwymiad ariannu'n cael ei wneud i gyfateb â hynny ar ôl mis Mawrth, yna bydd llawer o staff yn cael eu colli. Yn sicr, Gweinidog, ni fyddai neb eisiau i'r sefydliadau hyn ailgeisio am arian ar ôl mis Mawrth, gan y gallai hyn y golygu amser ac adnoddau y gellid eu defnyddio'n well  i amddiffyn menywod. Felly, a wnaiff y Llywodraeth fynd i'r afael â'r pryderon hyn os gwelwch yn dda ac ystyried hyn ar frys?