Part of the debate – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 2 Chwefror 2021.
A gaf i ofyn am ddatganiad llafar neu ddadl yn amser y Llywodraeth ar barthau perygl nitradau? Rwy'n sylwi bod Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, yn ateb cwestiynau yfory ac yn cyflwyno datganiad ysgrifenedig, ond roedd amseriad y datganiad ysgrifenedig hwnnw'n golygu nad oes cyfle i Aelodau cyffredin y Senedd ofyn cwestiynau yn y sesiwn honno yfory. Dywedodd y Gweinidog, yn ôl ar 8 Ebrill y llynedd, y byddai'n cyflwyno rheoliadau dim ond pan fydd yr argyfwng yn dod i ben. Yna, ar 16 Medi y llynedd, dywedodd,
Yr hyn yr wyf i wedi ymrwymo iddo yw peidio â'u cyflwyno wrth inni fod yng nghanol pandemig COVID-19, ac yna, ar 14 Hydref,
Rwyf wedi ymrwymo i beidio â gwneud dim pan mae'r pandemig yn ei anterth.
Felly, ai safbwynt Llywodraeth Cymru yw ein bod ni wedi mynd heibio i'r pandemig yn ei anterth ac nad ydym ni bellach yn ei ganol, ac y daw i ben erbyn 1 Ebrill? Os felly, pam ydym ni'n trafod deddfwriaeth frys yn nes ymlaen i ohirio'r etholiad o 6 Mai? Rwy'n credu bod angen i'r Gweinidog roi esboniad inni am yr hyn a ddywedodd o'r blaen, a hefyd esboniad pam mae Cymru gyfan wedi bod yn barth perygl nitradau o dan ei rheoliadau hi, ar gost fawr i'r ffermwyr, lawer ohonyn nhw nad ydyn nhw'n gyfrifol am y problemau hyn ac nad ydyn nhw'n ffermio mewn ardaloedd yng Nghymru lle maen nhw'n gyffredin. Pam na allwn ni gael system debyg i'r un sydd gan Lywodraeth y DU ar gyfer Lloegr, lle mae ardaloedd yn Barthau Perygl Nitradau dim ond pan mae nifer yr achosion yn uchel neu lle mae yna broblem benodol?