Part of the debate – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 2 Chwefror 2021.
Yn sicr, byddaf i'n gofyn i'r Gweinidog Addysg roi'r wybodaeth ddiweddaraf o ran y mater penodol hwnnw, ond gallaf ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhagweithiol iawn o ran darparu dyfeisiau i blant a phobl ifanc eu defnyddio er mwyn manteisio ar ddysgu ar-lein a dysgu cyfunol. Ychydig cyn y Nadolig, cyhoeddwyd £11 miliwn arall i brynu nifer o ddyfeisiau—rwy'n credu, ar y pryd, mai 35,000 o ddyfeisiau oedd hynny—a fyddai'n mynd â nifer y dyfeisiau wedi'u dosbarthu i blant a phobl ifanc ledled Cymru yn ystod y pandemig i 133,000. Rwy'n credu bod hynny'n gyflawniad eithaf sylweddol. Ac rydym hefyd yn cydnabod ei bod yn anodd i rai plant fynd ar-lein, felly rydym hefyd wedi dosbarthu mwy na 11,000 o ddyfeisiau Mi-Fi, fel y gall plant a phobl ifanc nad oes ganddyn nhw'r cysylltiad dibynadwy hwnnw gartref wneud hynny. Yn amlwg, os oes modd gwneud rhagor, yna byddem eisiau gwneud hynny, a byddaf i'n sicrhau bod y Gweinidog Addysg yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf o ran y cwestiwn penodol hwnnw.