Part of the debate – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 2 Chwefror 2021.
Diolch, Llywydd. Heddiw fe wnaethom ni gyhoeddi'r ail o'n hadroddiadau ni sy'n crynhoi'r cynnydd yn erbyn ein cynllun brechu COVID-19 cenedlaethol. Fe gyhoeddir yr adroddiadau hyn bob dydd Mawrth, yn ogystal â'r data gwyliadwriaeth gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gyhoeddir yn ddyddiol ac yn wythnosol hefyd, a'r data gweithredol a gyhoeddir gan ystadegwyr Llywodraeth Cymru. Yn ôl y ffigurau a gyhoeddwyd ganol dydd heddiw, mae'r rhaglen a arweinir gan GIG Cymru wedi brechu mwy na 439,000 o bobl ledled Cymru. Hynny yw, bron 14 y cant o'r boblogaeth. Mae'r wybodaeth ddiweddaraf sydd gennyf yn dangos hefyd bod dros 60 y cant o'n grwpiau blaenoriaeth cyntaf ni wedi cael eu dos cyntaf o'r brechlyn erbyn hyn. Mae pethau'n cyflymu trwy'r amser, ac rydym yn gwneud cynnydd mawr. Mae effeithiolrwydd ein seilwaith ni a'r twf o ran capasiti yn amlwg i bawb eu gweld.
Rydym wedi taro dau nod eisoes yn ein cynllun brechu. Rydym wedi cynnig dos cyntaf o'r brechlyn i holl staff rheng flaen y gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru. Fe aethom y tu hwnt i'n nod ni ar gyfer diwedd mis Ionawr hefyd, sef bod mwy na 250 o bractisau meddygon teulu yn gweinyddu'r brechlyn. Roedd adroddiad yr wythnos diwethaf yn cadarnhau bod y nod hwn wedi ei gyrraedd yn gynt na'r disgwyl, gyda dros 300 o bractisau yn cynnal clinigau. Mae'r nifer wedi cynyddu eto hyd at dros 400 o feddygfeydd, gan amlygu'r gyfradd uchel o ymgysylltu ar draws pob rhan o'n gwasanaeth iechyd ni ar gyfer cydweithio i ddarparu rhaglen frechu cyn gynted ac mor ddiogel â phosibl yn erbyn COVID-19. Mae amddiffyn y rhai sy'n agored i niwed wedi bod wrth wraidd ein hymateb ni i'r pandemig bob amser ac mae hynny'n parhau i fod yn bwysig iawn yn ein brwydr ni yn erbyn y clefyd brawychus hwn.
Y nod olaf yr ydym ni wedi bod yn gweithio tuag ato yw brechu'r grŵp blaenoriaeth cyntaf a bennwyd gan Gyd-bwyllgor arbenigol annibynnol y DU ar Frechu ac Imiwneiddio—pobl sy'n byw mewn cartrefi gofal ar gyfer oedolion hŷn a'r staff sy'n gofalu amdanyn nhw. Ein bwriadu oedd mynd i'r holl gartrefi gofal yr oedd yn bosibl mynd iddyn nhw erbyn diwedd mis Ionawr a sicrhau bod cynlluniau ar waith i'r cartrefi gofal hynny sydd wedi profi achosion o COVID-19 gael y brechiadau cyn gynted â phosibl. Rwy'n falch o gadarnhau unwaith eto ein bod ni wedi cyrraedd y nod hwn, fel y cadarnhaodd fy nghyd-Weinidog i, Eluned Morgan, ddoe. Mae'r byrddau iechyd wedi cadarnhau eu bod wedi ymweld â phob cartref gofal i bobl hŷn yr oedd yn ddiogel i anfon timau brechu yno. O ran y cartrefi hynny lle nad yw hynny wedi bod yn ddiogel, bwriedir ymweld â'r rheini yn ystod mis Chwefror, cyn gynted ag y bydd y cyngor iechyd cyhoeddus yn caniatáu hynny.
Fel sy'n gyffredin gyda'n model cyflenwi ni, mae dull cyfunol ar waith ar gyfer cartrefi gofal i bobl hŷn. Gyda rhai cartrefi gofal, mae'r byrddau iechyd yn anfon timau brechu i frechu preswylwyr a staff. Gyda chartrefi gofal eraill, mae practisau meddygon teulu yn trefnu'r brechiadau i breswylwyr, yn aml drwy anfon nyrs ardal neu dîm bach, a staff yn cael eu gwahodd i fynd i ganolfannau torfol. Mae'r model cymysg hwn yn sicrhau'r dull priodol ar gyfer pob cartref, gan ystyried y cyd-destun a'i leoliad. Gyda'r tri nod ar y daith hyd at garreg filltir 1 wedi eu cyrraedd, rydym yn canolbwyntio bellach ar gynnig brechlyn i bawb yn y pedwar grŵp blaenoriaeth cyntaf. Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, rydym wedi brechu mwy o bobl yn ôl canran y boblogaeth nag unrhyw wlad arall yn y DU. Rydym yn symud trwy'r carfannau blaenoriaeth ac rydym ar y trywydd cywir i gyflawni yn erbyn ein carreg filltir gyntaf ganol mis Chwefror.
Rydym yn disgwyl gallu cynnal y lefel hon o gynnydd ac, mewn gwirionedd, rydym yn disgwyl gweld cynnydd ychwanegol yng nghyfraddau brechu'r wythnos hon. Rydym wedi llunio rhaglen sy'n gynaliadwy gan gynnwys cyflymder a chapasiti oddi mewn iddi'n barhaus. Yr wythnos hon, fe gytunwyd ar gymorth ychwanegol gan y lluoedd arfog ar gais awdurdodau sifil. Fe fydd hyn yn golygu 90 o bersonél milwrol arall yn cael eu dwyn i mewn i gefnogi'r capasiti yn y rhaglen frechu ledled Cymru. Rwy'n hynod ddiolchgar i'n cydweithwyr ni yn y GIG ledled Cymru sydd, oherwydd eu gwaith caled a'u hymroddiad parhaus, yn gwneud y cynnydd anhygoel hwn yn bosibl, ac, wrth gwrs, i'w partneriaid nhw mewn llywodraeth leol, y lluoedd arfog a thu hwnt, gan gynnwys y sector gwirfoddol. Rwy'n ymfalchïo'n fawr iawn yn yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yn ein gwlad gyda gweinyddu'r brechiadau. Mae gennym ni farathon o'n blaen eto, ond fe allwn wynebu'r cam nesaf gydag ymdeimlad gwirioneddol o hyder yn ein rhaglen ni a arweinir gan y GIG yma yng Nghymru. Diolch, Llywydd.