Part of the debate – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 2 Chwefror 2021.
Prynhawn da, Gweinidog. Diolch i chi am eich datganiad. Mae'n rhaid rhoi clod lle mae'n ddyledus, mae'r sefyllfa wedi symud ymlaen yn aruthrol ers yr wythnos diwethaf, ac fe hoffwn i ddweud da iawn wrth bawb a fu'n rhan o'r ymdrech hon, o'r Llywodraeth hyd at y rhai ar y rheng flaen, am fwrw ymlaen gyda'r brechiadau, yn arbennig felly am inni fod ar ei hôl hi. Braf iawn yw gweld bod y gwaith gyda'r grwpiau blaenoriaeth hyn wedi cyflymu a'i fod yn mynd rhagddo.
Rwy'n awyddus i bwysleisio pwysigrwydd cyfathrebu, oherwydd mae gennyf i lawer yn fy etholaeth i, ac fe wn i ei bod yn wir yn Hywel Dda, mewn gwirionedd—mae gennym lawer sydd yn eu 80au ac yn hŷn sydd heb gael eu brechu eto, ond sydd wedi cael apwyntiadau yn ystod yr wythnos hon ac wythnos nesaf. Mae hynny'n wahanol i ddweud wrth bawb, 'Fe gewch chi eich brechu erbyn y penwythnos diwethaf', a hwnnw oedd y targed, ac rwy'n credu bod hynny wedi achosi rhywfaint o ddryswch. Felly, wrth symud ymlaen, trwy'r holl grwpiau blaenoriaeth eraill, fe fyddwn i'n pwyso am roi mwy o ystyriaeth i'r neges a gaiff ei chyfathrebu. Ond mae'n wych gweld ein bod ni'n brasgamu tuag at geisio brechu'r genedl gyfan.
Yn anffodus, mae nifer y marwolaethau cofrestredig, er eu bod nhw wedi gostwng o 467 i 447, sydd i'w groesawu'n fawr, yn amlwg—mae'n dal i fod y trydydd uchaf o unrhyw bwynt yn y pandemig, sy'n dangos pa mor frawychus ac ofnadwy ydyw, a'r ffaith bod y clefyd hwn yn lladd. A wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am ragor y gallech chi ei wneud i gyrraedd y grwpiau hynny sy'n anodd eu brechu, sef y bobl sydd naill ai'n gwrthod y brechlyn neu'r grwpiau, y carfannau hynny o bobl, y gwyddom ei bod yn fwy anodd eu perswadio i gael y brechlyn? Ac i'r bobl hynny sydd wedi cael yr alwad ffôn a'r cynnig o frechlyn ond sydd wedi dweud, 'Na dim diolch', pa gynlluniau sydd ar waith i allu mynd ar drywydd yr unigolion hyn, gan eu meddyg teulu lleol nhw efallai, i geisio cael sgwrs â nhw? Oherwydd hyd nes y bydd mwy ohonom yn cael ein brechu, fe fyddwn ni'n parhau i weld y marwolaethau echrydus hyn yn digwydd mewn ysbytai ac yn ein cymunedau ni. Felly, fe fyddai unrhyw ddiweddariad y gallwch chi ei roi inni am hynny i'w groesawu'n fawr.
Wrth gwrs, y pryder arall sydd gan bobl nawr ac y maen nhw'n dechrau llythyra llawer iawn yn ei gylch yw a yw'r brechlynnau hyn yn effeithlon yn erbyn yr holl amrywiadau newydd hyn ai peidio, yn enwedig y straen newydd o'r DU y soniodd Andrew R.T. Davies amdano yn ystod y datganiad busnes, ac, wrth gwrs, y straen o Dde Affrica. Efallai yr hoffech chi wneud rhyw fath o sylw cyhoeddus ynglŷn â hynny, oherwydd rwy'n credu y byddai hynny'n ddefnyddiol iawn wrth geisio cysuro a rhoi rhywfaint o dawelwch meddwl i bobl.
Roeddech chi'n sôn am y gwaith, sydd i'w groesawu'n fawr, o ran cyrraedd y cartrefi gofal, ond a wnewch chi ddweud wrthym ni faint o gartrefi gofal sydd heb gael eu brechiadau eto, neu faint o breswylwyr a staff mewn rhai cartrefi gofal? Rwy'n sylweddoli bod rhai cartrefi gofal yn cael eu hystyried dan rybudd coch oherwydd bod rhyw elfen o goronafeirws yn bresennol yno; fe wn i fod gan wahanol fyrddau iechyd bolisïau gwahanol o ran a fyddan nhw'n mynd i mewn i'r cartrefi gofal ai peidio a cheisio brechu'n rhannol, hyd yn oed os oes rhywfaint o feirws COVID yn bresennol yno. Ond fe hoffwn i ehangu hefyd ar gwestiwn Delyth Jewell a ofynnodd ichi yn ystod y datganiad busnes, neu a ofynnodd i'r Trefnydd edrych ar hynny: a oes yna gartrefi gofal yn cael eu hailgategoreiddio? A oes unrhyw gynllun bod rhai cartrefi gofal efallai wedi'u newid i wahanol gategorïau? Fe fyddai'n ddefnyddiol iawn inni gael clywed eto unrhyw beth y gallwch chi ei ddweud wrthym ni am hynny.
Yn olaf, fe hoffwn i godi mater y fferyllwyr. Fe wyddom fod gennym y canolfannau brechu torfol hyn, fe wyddom fod meddygon teulu â rhan yn hynny, ac fe wyddom fod llawer iawn o waith yn mynd rhagddo o fewn amgylchedd ysbytai a gofal cymdeithasol, ond wrth gwrs mae ein fferyllwyr ni'n dal i aros yn yr esgyll yn barod i helpu yn yr hyn sy'n ymdrech genedl gyfan. A allwch chi amlinellu unrhyw gynlluniau i'w cynnwys nhw? Rwyf wedi clywed gan y byrddau iechyd ledled Cymru eu bod nhw'n siarad â fferyllwyr, ond mewn gwirionedd maen nhw wedi bod yn siarad â nhw am y ddwy, neu'r tair neu'r pedair wythnos ddiwethaf. Nid oes dim wedi digwydd eto. Mae'n ymddangos nad oes unrhyw beth o sylwedd wedi digwydd ar lawr gwlad.
Wrth inni weithio i lawr y rhestr o'r grwpiau categorïau hynny a dechrau edrych ar frechu'r rhai yn eu chwedegau a'u pumdegau, mae'r grwpiau hynny'n mynd i gynyddu fwyfwy eto yn eu maint. Fe fydd angen pawb arnom ni. Rydych chi wedi sôn eisoes heddiw am ddefnyddio 90 aelod o'r lluoedd arfog—mae croeso mawr i hynny, ond mae gennym ni tua 710 o fferyllfeydd yn aros yn yr esgyll. Felly, unrhyw ddiweddariad y gallwch ei roi am hynny—oherwydd yn fy marn i mai hwn yn adnodd sy'n cael ei wastraffu ac mae eu hangen arnom ni. Maen nhw eisiau cael eu defnyddio, maen nhw wedi dweud hynny'n eglur iawn, yn hyglyw iawn, maen nhw wedi cyflwyno'r cynigion ac, wrth gwrs, os ydych chi'n rhywun sy'n llai awyddus i deithio, efallai, mae mynd i'ch fferyllfa leol, fel y mae mynd at eich meddyg teulu lleol, yn ddewis llawer haws na theithio i ganolfan frechu torfol. Felly, unrhyw ddiweddariad yn ymwneud â phryd y gellir defnyddio'r fferyllwyr ac ar gyfer pa gategori o bobl. Diolch yn fawr iawn.