5. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd: Cynnydd o ran Trethi Datganoledig

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:30 pm ar 2 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 4:30, 2 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Rydym ni hefyd wedi sefydlu adran anweinidogol gyntaf Cymru, Awdurdod Cyllid Cymru, ar amser ac o fewn y gyllideb. Mae bellach wedi llwyddo i gasglu a gweinyddu trethi Cymru sydd wedi'u datganoli'n llawn ers tair blynedd. Mae dull unigryw'r Awdurdod o gefnogi'r broses ar gyfer darparu system dreth deg yn golygu ei fod yn gweithio mewn partneriaeth â threthdalwyr i sicrhau bod treth yn cael ei thalu'n brydlon, ac yn gywir y tro cyntaf.

Rydym ni wedi amlinellu ein dull yma yng Nghymru o ymdrin â pholisi treth yn ein fframwaith polisi treth, i egluro sut y byddwn yn defnyddio trethi er budd cymunedau a busnesau. Mae'r fframwaith yn cynnwys yr egwyddorion yr ydym ni yn eu dilyn wrth ddatblygu polisi treth, gan wneud hynny drwy gydweithio, ceisio creu trethi clir a sefydlog, sy'n codi refeniw'n deg, yn cefnogi amcanion polisi ehangach, ac yn helpu i sicrhau mwy o gydraddoldeb. Ac rydym ni wedi rhoi'r egwyddorion hynny ar waith.

Rydym ni wedi defnyddio ein pwerau i sicrhau bod treth trafodiadau tir yn llawer mwy blaengar na'i rhagflaenydd, treth dir y dreth stamp, ar gyfer trafodiadau eiddo preswyl. Fe wnaethom ni gyflwyno rhyddhad dros dro i helpu'r farchnad eiddo i wella yn yr haf, ac yn fwy diweddar cynyddodd y gyfradd uwch i greu cymorth ychwanegol i wasanaethau cyhoeddus Cymru. Pan ddaw'r gostyngiad dros dro presennol i gyfraddau y dreth trafodiadau tir i ben, Cymru unwaith eto fydd yr unig wlad yn y DU gyda throthwy cychwynnol sydd tua phris cyfartalog cartref. Mae'r trothwy cychwynnol hwnnw'n golygu na fydd y rhan fwyaf o'r rhai sy'n prynu tŷ am y tro cyntaf yn talu unrhyw dreth trafodiadau tir. Cymru hefyd sydd â'r trothwyon uchaf lle mae angen i fusnesau dalu treth ar drafodion eiddo dibreswyl yn y DU.

Prif ddiben treth gwarediadau tirlenwi yw cefnogi ein nodau amgylcheddol, felly dylai refeniw ostwng wrth i'r rhai a dargedir gan y dreth ymateb yn gadarnhaol. Hyd yma, rydym ni wedi cadw cysondeb wrth bennu ardrethi gyda Llywodraeth y DU, gan sicrhau nad ydym yn annog trosglwyddo gwastraff ar draws y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Fodd bynnag, cafwyd cyfle i arloesi, gan arwain y ffordd drwy fod y wlad gyntaf yn y DU i bennu cyfradd dreth uwch ar gyfer gwarediadau tirlenwi anawdurdodedig a chreu rhwystr ariannol ychwanegol i bobl sy'n cael gwared ar wastraff yn anghyfreithlon.

Rydym ni wedi defnyddio £2.8 miliwn o refeniw o'r dreth gwarediadau tirlenwi i ariannu prosiectau lleol drwy gynllun y dreth gwarediadau tirlenwi gymdeithasol, gan gynnal ein hymrwymiad i gymunedau yr effeithir arnyn nhw gan waredu gwastraff mewn safleoedd tirlenwi.

O'r tair treth, mae cyfraddau treth incwm Cymru yn effeithio ar y nifer mwyaf o ddinasyddion Cymru, gyda dros hanner oedolion ein gwlad yn ei thalu. Rydym yn gweithio'n agos gyda Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi, sy'n parhau i fod yn gyfrifol am gasglu a rheoli cyfraddau treth incwm Cymru, er mwyn sicrhau bod y prosesau'n rhedeg yn ddidrafferth.

Mae ein fframwaith polisi treth yn pwysleisio pwysigrwydd cynnwys a chydweithredu. Rydym wedi annog hyn drwy ddatblygu grwpiau cynghori a thrafod i ystyried cynigion sy'n cael eu datblygu, gan weithio'n agos gyda rhanddeiliaid. Rydym ni wedi cyhoeddi cynlluniau gwaith blynyddol, yn cyhoeddi'r materion yr ydym yn eu harchwilio, ac yn gwahodd sylwadau, ymholiadau a chyfraniadau. Mae llawer o'r meysydd polisi hyn wedi'u trafod yn y cynadleddau treth blynyddol, a chyhoeddir cynnydd yn yr adroddiadau polisi treth. Byddaf yn cyhoeddi'r adroddiad polisi treth diweddaraf ochr yn ochr â'r gyllideb derfynol fis nesaf.

Un maes allweddol o weithgarwch polisi treth fu archwilio syniadau ar gyfer trethi newydd posibl. Rydym yn mynd ar drywydd cymhwysedd ar gyfer treth ar dir gwag drwy'r broses rynglywodraethol y cytunwyd arni gyda Thrysorlys Ei Mawrhydi, gan ymchwilio hefyd i dreth blastig untro, cloriannu'r achos dros dreth dwristiaeth, a dewisiadau posibl ar gyfer ariannu gofal cymdeithasol. Mae'n destun gofid bod y broses rynglywodraethol ar gyfer trethi newydd wedi methu yn ei phrawf cyntaf. Bydd cynnydd pellach yn anodd, o ystyried agwedd Llywodraeth bresennol y DU tuag at ddatganoli, a hithau'n gweithredu fel y myn. 

Yn ystod tymor y Senedd hon, rydym ni wedi elwa ar gefnogaeth llawer o bobl a sefydliadau sydd wedi cyfrannu at y broses o gyflwyno trethi Cymru. Rwy'n ddiolchgar iddyn nhw, ac i Aelodau'r Senedd a'r Pwyllgor Cyllid am graffu'n ddiwyd ar y darpariaethau yr ydym ni wedi'u cyflwyno. Mae cyfrifoldeb arnom o hyd i sicrhau bod ein trethi datganoledig yn gweithredu'n deg ac yn effeithiol, gan ddarparu'r refeniw sy'n ofynnol ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus. Ac mae gwaith pellach i'w wneud ar y posibilrwydd o drethi newydd. Dyna fydd y gwaith ar gyfer Llywodraeth a Senedd nesaf Cymru. Byddant yn adeiladu ar sylfeini cadarn yr hyn yr ydym ni wedi'i gyflawni dros y pum mlynedd diwethaf. Diolch, Dirprwy Lywydd.