Part of the debate – Senedd Cymru am 4:44 pm ar 2 Chwefror 2021.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Diolch i'r Gweinidog am y datganiad yna. Diolch i Mark Isherwood ar ran y Ceidwadwyr am bwysleisio mor wael mae Cymru wedi cael ei gwasanaethu gan y Deyrnas Unedig dros y blynyddoedd hefyd. Rydyn ni yn siarad, onid ydyn, yn y blynyddoedd cynnar yma o hawliau codi trethi Cymreig, am rywbeth sydd yn hanesyddol—mae o'n air dwi wedi'i ddefnyddio ac mae o'n air mae eraill wedi'i ddefnyddio hefyd. Ac mae o'n egwyddor cwbl greiddiol. Rydyn ni'n mynd yn ôl at y comisiwn Silk yn datgan yr egwyddor bwysig honno o'r berthynas gwbl greiddiol rhwng trethi ac atebolrwydd, a dyna rydyn ni'n sôn amdano fo yn fan hyn. Y mwyaf o rymoedd trethu sydd gan y Senedd hon, y mwyaf atebol ydym ni i bobl Cymru, ac mae hynny'n rhywbeth i'w groesawu. A rydyn ni'n mynd i etholiad, lle, rŵan, yn y dirwedd newydd honno, mae gan bobl Cymru y gallu i edrych ar wahanol addewidion trethu y pleidiau, ac mae'n drafodaeth hynod, hynod bwysig i'w chael.
Dwi'n siomedig efo'r datblygu sydd wedi bod ar ben y trethi sydd wedi cael eu cyflwyno'n barod. Mae'r dreth trafodion tir wedi gweithio'n dda, dwi'n credu. Mae'r graddfeydd Cymreig o dreth incwm yn allweddol er mwyn creu'r atebolrwydd roeddwn i'n cyfeirio ato fo, ac mae'r dreth gwastraff tirlenwi yn un bwysig ynddi ei hun, ond mae eisiau edrych ar ba mor bell y gallwn ni fynd.
Mae'r Llywodraeth wedi cyfeirio at bedwar math o dreth y bydden nhw eisiau edrych arnyn nhw: lefi gofal cymdeithasol—dwi yn edrych ymlaen at weld sut mae'n bosib darparu gofal cymdeithasol o fewn y gwariant cyffredinol ac dwi'n siŵr bod modd gwneud hynny. Mae'r Llywodraeth eisiau edrych ar dreth gwaredu plastig. Mae yna dair blynedd a mwy ers i Blaid Cymru orfodi pleidlais yn y Senedd hon, gan ddweud ein bod ni eisiau gweld y dreth honno, a ble'r ydym ni dair blynedd ymlaen? Y dreth dwristiaeth: dwi ddim yn meddwl, ar ôl y flwyddyn sydd wedi bod, y dylem ni fod yn sôn am dreth dwristiaeth—nid dyna y mae'r sector eisiau ei glywed, rŵan. Mi ydw i, er hynny, yn meddwl bod yna bethau arloesol y gallwn eu gwneud drwy ryw fath o lefi a fyddai'n rhoi gwell gwasanaeth i dwristiaid, a fyddai'n cryfhau isadeiledd i warchod ein cymunedau ni lle mae twristiaeth ar ei phrysuraf, i hybu twristiaeth gynhenid, ond mae eisiau bod yn ofalus iawn, iawn wrth sôn am dreth dwristiaeth rŵan.
A'r pedwerydd ohonyn nhw, y dreth tir gwag, mae'r Llywodraeth, a bod yn deg, wedi bod yn eglur iawn yn gwthio'r syniad hwn. Rwyf finnau'n rhannu siom, yn sicr, y Gweinidog yn ymateb Llywodraeth Prydain. Mae o yn brawf o fethiant y broses rynglywodraethol bod yna ddim tir go iawn wedi cael ei ennill ar y drafodaeth yma. Mae o'n arwydd, dwi'n ofni, o agwedd Llywodraeth Prydain tuag at roi caniatâd i Gymru ymestyn ei hawliau yn y maes trethu, fydd mor bwysig yn y blynyddoedd i ddod. Mi ydw i, serch hynny, yn galw ar y Gweinidog i beidio â rhoi i fyny, rŵan. Dwi'n gobeithio mai fy mhlaid i fydd yn llywodraethu ar ôl mis Mai, ond mae yna gyfnod i fynd tan hynny, felly peidiwch â llaesu dwylo ar y gwaith o drio gwthio ar y dreth hon. Dwi'n eich annog chi i wthio pethau tan y funud olaf.
Un pwynt pellach: mae o yn eich grym chi i newid y rheolau sydd yn caniatáu, fel y dywedodd Mark Isherwood, i bobl optio allan o dalu treth yn llwyr ar ail eiddo ar hyn o bryd yng Nghymru. Mae'r gallu gan Lywodraeth Cymru i gau'r loophole er mwyn sicrhau bod y rheini sydd yn berchen ar ail gartrefi ac sydd, ar hyn o bryd, yn gallu manteisio ar y rheolau er eu budd eu hunain, ddim yn gallu gwneud hynny. Dwi'n sylweddoli, yn y datganiad sydd wedi cael ei wneud ar hyn gan y Llywodraeth yr wythnos yma, dydych chi ddim yn mynd yn ddigon pell nac yn symud yn ddigon cyflym; mae angen gweld gwella ar hynny, fel rhan o'r newidiadau rydyn ni angen eu gweld i'r tirwedd trethiant yng Nghymru.