Part of the debate – Senedd Cymru am 4:49 pm ar 2 Chwefror 2021.
Diolch. Dechreuodd Rhun ap Iorwerth drwy sôn am bwysigrwydd trethiant ac atebolrwydd a thryloywder. Rwy'n falch iawn mai Llywodraeth Cymru yw'r unig Lywodraeth ledled y Deyrnas Unedig a fydd wedi cyflwyno tair cyllideb atodol yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Ac, wrth gwrs, mae cysylltiad mor agos rhwng ein cyllidebau a'r refeniw a godir yma yng Nghymru. Credaf fod lefel y tryloywder yr ydym wedi'i ddarparu ar draws y flwyddyn ariannol yn hyn o beth wedi bod yn eithriadol, ac yn sicr mae wedi bod yn fwy nag yn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig. Byddwn yn awyddus—ac rwy'n siŵr y byddai Gweinidog cyllid yn y dyfodol yn awyddus—i archwilio sut y gall adeiladu ar y math o dryloywder yr ydym wedi gallu ei gyflawni eleni.
Soniodd Rhun ap Iorwerth am nifer o feysydd treth newydd yr ydym yn edrych arnyn nhw, a chyfeiriodd yn benodol at yr achos dros y dreth ar dir gwag. Dyma'r tro cyntaf inni lywio'r broses y cytunwyd arni gyda Llywodraeth y DU. Yn anffodus, mae rhywbeth ar goll. Mae dros ddwy flynedd a hanner wedi mynd heibio ers cyflwyno'r cynnig i Lywodraeth y DU am y tro cyntaf. Er gwaethaf yr hyn sydd, ar rai adegau, wedi ymddangos yn berthynas weddol gynhyrchiol, ym mis Awst cawsom lythyr siomedig iawn gan Ysgrifennydd Ariannol y Trysorlys, ac ail-agorodd hynny gyfres gyfan o gwestiynau yr oeddem yn credu eu bod eisoes wedi'u hateb yn ein trafodaethau blaenorol. Felly, mae'n wir fod gan y broses rai diffygion difrifol. Credaf fod hyn yn ymwneud yn sylfaenol â Llywodraeth y DU yn farnwr ac yn rheithgor ar yr holl bethau hyn, ac yn sicr mae angen dull annibynnol ar gyfer trafod ac apelio yn erbyn y penderfyniadau hynny.
Cyfeiriwyd hefyd at yr ardoll gofal cymdeithasol bosibl, a'r gwaith sydd wedi bod yn mynd rhagddo i gwmpasu sut y gallai rhywbeth fel yna weithio, pe bai Llywodraeth yn y dyfodol yn penderfynu gwneud hynny. Mae fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn bwriadu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am waith y grŵp rhyng-weinidogol ar dalu am ofal cymdeithasol. Ond, mae'n wir fod cyllid wedi bod yn rhan bwysig iawn o hynny, a gwn y bydd nifer o gydweithwyr wedi cymryd rhan yn y sesiynau briffio technegol a ddarparwyd yn ddiweddar iawn yn hynny o beth.
Y dreth blastig untro: wel, mae hyn yn rhywbeth lle bu cryn dipyn o waith gyda Llywodraeth y DU, mewn gwirionedd, yn yr achos hwn, archwilio'r dewisiadau ar gyfer mynd i'r afael â defnydd a gwastraff plastig diangen, a chydnabod y manteision yn yr achos hwn y byddai mabwysiadu dull gweithredu ledled y DU yn eu cynnig. Mae hynny wedi cynnwys cefnogi ymgynghoriadau ar dreth pecynnau plastig yn y DU, cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr am ddeunydd pacio, a'r potensial ar gyfer cynllun dychwelyd ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd. Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ymgynghoriad pellach ar gynllunio manwl y dreth pecynnau plastig fel rhan o gyllideb Llywodraeth y DU y llynedd, ac rydym yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU ar hynny. Fel y dywedais, mae rhai meysydd lle rwy'n credu ei bod yn rhesymol ac yn ddymunol cydweithio.
Yn olaf, treth na soniodd Rhun ap Iorwerth amdani, ond gwn ei fod yn rhannu fy marn, sef toll teithwyr awyr. Unwaith eto, dyma un o'r meysydd hynny lle na fyddwn yn sicr yn rhoi'r gorau i geisio ei ddatganoli, o ystyried y rhan bwysig y gallai ei chwarae wrth gefnogi economi Cymru. Rydym ni'n credu bod gan Lywodraeth y DU safbwynt cwbl anghynaliadwy ar hyn, ac rwy'n ddiolchgar am y gefnogaeth drawsbleidiol sydd gennym yn hynny o beth yn y Senedd.