5. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd: Cynnydd o ran Trethi Datganoledig

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:54 pm ar 2 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 4:54, 2 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch. Felly, gan adeiladu ar y sylwadau a wnes i mewn ymateb i gwestiynau Rhun ap Iorwerth yn ymwneud â threth ar blastig, gallaf gadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn hwyluso digwyddiadau ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol yng Nghymru mewn cysylltiad â'r gwaith y disgrifiais ein bod ni yn ei wneud gyda Llywodraeth y DU. Ym mis Mai y llynedd, er enghraifft, anogwyd rhanddeiliaid i fynychu digwyddiad rhannu gwybodaeth ar y dreth pecynnau plastig, dan arweiniad Llywodraeth y DU. Ond, ym mis Awst, arweiniodd Llywodraeth Cymru, ochr yn ochr â WRAP Cymru a Llywodraeth y DU, ddigwyddiad ymgysylltu yn benodol ar gyfer rhanddeiliaid o Gymru yn y diwydiant pecynnau plastig.

Mae swyddogion o fewn Trysorlys Cymru yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU ar y camau nesaf i sicrhau bod sylwadau Cymreig gan randdeiliaid allweddol yma yn rhan o'r broses ac yn cael eu clywed yn glir, gan arwain at weithredu'r dreth, credaf o bosibl, os aiff pethau yn ôl y bwriad, yn 2022. Er enghraifft, mae swyddogion yn trafod cymorth i fusnesau, o gofio bod hon yn dreth gymhleth, hyd yn oed i'r rhai â phrofiad yn y math hwn o ddeddfwriaeth, a hefyd yr anhawster i gyrraedd busnesau bach a chanolig eu maint yn ystod y broses ymgynghori. Roedd gweithgorau diwydiant yn digwydd bob ychydig fisoedd, a bydd ymgynghoriad technegol nawr ar y ddeddfwriaeth yn gam pellach. Felly, mae gwaith da yn mynd rhagddo yma, ac mae buddiannau Cymru wedi'u cynrychioli'n dda iawn yn y gwaith hwnnw.

Ochr yn ochr â hynny, fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru hefyd wrthi'n adeiladu sylfaen dystiolaeth i asesu rhinweddau cyflwyno treth neu dâl sy'n benodol i Gymru ar gwpanau plastig untro. Ac rydym hefyd yn ceisio cael gwell dealltwriaeth o'r farchnad a'r defnydd o gwpanau o'r fath. Felly, mae hwn yn faes penodol a allai fod yn addas yn y dyfodol.

O ran y dreth gyngor, mae Mike Hedges a finnau wedi trafod hyn droeon, a bydd yn ymwybodol o'r gyfres o ymchwil yr ydym wedi'i chomisiynu, a chafodd y Prif Weinidog gyfle i gyfeirio at rywfaint ohoni yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog yn gynharach, sydd, o bosibl, yn nodi llwybr ar gyfer trethiant lleol tecach yn y dyfodol. Rwy'n credu bod posibiliadau gwych, ac yn sicr bydd yr ymchwil sydd wedi bod yn dod i mewn, ac yr wyf wedi'i ddarparu i gydweithwyr drwy ddatganiadau ysgrifenedig, yn sicr yn ein helpu i ddod o hyd i'n ffordd ymlaen ynghylch hynny.