6., 7. & 8. Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020, Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2020 a Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Swm Penodedig o Rent Perthnasol) (Cymru) (Diwygio) 2021

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:12 pm ar 2 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 5:12, 2 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Yn y gyllideb ddrafft, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr, nodais fanylion ein cynlluniau ar gyfer sut y mae trethi datganoledig a rhannol ddatganoledig Cymru yn cefnogi ein blaenoriaethau gwario ac yn darparu system dreth decach a mwy blaengar yng Nghymru. Er mwyn sicrhau bod y newidiadau yn y gyllideb ddrafft yn dod i rym yn barhaol, mae angen cymeradwyaeth y Senedd ar gyfer tair cyfres o reoliadau. Mae dau yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol 'wnaed', ac un i'r weithdrefn gadarnhaol ddrafft.

Daeth Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2020 i rym ar 22 Rhagfyr. Daw Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 i rym ar 1 Ebrill 2021. Mae Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Swm Penodedig o Rent Perthnasol) (Cymru) (Diwygio) 2021 yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol ddrafft a byddant yn cael eu gwneud os cânt eu cymeradwyo. Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Cyllid am eu hadroddiadau, a'r cyfle i ddarparu tystiolaeth i'r Pwyllgor Cyllid.

Daeth rheoliadau'r cyfraddau treth trafodiadau tir a bandiau i rym o 22 Rhagfyr. Gwnaethant newidiadau i'r cyfraddau sy'n berthnasol i'r cyfraddau preswyl uwch sy'n daladwy gan bobl sydd eisoes yn berchen ar fuddiant mewn eiddo preswyl arall. Maen nhw hefyd yn berthnasol i gwmnïau sy'n prynu eiddo preswyl. Cynyddodd y cyfraddau sy'n daladwy 1 pwynt canran ar gyfer pob band, gan greu gordal 4 pwynt canran effeithiol dros y cyfraddau sy'n daladwy'n fras gan brynwyr cartrefi. Bydd y refeniw ychwanegol yn ariannu mentrau polisi Llywodraeth Cymru yn 2021, 2022 a thu hwnt, yn enwedig buddsoddiad mewn tai cymdeithasol.

Rwy'n deall y pryder a fynegwyd ynghylch pa mor gyflym y gwnaed y newidiadau hyn, yn enwedig o gofio bod y newidiadau'n cynyddu'r atebolrwydd treth. Fodd bynnag, nid oedd yn anghyffredin i newidiadau i dreth dir y dreth stamp gael eu cyhoeddi ar ddiwrnod y gyllideb i ddod i rym y diwrnod canlynol, ac mae rhesymau da dros y newidiadau hyn. Yn gyntaf, os yw'r dreth sy'n daladwy i gynyddu, gall oedi wrth ddod â'r tâl i rym arwain at gyflwyno trafodion er mwyn gwneud arbediad treth. Yn ail, os yw'r dreth sy'n daladwy i ostwng, yna gellir gohirio trafodion er mwyn elwa ar y gostyngiad hwnnw yn y dreth. Yn bwysig, ar gyfer trafodion sy'n agored i'r cyfraddau preswyl uwch, mae'r rheoliadau'n cynnwys amddiffyniadau i'r trethdalwyr hynny sydd wedi cyfnewid contractau a phryd y byddai'r newidiadau'n arwain at fwy o atebolrwydd. Bydd y trethdalwyr hynny, ar y cyfan, yn gallu talu treth yn seiliedig ar y cyfraddau sydd mewn grym pan fyddant yn cyfnewid contractau. 

Gwnaed newidiadau hefyd i'r bandiau treth ar gyfer trafodion dibreswyl. Cynyddodd y bandiau cyfradd sero ar gyfer cydnabyddiaeth ar wahân i rent a chydnabyddiaeth a oedd yn cynnwys rhent, 50 y cant sy'n golygu na fydd trafodion sydd â chydnabyddiaeth o £225,000 neu lai yn talu treth. Mae'r gostyngiad cymedrol hwn i fusnesau yn dangos cefnogaeth y Llywodraeth hon i fusnesau wrth iddyn nhw geisio gwella o'r pandemig, yn ogystal ag annog busnesau llai i ddechrau yng Nghymru.

Rwy'n cydnabod y pwyntiau a godwyd yn adroddiadau'r pwyllgor ynglŷn ag absenoldeb un o'r pwerau perthnasol yn y rhagymadrodd i'r rheoliadau. Mae ymateb Llywodraeth Cymru i'r pwyllgor yn nodi'n glir pam yr ydym o'r farn bod y rheoliadau fel y'u gwnaed yn ddilys. Mae cyfraith achosion yn cefnogi'r sefyllfa honno, ac mae'r prif reoliadau a ddiwygir yn cynnwys yr holl bwerau perthnasol yn y rhagymadrodd, ac mae'r rheoliadau'n nodi'n glir y newidiadau sydd i'w gwneud.

Mae'r ail gyfres o reoliadau treth trafodion tir yn ymwneud â thrafodion dibreswyl yn unig ac yn diwygio swm y rhent perthnasol. Ffigur rhent blynyddol yw'r swm rhent perthnasol, ac os caiff ei dalu ynghyd â chydnabyddiaeth ar wahân i renti, cymhwysir rheol atal osgoi. Mae'r rheoliadau hyn yn cynyddu'r swm 50 y cant, o £9,000 i £13,500. Mae hyn yn cynnal y berthynas rhwng y trothwyon sero a'r swm rhent perthnasol, gan sicrhau bod y rheol yn parhau i weithredu fel o'r blaen.

O ran treth gwarediadau tirlenwi, mae Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 yn ymwneud â gosod cyfraddau treth 2021-22 ar gyfer treth gwarediadau tirlenwi. Mae'r rheoliadau hyn yn pennu'r cyfraddau gwaredu safonol is ac anawdurdodedig ar gyfer treth gwarediadau tirlenwi, a fydd, yn amodol ar ganlyniad y ddadl heddiw, yn gymwys i warediadau trethadwy a wneir ar neu ar ôl 1 Ebrill 2021. Yn unol â'm cyhoeddiad yn y gyllideb ddrafft ym mis Rhagfyr, bydd y cyfraddau safonol ac is ar gyfer treth gwarediadau tirlenwi yn cynyddu yn unol â'r mynegai prisiau manwerthu. Mae'r dull hwn yn sicrhau bod cyfraddau'n parhau i fod yn gyson â'r DU ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, gan ddarparu'r sefydlogrwydd y mae busnesau wedi dweud wrthym fod ei angen arnyn nhw.

Eleni, drwy bennu'r un cyfraddau treth â Llywodraeth y DU, bydd gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn parhau i elwa ar refeniw treth, gan sicrhau bod y risg o symud gwastraff dros y ffin yn gostwng. Bydd y gyfradd safonol yn cael ei chynyddu i £96.70, a'r gyfradd is fydd £3.10 y dunnell. Y gyfradd anawdurdodedig, a bennir ar 150 y cant o'r gyfradd safonol i annog pobl i beidio ag ymgymryd â gweithgareddau anghyfreithlon o ran gwastraff, fydd £145.05 y dunnell. Gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau hyn.