– Senedd Cymru am 5:11 pm ar 2 Chwefror 2021.
Felly, rwy'n galw ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i gynnig y cynigion—Rebecca Evans.
Cynnig NDM7571 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Treth Trafodiadau Tir (Swm Penodedig o Rent Perthnasol) (Cymru) (Diwygio) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Rhagfyr 2020.
Yn y gyllideb ddrafft, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr, nodais fanylion ein cynlluniau ar gyfer sut y mae trethi datganoledig a rhannol ddatganoledig Cymru yn cefnogi ein blaenoriaethau gwario ac yn darparu system dreth decach a mwy blaengar yng Nghymru. Er mwyn sicrhau bod y newidiadau yn y gyllideb ddrafft yn dod i rym yn barhaol, mae angen cymeradwyaeth y Senedd ar gyfer tair cyfres o reoliadau. Mae dau yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol 'wnaed', ac un i'r weithdrefn gadarnhaol ddrafft.
Daeth Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2020 i rym ar 22 Rhagfyr. Daw Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 i rym ar 1 Ebrill 2021. Mae Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Swm Penodedig o Rent Perthnasol) (Cymru) (Diwygio) 2021 yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol ddrafft a byddant yn cael eu gwneud os cânt eu cymeradwyo. Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Cyllid am eu hadroddiadau, a'r cyfle i ddarparu tystiolaeth i'r Pwyllgor Cyllid.
Daeth rheoliadau'r cyfraddau treth trafodiadau tir a bandiau i rym o 22 Rhagfyr. Gwnaethant newidiadau i'r cyfraddau sy'n berthnasol i'r cyfraddau preswyl uwch sy'n daladwy gan bobl sydd eisoes yn berchen ar fuddiant mewn eiddo preswyl arall. Maen nhw hefyd yn berthnasol i gwmnïau sy'n prynu eiddo preswyl. Cynyddodd y cyfraddau sy'n daladwy 1 pwynt canran ar gyfer pob band, gan greu gordal 4 pwynt canran effeithiol dros y cyfraddau sy'n daladwy'n fras gan brynwyr cartrefi. Bydd y refeniw ychwanegol yn ariannu mentrau polisi Llywodraeth Cymru yn 2021, 2022 a thu hwnt, yn enwedig buddsoddiad mewn tai cymdeithasol.
Rwy'n deall y pryder a fynegwyd ynghylch pa mor gyflym y gwnaed y newidiadau hyn, yn enwedig o gofio bod y newidiadau'n cynyddu'r atebolrwydd treth. Fodd bynnag, nid oedd yn anghyffredin i newidiadau i dreth dir y dreth stamp gael eu cyhoeddi ar ddiwrnod y gyllideb i ddod i rym y diwrnod canlynol, ac mae rhesymau da dros y newidiadau hyn. Yn gyntaf, os yw'r dreth sy'n daladwy i gynyddu, gall oedi wrth ddod â'r tâl i rym arwain at gyflwyno trafodion er mwyn gwneud arbediad treth. Yn ail, os yw'r dreth sy'n daladwy i ostwng, yna gellir gohirio trafodion er mwyn elwa ar y gostyngiad hwnnw yn y dreth. Yn bwysig, ar gyfer trafodion sy'n agored i'r cyfraddau preswyl uwch, mae'r rheoliadau'n cynnwys amddiffyniadau i'r trethdalwyr hynny sydd wedi cyfnewid contractau a phryd y byddai'r newidiadau'n arwain at fwy o atebolrwydd. Bydd y trethdalwyr hynny, ar y cyfan, yn gallu talu treth yn seiliedig ar y cyfraddau sydd mewn grym pan fyddant yn cyfnewid contractau.
Gwnaed newidiadau hefyd i'r bandiau treth ar gyfer trafodion dibreswyl. Cynyddodd y bandiau cyfradd sero ar gyfer cydnabyddiaeth ar wahân i rent a chydnabyddiaeth a oedd yn cynnwys rhent, 50 y cant sy'n golygu na fydd trafodion sydd â chydnabyddiaeth o £225,000 neu lai yn talu treth. Mae'r gostyngiad cymedrol hwn i fusnesau yn dangos cefnogaeth y Llywodraeth hon i fusnesau wrth iddyn nhw geisio gwella o'r pandemig, yn ogystal ag annog busnesau llai i ddechrau yng Nghymru.
Rwy'n cydnabod y pwyntiau a godwyd yn adroddiadau'r pwyllgor ynglŷn ag absenoldeb un o'r pwerau perthnasol yn y rhagymadrodd i'r rheoliadau. Mae ymateb Llywodraeth Cymru i'r pwyllgor yn nodi'n glir pam yr ydym o'r farn bod y rheoliadau fel y'u gwnaed yn ddilys. Mae cyfraith achosion yn cefnogi'r sefyllfa honno, ac mae'r prif reoliadau a ddiwygir yn cynnwys yr holl bwerau perthnasol yn y rhagymadrodd, ac mae'r rheoliadau'n nodi'n glir y newidiadau sydd i'w gwneud.
Mae'r ail gyfres o reoliadau treth trafodion tir yn ymwneud â thrafodion dibreswyl yn unig ac yn diwygio swm y rhent perthnasol. Ffigur rhent blynyddol yw'r swm rhent perthnasol, ac os caiff ei dalu ynghyd â chydnabyddiaeth ar wahân i renti, cymhwysir rheol atal osgoi. Mae'r rheoliadau hyn yn cynyddu'r swm 50 y cant, o £9,000 i £13,500. Mae hyn yn cynnal y berthynas rhwng y trothwyon sero a'r swm rhent perthnasol, gan sicrhau bod y rheol yn parhau i weithredu fel o'r blaen.
O ran treth gwarediadau tirlenwi, mae Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 yn ymwneud â gosod cyfraddau treth 2021-22 ar gyfer treth gwarediadau tirlenwi. Mae'r rheoliadau hyn yn pennu'r cyfraddau gwaredu safonol is ac anawdurdodedig ar gyfer treth gwarediadau tirlenwi, a fydd, yn amodol ar ganlyniad y ddadl heddiw, yn gymwys i warediadau trethadwy a wneir ar neu ar ôl 1 Ebrill 2021. Yn unol â'm cyhoeddiad yn y gyllideb ddrafft ym mis Rhagfyr, bydd y cyfraddau safonol ac is ar gyfer treth gwarediadau tirlenwi yn cynyddu yn unol â'r mynegai prisiau manwerthu. Mae'r dull hwn yn sicrhau bod cyfraddau'n parhau i fod yn gyson â'r DU ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, gan ddarparu'r sefydlogrwydd y mae busnesau wedi dweud wrthym fod ei angen arnyn nhw.
Eleni, drwy bennu'r un cyfraddau treth â Llywodraeth y DU, bydd gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn parhau i elwa ar refeniw treth, gan sicrhau bod y risg o symud gwastraff dros y ffin yn gostwng. Bydd y gyfradd safonol yn cael ei chynyddu i £96.70, a'r gyfradd is fydd £3.10 y dunnell. Y gyfradd anawdurdodedig, a bennir ar 150 y cant o'r gyfradd safonol i annog pobl i beidio ag ymgymryd â gweithgareddau anghyfreithlon o ran gwastraff, fydd £145.05 y dunnell. Gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau hyn.
Diolch. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Fe glywodd y pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog ar y rheoliadau yma, wrth gwrs, fel rhan o'n gwaith craffu ni ar y gyllideb ddrafft. Bydd fy nghyfraniad i'n canolbwyntio ar reoliadau bandiau treth a chyfraddau treth y dreth trafodiadau tir.
Fe glywon ni gan y Gweinidog fod yna ddau benderfyniad o bwys ar gyfer gwneud y rheoliadau hyn. Yn y lle cyntaf, cynyddu cyfraddau treth a delir ar drafodion sy'n atebol i'r cyfraddau preswyl uwch er mwyn creu cyllid ychwanegol i ganiatáu gwariant pellach gan Lywodraeth Cymru, yn enwedig ym maes tai; ac yn ail, gostwng faint o dreth sy'n daladwy ar drafodion dibreswyl, fydd yn darparu rhywfaint o gefnogaeth i fusnesau wrth i’r pandemig ddod i ben. Fe ddywedodd y Gweinidog wrthon ni fod y cyfraddau hyn yn parhau i fod yn flaengar o ran egwyddorion treth Llywodraeth Cymru. Fe ddywedodd y dylid gwneud cyhoeddiadau sy’n ymwneud â threth, lle bo hynny’n bosibl, fel rhan o'r gyllideb ddrafft, o ystyried eu bod, wrth gwrs, yn gysylltiedig â'r ymrwymiadau gwariant yn y gyllideb.
Mi fydd y Siambr hon yn cofio bod amserlen Llywodraeth Cymru ar gyfer gwneud newidiadau i’r dreth trafodiadau tir yn haf 2020 yn dibynnu ar newidiadau a wnaed gan San Steffan yn dilyn gwyliau treth stamp dros dro Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn hytrach na chan gylch y gyllideb. Mae’r pwyllgor, felly, yn croesawu'r dull, sef bod y rheoliadau hyn wedi’u gwneud fel rhan o'r gyllideb ddrafft, o ystyried bod newidiadau treth yn gysylltiedig ag ymrwymiadau gwariant.
Fe osodwyd y rheoliadau hyn ar 21 Rhagfyr, ac fe ddaethon nhw i rym y diwrnod canlynol. Fe glywon ni gan y Gweinidog bod hynny'n berffaith gyfreithlon, i gyfyngu ar gyfleoedd trethdalwyr i ddwyn trafodion ymlaen er mwyn osgoi'r cynnydd yn y cyfraddau. Fodd bynnag, roedd hi'n cydnabod goblygiadau hynny ar gyfreithwyr ac eraill sy'n ymwneud â thrafodion eiddo. Er ein bod ni'n cydnabod y gallai fod angen rhoi newidiadau treth trafodiadau tir ar waith ar unwaith er mwyn osgoi ymddygiad ystumiol, fe ellir ystyried hyn yn groes i egwyddor treth Llywodraeth Cymru, sef galluogi rhanddeiliaid i gynllunio gyda sicrwydd.
Yn olaf, fe wnaethom ni holi'r Gweinidog ynghylch y pŵer i Weinidogion Cymru i bennu'r bandiau treth a'r cyfraddau cyfrannol yn achos cydnabyddiaeth drethadwy, sy'n cynnwys rhent ar gyfer prydlesi dibreswyl neu gymysg, gan na nodwyd hynny yn y rhaglith, fel y soniodd y Gweinidog, ac a fyddai hynny'n cael unrhyw effaith ar ddilysrwydd y rheoliadau. Rydym ni'n nodi geiriau'r Gweinidog yn gynharach ac ymateb y Llywodraeth, felly, sy'n cydnabod nad yw'r pŵer hwn yn cael ei nodi, ond nad yw o'r farn bod hyn yn newid effaith y rheoliadau. Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau, serch hynny, y bydd, er eglurder cyfreithiol, yn gwneud y diwygiadau angenrheidiol ar y cyfle nesaf, ac rydym ni yn eu hannog nhw, wrth gwrs, i wneud hynny cyn gynted ag sy'n bosibl. I gloi, felly, Llywydd, mae'r Pwyllgor Cyllid yn nodi'r tair set o reoliadau.
Diolch. A gaf i alw ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw?
Diolch, Dirprwy Lywydd. O ran eitemau 6, 7 ac 8, gwnaethom ystyried y tair cyfres hyn o reoliadau yn ein cyfarfod ar 11 Ionawr a gosodwyd ein hadroddiad gennym ar yr un diwrnod. Ni chododd ein hadroddiad ar Reoliadau Treth Trafodiadau Tir (Swm Penodedig o Rent Perthnasol) (Cymru) (Diwygio) 2021 unrhyw faterion o bwys, felly fe wnaf ganolbwyntio ar y ddau offeryn sy'n weddill at ddibenion y ddadl hon.
Cododd ein hadroddiad ar Reoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2020 nifer o bwyntiau technegol. Nododd ein pwynt cyntaf fod Llywodraeth Cymru wedi methu enwi un o'r pwerau galluogi a ddefnyddiwyd i wneud y rheoliadau hyn, ac er ein bod yn cytuno â safbwynt Llywodraeth Cymru nad yw hyn yn newid effaith y rheoliadau, rydym yn croesawu ei hymrwymiad i wneud y gwelliannau angenrheidiol ar y cyfle nesaf, dim ond er mwyn eglurder cyfreithiol.
Roedd y pwyntiau technegol ychwanegol a godwyd gennym yn ymwneud â mân anghysondebau a materion drafftio yn y rheoliadau, ac eto, rydym yn croesawu cadarnhad Llywodraeth Cymru y bydd yn ceisio cywiro'r gwallau hyn.
Amlygodd ein pwynt rhinwedd cyntaf yn ymwneud â'r rheoliadau hyn y rhybudd byr ynghylch y newidiadau a wnaed gan y rheoliadau hyn, ac rydym yn ymwybodol bod y Gweinidog wedi cael gohebiaeth gan y sector ar yr union bwynt hwn. Yn yr ymateb hwn i'n pwynt adrodd, dywedodd Llywodraeth Cymru fod y newidiadau wedi dod i rym yn fuan ar ôl iddyn nhw gael eu cyhoeddi i gyfyngu ar gyfleoedd trethdalwyr i ddod a thrafodion ymlaen er mwyn osgoi'r cynnydd yn y cyfraddau fel y'u nodir gan y rheoliadau.
Nododd ein hail bwynt rhinweddau fandiau treth diwygiedig a chyfraddau treth canrannol y rheoliadau hyn ar gyfer trafodion penodol yn amodol ar dreth trafodiadau tir a gasglwyd gan Awdurdod Cyllid Cymru. Mae'n rhaid talu symiau a gesglir gan Awdurdod Cyllid Cymru i gronfa gyfunol Cymru. Codwyd pwynt rhinweddau tebyg yn ein hadroddiad ar Reoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020, ac fel y dywedodd y Gweinidog, roedd y rheoliadau hyn yn rhagnodi'r tair cyfradd o dreth gwarediadau tirlenwi yng Nghymru a gasglwyd gan Awdurdod Cyllid Cymru drwy arfer ei swyddogaethau ac a dalwyd i gronfa gyfunol Cymru. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Byddwn ni'n cefnogi'r rheoliadau diwygio cyntaf a'r olaf. Rydym hefyd yn cydnabod yr effaith fuddiol ar y rhan fwyaf o fusnesau bach y rheoliad diwygio arfaethedig yn y canol. Fodd bynnag, rydym hefyd yn cydnabod bod ei gynigion ehangach i gynyddu'r dreth trafodiadau tir ar gyfer ail gartrefi yn berthnasol i lawer mwy na chartrefi gwyliau yn unig mewn nifer fach o ardaloedd lle mae galw mawr yn peri risg o ganlyniadau difrifol i ddarpariaeth tai yn ehangach ac mae busnesau hunanarlwyo cyfreithlon ledled Cymru eisoes wedi'u taro'n galed gan gyfyngiadau coronafeirws. Mae hyn yn niweidiol i filoedd o drigolion yn y sector rhentu preifat ac yn gwrth-ddweud amcanion Llywodraeth Cymru ei hun o ran pennu cyllidebau. Nid mesur iechyd cyhoeddus yw hwn, ac felly nid oes ganddo gyfiawnhad o'r fath am y rhesymau hyn. Mae hyn hefyd yn methu cydnabod yr effaith ariannol ar aelwydydd a busnesau sydd eisoes yn gorfod ymdopi ag effaith cyfyngiadau'r ymateb i coronafeirws sy'n newid yn gyflym. Nid yn unig y mae hyn yn faich annymunol ar y landlordiaid preifat hynny sy'n darparu tai i'r rhai na allant fforddio neu sy'n dewis peidio â phrynu ar adeg mor ansicr, mae'n ei gwneud yn anos i berchen-feddianwyr ail gam symud i gartref newydd ac felly rhyddhau stoc i brynwyr tro cyntaf. Mae'r gwelliant hwn unwaith eto'n anwybyddu'r realiti bod y rhan fwyaf o landlordiaid preifat yn landlordiaid gweddus heb lawer o eiddo, ac yn dibynnu arnyn nhw am eu costau byw eu hunain, sy'n darparu tai gwerthfawr i'r rhai na allant brynu neu nad oes angen iddyn nhw wneud hynny, gan ddefnyddio adnoddau cymdeithasol gwerthfawr sydd, wrth gwrs, yn brin. Byddai'n llesteirio gallu landlordiaid da i ehangu ac amrywio eu portffolio i ddiwallu'r angen hwnnw.
Ni ddylid trin eiddo prynu i osod yr un fath ag ail gartrefi, gan eu bod yn darparu ar gyfer enillwyr cyflogau isel nad ydyn nhw'n gallu prynu, a phobl leol, ymhlith eraill. O ystyried y sefyllfa economaidd bresennol, bydd pobl hefyd yn llai abl i brynu, ac felly mae tai'r sector rhentu preifat bellach yn wasanaeth mwy gwerthfawr fyth. Fel y dywedodd rhai landlordiaid gweddus yn sir y Fflint wrthyf yr wythnos diwethaf, 'Mae'r cyfyngiadau a osodir gan y Llywodraeth yn lleihau'n gyflym y stoc o eiddo rhent gweddus, fforddiadwy. Rydym wedi dysgu gwers galed eleni, felly byddwn ni'n dechrau'r broses o adleoli ein portffolio rhentu i Loegr. Mae'n benderfyniad trist, oherwydd mae'r ddau ohonom yn dod o gefndir Cymreig.'
Mae'r gwelliant hwn hefyd yn codi cwestiynau ynghylch yr effaith, er enghraifft, ar aelodau o'r offeiriadaeth a phersonél y lluoedd arfog y mae eu cyflogaeth yn gofyn iddyn nhw fyw mewn mannau eraill, ond sy'n ceisio prynu cartrefi yn eu cymunedau eu hunain. Byddwn o ganlyniad yn ymatal.
Diolch. Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i ymateb, Rebecca Evans.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i'r holl gyd-Aelodau am eu cyfraniadau, ac yn enwedig i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Cyllid am y gwaith y maen nhw wedi'i wneud o ran craffu ar y rheoliadau. Fe wnaf ymateb i'r ddau bwynt mwyaf o bwys a godwyd yn ystod y ddadl yn fy marn i, a'r cyntaf yw amseriad y cyhoeddiad. Rydym yn cydnabod bod y newidiadau wedi'u cyflwyno'n fuan iawn ar ôl eu cyhoeddi, a byddai gan hynny rai goblygiadau i waith cyfreithwyr ac eraill sy'n ymwneud â chyfleu eiddo. Rwy'n credu, serch hynny, ei bod yn dal yn wir ei bod yn briodol inni gyhoeddi'r penderfyniadau hyn ochr yn ochr â'r gyllideb ddrafft pan fydd ein cynlluniau gwariant mor gydgysylltiol â'r cyfraniad y mae trethi datganoledig yn ei wneud i ariannu'r gwariant hwnnw, a chyflwyno'r newidiadau yn y modd hwn am reswm da—i gyfyngu ar y cyfleoedd i drethdalwyr ddod â thrafodion ymlaen er mwyn osgoi'r cynnydd yn y cyfraddau, ac i dalu'r pedair cyfradd is. Ond rwy'n credu ei bod hi hefyd yn bwysig cydnabod bod rheolau trosiannol wedi'u cynnwys hefyd, fel y gallai'r rhai a oedd wedi cyfnewid contractau dalu'r dreth yn seiliedig ar y cyfraddau ar y dyddiad y cawsant eu cyfnewid fel na fydden nhw dan anfantais o ganlyniad i hynny. Felly, rwy'n credu bod hynny'n amddiffyniad pwysig a wnaethom ni ei roi ar waith.
Yna, o ran yr effaith ar bryniannau ail gartref, rwy'n credu bod y mesurau a wnaethom eu cyflwyno i sicrhau refeniw ychwanegol i Lywodraeth Cymru yn gymesur â'r heriau. O ganlyniad i'r newidiadau, bydd y dreth a delir ar drafodion ardrethi preswyl uwch yn cynyddu £1,600 ar gyfartaledd ac mae tua 14,000 o drafodion o'r fath bob blwyddyn. O ganlyniad, rydym yn disgwyl i'r mesur hwn ddarparu cynnydd o £14 miliwn mewn refeniw yn 2021-22, ac o ganlyniad, fe welwch ein bod wedi gallu cynyddu'r cyllid yr ydym yn ei roi yn ein hagenda dai yn ein cyllideb ddrafft, felly rwy'n credu bod cysylltiad agos a chlir rhwng y penderfyniadau yr ydym ni wedi'u gwneud yn hyn o beth a'n hymdrechion i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy i unigolion ledled Cymru. Felly, roedd y penderfyniadau a wnaethom ni yn y gyllideb hon, yn fy marn i, yn gymedrol ac yn gymesur.
Rwy'n credu, Llywydd, fy mod wedi ymateb i'r prif bwyntiau o bwys. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig o dan eitem 6. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, derbynnir y cynnig.
Y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig o dan eitem 7. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, felly, unwaith eto, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, derbynnir y cynnig o dan eitem 7.
Y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig o dan eitem 8. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf yn gweld unrhyw wrthwynebiadau, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.