Ynni Adnewyddadwy

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 3 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:30, 3 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru wedi pennu fframwaith polisi cadarnhaol i annog cynhyrchu ynni adnewyddadwy ar raddfa fach. Mae'r cynlluniau ynni rydym yn eu datblygu yn nodi ein hanghenion ar gyfer y dyfodol o ran pŵer, gwres a thrafnidiaeth. Mae gwasanaeth ynni Llywodraeth Cymru yn darparu cefnogaeth i gymunedau a'r sector cyhoeddus er mwyn darparu cynhyrchiant ynni adnewyddadwy newydd i ddiwallu'r anghenion hynny.