Ynni Adnewyddadwy

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 3 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 1:31, 3 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae hwn yn faes a gefnogir yn drawsbleidiol rwy'n credu, ac mae hefyd yn boblogaidd iawn gyda grwpiau cymunedol. Mae ynni dŵr a solar ar raddfa fach yn enwedig yn boblogaidd, ac yn fwyfwy hyfyw gyda chapasiti storio gwell drwy fatris gwell. O ran ein targedau ar gyfer 2030 felly, tybed a ddylem fod hyd yn oed yn fwy uchelgeisiol wrth bennu’r gyfran honno o ynni rydym am ei gweld yn cael ei chynhyrchu drwy gynlluniau ar raddfa fach.