Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 3 Chwefror 2021.
Diolch. Mae'n destun cryn bryder fod 10 eiddo yn Rhuthun a phump arall mewn pentrefi cyfagos wedi cael eu heffeithio gan lifogydd yn ystod storm Christoph. Mae tri phrosiect lliniaru llifogydd yn cael eu datblygu gan Sir Ddinbych yn yr ardal, sy’n werth cyfanswm o £1.2 miliwn, gan gynnwys cynllun rheoli dalgylch afon Clwyd i fyny'r afon o Ruthun. Cwblhawyd prosiect gwerth £5.1 miliwn yn 2012.