1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru ar 3 Chwefror 2021.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am reoli'r risg o lifogydd yn Rhuthun? OQ56206
Diolch. Mae'n destun cryn bryder fod 10 eiddo yn Rhuthun a phump arall mewn pentrefi cyfagos wedi cael eu heffeithio gan lifogydd yn ystod storm Christoph. Mae tri phrosiect lliniaru llifogydd yn cael eu datblygu gan Sir Ddinbych yn yr ardal, sy’n werth cyfanswm o £1.2 miliwn, gan gynnwys cynllun rheoli dalgylch afon Clwyd i fyny'r afon o Ruthun. Cwblhawyd prosiect gwerth £5.1 miliwn yn 2012.
Diolch am eich ateb. Weinidog, mewn perthynas â storm Christoph, mae llawer o etholwyr yr effeithiwyd ar eu cartrefi gan y llifogydd ychydig wythnosau yn ôl wedi cysylltu â mi yn mynegi pryderon fod yr awdurdodau i'w gweld yn ymwybodol fod diffygion yn yr amddiffynfeydd rhag llifogydd, ac mewn gwirionedd, roedd yr amddiffynfeydd rhag llifogydd ym mharc Cae Ddol wedi cael eu llenwi â bagiau tywod hyd at ychydig fisoedd cyn y llifogydd penodol hyn. Dywed llawer o’r preswylwyr hynny, pe bai’r bagiau tywod hynny wedi bod yno o hyd a heb eu symud gan Cyfoeth Naturiol Cymru, neu ba bynnag awdurdod a’u gosododd yno, efallai na fyddai eu cartrefi a’u busnesau wedi cael eu heffeithio gan y llifogydd. A allwch roi sicrwydd i ni y bydd yr ymchwiliadau a fydd yn cael eu cynnal yn awr i'r llifogydd yn ystyried y materion hyn, ac os dônt i’r casgliad fod yr amddiffynfeydd yn ardal Rhuthun yn ddiffygiol mewn unrhyw ffordd, y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod cyllid ar gael er mwyn gwella’r gallu i wrthsefyll llifogydd yn Rhuthun er mwyn fy etholwyr ac er mwyn y busnesau sydd wedi'u lleoli yno?
Wel, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid sylweddol yn ystod y tymor hwn. Rydym eisoes wedi cyflawni'r ymrwymiad a wnaethom ar ddechrau tymor y Llywodraeth hon y byddem yn buddsoddi yn ein hamddiffynfeydd rhag llifogydd, gyda dros £390 miliwn yn mynd tuag at ein gwaith rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol dros ein dwy raglen. A chredaf ei bod yn deg dweud, oni bai am y buddsoddiad hwnnw gan Lywodraeth Cymru, y byddai'r sefyllfa'n waeth o lawer. Rydym wedi wynebu llifogydd sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf fel y bydd yr Aelodau'n gwybod. Mae'n erchyll pan fydd llifogydd yn effeithio ar eich cartref, ac rwy’n cydymdeimlo’n llwyr â’ch etholwyr yr effeithiwyd arnynt yn y ffordd hon. Fe fyddwch yn ymwybodol fod yn rhaid i'r awdurdod rheoli perygl llifogydd ymchwilio yn dilyn unrhyw lifogydd. Yn yr achos hwn, Cyngor Sir Dinbych yw’r awdurdod hwnnw, a bydd yn rhaid iddynt gyflwyno adroddiadau adran 19 pan fydd hynny’n briodol. Nid wyf yn ymwybodol o'r sefyllfa y cyfeiriwch ati. Felly, nid wyf yn gwybod ai CNC oedd yr awdurdod rheoli perygl llifogydd, neu'n wir, yr awdurdod lleol, ond byddwn yn disgwyl i hynny gael ei gynnwys yn yr adroddiad.
Mae buddsoddi'n digwydd yn ardal Rhuthun, ac rwy'n ymwybodol o achos cyfiawnhad busnes Graigfechan, ac rydym wedi rhoi cyllid ar ei gyfer, gwaith cynllunio Llanbedr Dyffryn Clwyd, a gwaith rheoli llifogydd naturiol dalgylch afon Clwyd yr ydym wedi rhoi £1 miliwn ar ei gyfer. Pe bai unrhyw beth yn cael ei godi yn yr ymchwiliad hwnnw, ac rwyf eisoes wedi gofyn i bob awdurdod rheoli perygl llifogydd edrych ar beth arall y mae angen ei wneud i amddiffynfeydd, gallant wneud cais am gyllid wrth gwrs. Y llynedd yn unig, darparais gyllid grant 100 y cant ar gyfer atgyweiriadau brys i asedau llifogydd a ddifrodwyd ledled Cymru, a chredaf fod cyfanswm yr arian hwnnw oddeutu £4.6 miliwn.