Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 3 Chwefror 2021.
Diolch. Mae'r sector bwyd môr yn dioddef effaith niweidiol ac uniongyrchol ers gadael yr Undeb Ewropeaidd, gyda phroblemau allforio'n effeithio ar y gadwyn gyflenwi gyfan. Rwy'n parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i ddatrys y materion hyn a digolledu'r diwydiant cyfan yn briodol. Yn ogystal, mae'n hanfodol fod pysgotwyr Cymru yn derbyn eu cyfran deg o'r cwota ychwanegol bach a ddarperir gan y cytundeb masnach a chydweithredu.