Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 3 Chwefror 2021.
Diolch, Weinidog. Gwrandewais ar yr ateb blaenorol, yn amlwg, ond ychydig iawn os unrhyw beth o gwbl y mae ffiniau cenedlaethol yn ei olygu, byddwn yn dadlau, mewn perthynas â’n pryfed peillio annwyl, fy ngwenyn bach. Felly, a allwch chi ymrwymo i wahardd y defnydd o blaladdwyr neonicotinoid yng Nghymru cyhyd ag y bo modd—am byth, byddwn yn dadlau? A pha mor bryderus ydych chi ynglŷn â’r newid hwn i'r rheoliadau amgylcheddol gan Lywodraeth y DU mor fuan ar ôl gadael yr UE? Ai dim ond y cyntaf yw hwn o lawer o newidiadau posibl i reoliadau amgylcheddol, a sut y gallwn amddiffyn Cymru rhag unrhyw newidiadau pellach yn y mater hwn? Diolch.