Plaladdwyr Neonicotinoid

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 3 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:16, 3 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch. Gallech ddweud ei fod yn dipyn o gyd-ddigwyddiad, ond ni chredaf fod unrhyw gyd-ddigwyddiadau mewn gwleidyddiaeth. Felly, credaf ei fod yn rhywbeth y bydd angen i ni ei wylio'n agos iawn a fy mlaenoriaeth, fel bob amser, yw parhau i leihau, i'r lefel isaf sy'n bosibl, effaith y defnydd o blaladdwyr ar bobl, ar fywyd gwyllt, ar blanhigion, ac wrth gwrs, ar yr amgylchedd.