Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 3 Chwefror 2021.
Diolch. Yn anffodus, mae cartrefi wedi cael eu heffeithio gan lifogydd o ganlyniad i storm Christoph ledled Sir y Fflint, gydag ymchwiliadau cynnar yn nodi bod pedwar eiddo yn Sandycroft wedi cael eu heffeithio. Bydd cynrychiolwyr o’r awdurdod lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru yn cyfarfod eto yr wythnos hon i ddeall yr achosion a thrafod a ellir gwneud gwelliannau ar y cyd.