1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru ar 3 Chwefror 2021.
5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith storm Christoph ym Mancot, Sandycroft a chymunedau cyfagos? OQ56207
Diolch. Yn anffodus, mae cartrefi wedi cael eu heffeithio gan lifogydd o ganlyniad i storm Christoph ledled Sir y Fflint, gydag ymchwiliadau cynnar yn nodi bod pedwar eiddo yn Sandycroft wedi cael eu heffeithio. Bydd cynrychiolwyr o’r awdurdod lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru yn cyfarfod eto yr wythnos hon i ddeall yr achosion a thrafod a ellir gwneud gwelliannau ar y cyd.
Weinidog, diolch am eich ateb. Nawr, cysylltodd preswylwyr mewn gofid mawr â mi yn ddiweddar i ofyn imi ddod i weld effaith y llifogydd diweddar a beth y mae hynny wedi'i wneud i'w bywydau bob dydd yn Sandycroft, Mancot a'r ardaloedd cyfagos. Nawr, ymwelais â phob ewyllys da fel eu cynrychiolydd etholedig, ac roedd yn amlwg i mi mai hynny oedd y peth lleiaf y gallwn ei wneud. Dyma'r eildro i lifogydd daro'r ardal yn y 18 mis diwethaf. Mae'n amlwg fod angen sylw a buddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Sir y Fflint, CNC a Dŵr Cymru. Nawr, a wnaiff eich swyddogion—rydych wedi dweud y byddant yn cyfarfod eto, ond a wnaiff eich swyddogion gynorthwyo i drefnu cyfarfod gyda mi a'r preswylwyr a'r rhanddeiliaid hynny i ganfod pa dechnegau atal llifogydd y gellir eu cyflwyno? Ac yn olaf, Weinidog, gan y credaf fod angen ateb hirdymor, tra bo’r preswylwyr yn aros am yr ateb hirdymor hwnnw, a fyddwch yn gallu ariannu pwmp a fyddai'n rhoi tawelwch meddwl dros dro i’r preswylwyr fel mater o frys?
Felly, byddwch wedi fy nghlywed yn dweud yn fy ateb cynharach i Darren Millar fod cyllid ar gael. Rydym eisoes wedi darparu cryn dipyn o gyllid—dros £350 miliwn—i’n cynlluniau llifogydd dros dymor y Llywodraeth hon, ac mae cyllid pellach ar gael. Yr hyn sy'n bwysig yw bod gennych y mesurau cywir ar waith. Felly, yn amlwg, ni waeth beth a ddaw o'r ymchwiliad i’r rhesymau pam y bu llifogydd yn y cartrefi, ac rwy'n siŵr fod eich etholwyr wedi croesawu a gwerthfawrogi eich ymweliad, gallwn fwrw ymlaen wedyn i weld a oes angen cynllun—a oes angen cynllun gwahanol.
Rydym hefyd wedi darparu cyllid fel y gall cartrefi unigol gael mesurau gwrthsefyll llifogydd, felly, pethau fel gatiau llifogydd. Unwaith eto, mae'r cyllid wedi mynd gan Lywodraeth Cymru yn uniongyrchol i awdurdodau lleol, gan y credaf fod hynny'n bwysig, fod y mesurau cywir yn cael eu rhoi ar waith. Felly, pe baech yn rhoi'r cyllid yn uniongyrchol i breswylwyr, efallai y byddent yn prynu rhywbeth nad yw’n mynd i ddarparu diogelwch pellach i'w cartref mewn gwirionedd.
Yn sicr, byddwn yn fwy na pharod i gyfarfod â chi. Cyfarfûm yn ddiweddar â fy nghyd-Aelodau, Mick Antoniw a Jane Hutt, sydd ill dau, yn anffodus, wedi cael llifogydd yn eu hetholaethau, a daethom â'r holl bartneriaid ynghyd—nid o reidrwydd gyda'r preswylwyr, ond gyda'r partneriaid, i gael y trafodaethau cychwynnol hynny. Ac efallai y byddai'n werth gwneud hynny gyda mi a fy swyddogion a'r awdurdod lleol ac CNC a Dŵr Cymru i gael golwg ar rai o ganfyddiadau cychwynnol yr ymchwiliadau a chael sgwrs bellach gyda thrigolion yn nes ymlaen efallai.
Lansiodd pobl yn Sandycroft, Mancot a Pentre ddeiseb ar ôl i storm Christoph achosi llifogydd difrifol a wnaeth ddifetha eu cartrefi am yr eildro mewn 18 mis, gan achosi poen a difrod. Mae'r ddeiseb yn nodi
[nad] yw’r systemau draenio a’r ffosydd yn cael eu cynnal a'u cadw'n ddigon da ac nid ydynt yn addas at y diben, ac oherwydd hyn, mae pobl yn dioddef canlyniadau trychinebus a llifogydd yn eu cartrefi. Mae angen i Gyngor Sir y Fflint gymryd camau ar unwaith i fynd i'r afael â hyn.
Cysylltwyd â mi hefyd ar ôl i eiddo ym Mrychdyn gael eu heffeithio’n wael, gyda phobl yn gofyn a fyddai’r llifogydd wedi bod yn llai pe bai’r ffos gyferbyn â’u heiddo wedi cael ei lledu neu ei dyfnhau gan y cyngor. Hefyd, caeodd llifogydd y ffyrdd rhwng Ffynnongroyw a Thalacre, Ffordd Llanfynydd rhwng Treuddyn a Llanfynydd, a ffordd yr A541 rhwng Wrecsam a’r Wyddgrug ym Mhontblyddyn. Pa waith ymgysylltu ehangach y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, felly, gyda chyngor Sir y Fflint i gytuno ar achosion y llifogydd hyn ledled y sir, sy’n achosion y gellir eu hosgoi, a sicrhau bod mesurau ataliol, a chosteffeithiol felly, yn cael eu rhoi ar waith ar gyfer y dyfodol?
Rwy’n cytuno’n llwyr, os yw eich cartref yn dioddef llifogydd, fod hynny’n dorcalonnus ac yn drawmatig iawn, ac rydym am wneud popeth y gallwn ei wneud i ddiogelu cymaint o gartrefi â phosibl. Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud yn fy ateb cynharach i Jack Sargeant fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi dros £360 miliwn i'n cynlluniau rheoli llifogydd dros dymor y Llywodraeth hon. Felly, mae'r arian yno, mae'r cyllid yno; mae pob awdurdod lleol yn gwybod y gallant wneud cais amdano. Rydym yn dymuno cael llif o gynlluniau amddiffyn rhag llifogydd. Nid wyf am i'r arian eistedd yno heb gael ei wario, felly rydym wedi annog pob awdurdod lleol i wneud ceisiadau. Felly, ceir ymgysylltu ehangach â phob awdurdod lleol yng Nghymru mewn perthynas â hynny.
Mewn ymateb i'ch pryderon penodol ynghylch—. Nid oes angen deiseb ar y preswylwyr; mae'r cyllid yno. Yr awdurdod lleol sydd i nodi beth sydd ei angen yn eu barn hwy. Mae fy swyddogion yn awyddus iawn i weithio gyda'r holl awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau bod gennym y llif hwnnw o gynlluniau i wario'r cyllid sylweddol hwnnw arnynt. Hyd yn hyn, yn ôl y gwaith ymgysylltu rydym wedi'i wneud â Chyngor Sir y Fflint, effeithiwyd ar 37 eiddo yn fewnol gan lifogydd yn sgil storm Christoph. Felly, rwy'n sylweddoli nad ardal Sandycroft yn unig a ddioddefodd, ac wrth inni gael mwy o wybodaeth o'r ymchwiliadau, gallem weld bod cynnydd wedi bod yn y niferoedd yn anffodus. Rwy'n deall, yn amlwg, fod Sandycroft a Pentre wedi cael digwyddiad tebyg y llynedd, ac wrth gwrs, mae hynny bob amser yn cynyddu tensiynau, ac rwy'n deall yn iawn eu bod yn galw am gamau gweithredu, ac maent yn iawn i wneud hynny. Ond hoffwn roi sicrwydd i etholwyr Jack Sargeant ein bod ni yma i helpu, ac mae'n bwysig iawn fod cyngor Sir y Fflint yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i gynnig atebion.