Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 3 Chwefror 2021.
Prynhawn da, Weinidog. Mae Cyngor Sir Fynwy yn cynnal fforymau busnes rheolaidd, sy'n amlwg yn ffordd wych o helpu i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf, lle i rannu pryderon a syniadau. Mynychais yr un diwethaf, a'r pryder mwyaf a nodwyd yn hwnnw, gan fusnesau, oedd bod llawer o fusnesau'n dal i ddisgyn drwy'r bylchau o ran gallu cael gafael ar grantiau a chyllid. A ydych yn cytuno ei bod yn bryd i awdurdodau lleol gael cronfa o arian i'w dosbarthu'n gyfan gwbl yn ôl eu disgresiwn eu hunain i'r mathau hyn o fusnesau, sy'n ymddiried yn eu gwybodaeth leol am y busnesau hynny ac yn gwybod beth sydd orau? Diolch yn fawr iawn.