2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 3 Chwefror 2021.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Laura Jones.
Prynhawn da, Weinidog. Mae Cyngor Sir Fynwy yn cynnal fforymau busnes rheolaidd, sy'n amlwg yn ffordd wych o helpu i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf, lle i rannu pryderon a syniadau. Mynychais yr un diwethaf, a'r pryder mwyaf a nodwyd yn hwnnw, gan fusnesau, oedd bod llawer o fusnesau'n dal i ddisgyn drwy'r bylchau o ran gallu cael gafael ar grantiau a chyllid. A ydych yn cytuno ei bod yn bryd i awdurdodau lleol gael cronfa o arian i'w dosbarthu'n gyfan gwbl yn ôl eu disgresiwn eu hunain i'r mathau hyn o fusnesau, sy'n ymddiried yn eu gwybodaeth leol am y busnesau hynny ac yn gwybod beth sydd orau? Diolch yn fawr iawn.
Hoffwn groesawu Laura Anne i'w rôl—mae'n braf eich gweld yn y rôl, Laura. Rwy'n credu mai dyma'r tro cyntaf i ni gael sesiwn gwestiynau gyda'n gilydd, felly rwy’n falch iawn o'ch gweld.
Rydym wedi gweithio'n galed iawn gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod grantiau’n cael eu dosbarthu’n gyflym, yn enwedig y grantiau sy'n mynd allan drwy'r broses ardrethi annomestig. Ac rwy'n falch iawn o ddweud, wrth i bob ton o grantiau gael ei chyflwyno, ein bod wedi gallu cyflymu'r broses fwy a mwy, a'i hawtomeiddio. Ac rydym wedi gwneud hynny oherwydd ein bod wedi sicrhau gwaith tîm da ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru. Ac mae Peter Fox yn Sir Fynwy wedi bod yn rhan fawr o hynny ac wedi bod yn falch iawn o fod o gymorth gyda hynny.
Rwyf hefyd yn falch o ddweud bod cronfa ddewisol ar gael eisoes wrth gwrs ar gyfer awdurdodau lleol a all gynorthwyo pobl yn eu hardal. Mater iddynt hwy yw penderfynu a yw busnesau penodol yn bodloni'r meini prawf ai peidio. Mae hynny am yr union reswm rydych newydd ei amlinellu—ein bod yn credu o ddifrif mai awdurdodau lleol sydd yn y sefyllfa orau i ddeall anghenion eu busnesau lleol, ac i ddeall y manylion. Mae'n anodd iawn creu un cynllun sy'n addas i bawb heb i bobl ddisgyn drwy fylchau’r cynllun hwnnw. Felly, rydym yn bendant iawn wedi'i sefydlu yn y ffordd honno, gyda llawer o ymgynghori ag arweinwyr awdurdodau lleol, a llawer o ymgynghori yn wir â thrysoryddion awdurdodau lleol. Ac eto, rwy'n ailadrodd fy niolch i'r cannoedd ar gannoedd o swyddogion mewn awdurdodau lleol ledled Cymru sydd wedi gwneud eu gorau glas i ddarparu’r grantiau hyn i bobl mewn da bryd—drwy'r Nadolig, a thrwy wyliau cyhoeddus, a phopeth arall; maent wedi gwneud gwaith da iawn yn wir. Felly rwy'n falch iawn o ddweud bod y cynllun dewisol hwnnw ar waith, a'i fod yn cael ei ddefnyddio'n effeithiol gan awdurdodau lleol ledled Cymru.
Diolch i chi, Weinidog. Efallai fod angen mwy o hyblygrwydd yn y gronfa ddewisol, oherwydd mae'r bylchau hynny yno o hyd.
Mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi cynnal adolygiad o ardrethi domestig a busnes a threth stamp. Maent yn awgrymu nad yw'r system bresennol ar gyfer casglu ardrethi busnes yn addas i'r diben mwyach ac y dylid ei dileu a chael system decach yn ei lle, a fyddai wedyn yn denu mwy o fusnesau i ganol ein trefi ac yn annog y rhai sydd yno eisoes i aros. A yw Llywodraeth Cymru wedi edrych ar ffyrdd eraill o gasglu?
Mae'r dreth gyngor a'r system ardrethi annomestig yn rhan o bortffolio fy nghyd-Aelod Rebecca Evans mewn gwirionedd, er bod gennyf lawer i'w wneud â hynny wrth gwrs, oherwydd llywodraeth leol yw un o'r prif fuddiolwyr. Yn ddiweddar iawn yn y Senedd, cyflwynodd ddarn o ymchwil rydym wedi'i wneud, ac rwyf wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â hi ar hwnnw, ar hynny'n union—sut i ddiwygio'r dreth gyngor a'r system ardrethi annomestig yng Nghymru ar sail gwbl wahanol. Mae adroddiad ymchwil diddorol iawn wedi'i gyflwyno o ganlyniad i'r gwaith sydd wedi bod yn mynd rhagddo, ac wrth gwrs, gwyddom fod—. Yn wir, rwyf wedi bod yn falch iawn ein bod ein dwy wedi gallu cynorthwyo awdurdodau lleol i edrych ar y diffyg yn yr arian a gasglwyd o ardrethi annomestig o ganlyniad i'r seibiant rhag talu ardrethi busnes rydym wedi gallu ei weithredu oherwydd y pandemig, ac wrth gwrs, oherwydd natur gyfnewidiol y ffordd y mae manwerthu, yn arbennig, wedi'i strwythuro yng nghanol ein dinasoedd. Felly, mae wedi gwneud gwaith ymchwil da iawn rwy'n falch o fod wedi bod yn rhan ohono. Rwy'n siŵr y bydd cyfle i bwy bynnag a fydd yn Llywodraeth newydd Cymru fwrw ymlaen â rhai o'r awgrymiadau rhagorol niferus y mae'r papur ymchwil hwnnw wedi'u cynnig.
Mae hynny'n wych. Diolch am hynny, Weinidog. Mae'r Alban wedi cyhoeddi y bydd rhyddhad ardrethi busnes yn awr yn cael ei ymestyn i gynnwys pob busnes, nid dim ond y rhai sydd â gwerth ardrethol o £500,000 a llai, ac mae hynny wedi'i groesawu'n fawr. Daw hyn cyn iddynt wybod faint o arian a ddaw gan Lywodraeth y DU, i roi sicrwydd mawr ei angen i fusnesau ar hyn o bryd. Maent yn cynnwys cymorth i fanwerthwyr nwyddau heblaw bwyd sydd â gwerth ardrethol o dros £500,000. O ystyried y cyhoeddiad hwnnw, a allwn ddisgwyl rhywbeth tebyg gan Lywodraeth Cymru?
Unwaith eto, fel y dywedais, nid fy mhortffolio i yw hwn. Mae'r mater hwn wedi'i rannu rhwng portffolio fy nghyd-Aelod, Ken Skates, a fy nghyd-Aelod Rebecca Evans mewn gwirionedd, ond yn amlwg mae gennyf ran fawr yn y sgwrs am hynny, o gofio mai awdurdodau lleol yw'r mecanwaith dosbarthu ar gyfer rhan fawr iawn o'r ardrethi. Wrth gwrs, rydym wedi bod yn edrych eto ar yr hyn y gellir ei wneud. Yn ddiweddar iawn, cyhoeddodd fy nghyd-Aelod Ken Skates set arall o drefniadau cymorth busnes i'n tywys ni drwy gam nesaf y pandemig, ac rwy'n siŵr y bydd cyhoeddiadau pellach gan fy nghyd-Aelodau, Ken Skates a Rebecca Evans, maes o law.
Llefarydd Plaid Cymru, Delyth Jewell.
Diolch, Lywydd. Weinidog, yn eich datganiad yr wythnos diwethaf, fe wnaethoch chi gydnabod bod ail gartrefi yn broblem gynyddol mewn rhannau o Gymru. Ond mae'r camau hyd yn hyn gan y Llywodraeth yn rhai bach iawn i fynd i'r afael â hi. Fe wnaeth BBC Cymru Fyw gyfweld yn ddiweddar ag ymgyrchydd lleol dros hawliau tai teg, sef Rhys Tudur, a dywedodd Rhys fod pobl ifanc fel fe methu prynu tai yn lleol ac aros yn eu cymunedau. Dywedodd e fod tŷ cyngor ar werth yn Abersoch am £380,000. Mae hyn ymhell o afael pobl leol, lle mae'r cyfartaledd cyflog oddeutu £21,000 y flwyddyn. Mae Plaid Cymru, fel rydych chi'n gwybod, wedi cynnig pum cam a allai gael eu cymryd, sy'n cynnwys rheoli'r defnydd o ail gartrefi drwy newid deddfwriaethol, fel yn yr Alban, a chau'r bwlch yn y gyfraith sy'n golygu bod modd optio allan o drethi domestig ac o'r premiwm treth cyngor. Weinidog, pam na wnewch chi weithredu nawr er lles trigolion a chymunedau lle mae ail dai yn broblem ddifrifol?
Diolch am hynny, Delyth. Mae'n ddrwg gennyf, roedd y sain yn ddrwg iawn yno, ond credaf imi ddeall hanfod y cwestiwn. Maddeuwch i mi os collais unrhyw beth.
Fel y gwyddoch, mae gennym weithgor trawsbleidiol o bobl sy'n edrych ar gymhlethdod mater ail gartrefi. Rwy'n sicr yn ymwybodol fod Plaid Cymru wedi cyflwyno cynllun. Mae nifer ohonom wedi bod yn gweithio ar nifer o atebion posibl. Rwy'n falch o ddweud ein bod eisoes, wrth gwrs, wedi rhoi llawer o gamau ar waith tuag at hyn yng Nghymru, gan gynnwys, fel y gwyddoch, y gallu i gynghorau godi'r dreth gyngor ar ail gartrefi neu gartrefi gwag yn lleol fel y gwelant orau. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw gyngor yng Nghymru wedi'i godi 200 y cant, er fy mod yn deall bod cyngor Abertawe'n ystyried gwneud hynny ar hyn o bryd.
O ran y bwlch yn y gyfraith, fel rydych yn ei alw—nid wyf yn siŵr fy mod yn cytuno ei fod yn fwlch yn y gyfraith, ond rwy'n deall y mater rydych yn ei godi. Mae hyn ar gyfer pobl sy'n gosod ail eiddo yn eu perchnogaeth ar rent am nifer penodol o ddyddiau'r flwyddyn, ar ôl ei hysbysebu am nifer wahanol o ddyddiau'r flwyddyn. Rydym yn edrych yn ofalus iawn i weld a ddylid ymestyn y nifer o ddyddiau—70 a 140 ar hyn o bryd—i fod yn gyfnod llawer hwy; mewn geiriau eraill, mae'n rhaid i chi ddefnyddio'r tŷ fel tŷ gwyliau am lawer hwy er mwyn gallu newid i gyfraddau masnachol. Ac rydym hefyd yn edrych i weld beth y gellir ei wneud ynglŷn â mynediad pobl sy'n gwneud hynny at ryddhad ardrethi i fusnesau bach, oherwydd mae hwnnw'n fater arall.
Rwy'n credu ei bod yn werth pwysleisio, serch hynny, oherwydd mae'n gamgymeriad cyffredin—nid wyf yn dweud eich bod chi wedi camgymryd, Delyth; rwy'n gwybod nad ydych—nid yw cynghorau ar eu colled yn eu cyllid pan fydd pobl yn newid i ardrethi busnes ac yn hawlio rhyddhad ardrethi i fusnesau bach, oherwydd mae Llywodraeth Cymru yn gwneud iawn am y diffyg yn y cyllid hwnnw i'r awdurdod lleol, er fy mod yn deall bod mater ecwiti i bobl leol o ran pwy sy'n talu'r dreth gyngor. Felly, rwy'n deall hynny, ond roeddwn eisiau ei gwneud yn glir nad yw'r awdurdod lleol ei hun ar ei golled yn hynny o beth. Felly, rydym yn edrych ar amrywiaeth o dystiolaeth i ystyried lle sydd orau i ni osod hwnnw, a pha drefniadau y mae'n rhaid i bobl sy'n newid i ardrethi busnes eu gwneud er mwyn bod yn fusnes i allu gwneud hynny. Fe fyddwch yn gwybod eich hun fod cymhlethdod gwirioneddol ynglŷn â'r hyn rydym yn ei alw'n 'ail gartrefi' a phwy sy'n eu meddiannu. Felly, er enghraifft, gwyddom fod nifer fawr iawn o bersonél meddygol sy'n gweithio yng ngorllewin a de-orllewin Cymru yn dod o rannau eraill o Gymru ac yn byw mewn tai yng ngorllewin a de-orllewin Cymru yn ystod yr wythnos er mwyn gallu gweithio yng ngwasanaethau'r GIG, er enghraifft. Yn sicr, ni fyddem eisiau annog pobl rhag gwneud defnydd o'r fath o eiddo.
Fe fyddwch yn gwybod bod gennyf lawer o gydymdeimlad â phobl nad ydynt yn gallu prynu tai i bobl ifanc yn y pentrefi y cawsant eu magu ynddynt. Un o'r ffyrdd mawr o ddatrys hynny, wrth gwrs, yw adeiladu'r math iawn o ecwiti cymdeithasol neu ecwiti a rennir neu ecwiti cydweithredol neu—mae llawer o wahanol ffyrdd o'i wneud—tai tebyg i dai ymddiriedolaeth tir cymunedol, sy'n caniatáu cyfran gyhoeddus o ryw fath yn y tai hynny fel na ellir eu hadeiladu ac yna eu gwerthu ar y farchnad breifat am symiau anferthol. Yn anffodus, mae gennym enghreifftiau ledled Cymru lle mae tai wedi'u hadeiladu at y diben hwnnw gyda phob bwriad da ac yna mae cynlluniau wedi newid a'r tai hynny wedi'u gwerthu ar y farchnad agored am symiau gwirioneddol enfawr. Felly, mae angen inni ddod o hyd i ffordd o ddiogelu'r tai hynny i bobl leol wrth symud ymlaen, ac nid yn unig i'r rhai sy'n prynu am y tro cyntaf. Fe fyddwch yn gwybod ein bod yn edrych ar ystod o fesurau sy'n ein galluogi i wneud hynny. Mae enghraifft yr Alban yn un dda iawn i gadw llygad arni. Yn anffodus, pan roddwyd cynnig ar rai o'r arbrofion hynny yn St Ives yng Nghernyw, cafodd rhai ohonynt ganlyniadau anfwriadol iawn ar y farchnad dai leol drwy godi prisiau tai ail-law, neu beth bynnag yw'r gair rydych eisiau ei ddefnyddio—tai hŷn yn yr ardal—a chael effaith waeth na'r farchnad wreiddiol.
Rydym yn awyddus iawn i weithio ar draws y pleidiau ar amrywiaeth o atebion i hyn. Gwyddom ei bod yn broblem fawr, yn enwedig yng ngorllewin Cymru, a rhai o'r rhesymau pam fod pawb ohonom yn caru Cymru, a pha mor hardd yw Cymru, yw rhai o'r rhesymau sy'n gyrru hyn. Ond rydym yn gwybod mai yng Nghaerdydd y gwelir un o'r lefelau uchaf o ail gartrefi mewn unrhyw gyngor yng Nghymru, ac wrth gwrs, y rheswm am hynny yw bod pobl yn dod i mewn i'r ddinas i weithio yn ystod yr wythnos ac yn gadael eto. Byddwn eisiau gweld beth yw effeithiau mwy o weithio o bell a gweithio gartref ar rai o'r pethau hynny hefyd. Ond rwy'n deall y broblem rydych yn ei chrybwyll, ac fe fyddwch yn gwybod ein bod yn gwneud llawer iawn o waith i ganfod beth yw'r ffordd fwyaf effeithiol o ddatrys rhai o'r problemau.
Diolch am yr ateb yna. O ran y bwlch yn y gyfraith, efallai does dim ots am y semanteg gyda hyn, ond fel roeddech chi'n dweud, mae e'n fater o anghyfiawnder moesol bron, a dwi'n meddwl, oherwydd hynny, hyd yn oed os dyw llywodraeth leol ddim yn colli mas, mae angen gwneud yn siŵr bod hynna ddim yn digwydd, ac mae angen cau'r bwlch yna. Yn amlwg, mae hyn yn rhywbeth bydd yn rhaid i'r Llywodraeth nesaf fynd i'r afael ag e lot mwy.
Hoffwn i droi nawr—a dwi'n gobeithio bod y sŵn yn gweithio—at bwnc gwahanol y gwnes i ei godi mewn llythyr diweddar gyda chi, sef y ffaith bod dau gyngor sir wedi derbyn setliad ariannol llawer is na'r gweddill. Mae cynghorau Ceredigion a Wrecsam ond yn cael cynnydd o 2 y cant a 2.3 y cant, sydd ymhell islaw y cyfartaledd o 3.8 y cant. Mae arweinydd cyngor Ceredigion, Ellen ap Gwynn, wedi rhybuddio y gallai hyn arwain at golli swyddi a thorri gwasanaethau. Byddai hyn yn hollol annheg, dwi'n siŵr byddech chi'n cytuno â fi, ar y gweithwyr, ac ar y cyngor, sydd wedi bod yn gwneud gwaith mor hanfodol yn cadw trigolion lleol yn ddiogel yn ystod y pandemig.
Nawr, rwy'n deall bod eich Llywodraeth yn defnyddio fformiwla er mwyn dyrannu'r arian, ac felly dydy'r penderfyniad yma ddim yn fwriadol i'w tangyllido nhw, ond yn y gorffennol, pan fo gwahaniaeth sylweddol wedi bod yn y setliad, mae'r Llywodraeth wedi gosod llawr cyllido, rhywbeth y mae'r WLGA wedi galw amdano y flwyddyn hon. Dwi'n gwybod, yn y gorffennol, Weinidog, eich bod chi wedi dweud eich bod chi ond wedi dod â'r llawr yna i mewn pan fu rhai cynghorau yn gweld rhywbeth negyddol ac y bydden nhw'n cael llai yn hytrach nag unrhyw gynnydd o gwbl, ond mae'r pandemig yn dod â ni i mewn i sefyllfa dŷn ni byth wedi bod ynddi hi o'r blaen ac mae'r galwadau ar wasanaethau wedi bod cymaint yn uwch. Byddai gweithredu hwn y nawr, gan gynyddu'r codiad i'r ddau gyngor, ond yn costio rhyw £2.4 miliwn. Rŷch chi wedi dweud wrthyf fi y byddech chi'n ystyried popeth, o ran ymateb i'r setliad, yn ofalus cyn cyhoeddi'r setliad terfynol. Felly, allwch chi ddweud wrthym heddiw, os gwelwch yn dda, a wnewch chi weithredu'r llawr cyllido? A dwi'n gobeithio bod y sŵn wedi gweithio.
Yn wir. Diolch yn fawr iawn, Delyth. Ie, felly, yn hollol, gwyddom fod y tri chyngor isaf ychydig yn is na'r cyfartaledd. Felly, mae Ceredigion, Wrecsam a Chaerffili yn is na'r cyfartaledd, ond mae gan bob un ohonynt setliadau cadarnhaol. Felly, mae gan Geredigion 2 y cant—dyna'r setliad isaf—ond 2 y cant yw'r rhagdybiaeth gynllunio roeddem wedi bod yn gweithio arni gyda'r trysoryddion drwy gydol y flwyddyn, oherwydd mae bob amser yn anodd iawn inni wybod beth fydd y setliad gan Lywodraeth y DU. Ac yn wir, mae'n rhaid imi ddweud, ar hyn o bryd, nad ydym yn gwybod beth fydd y setliad hwnnw o hyd, sy'n amlwg yn ein rhoi mewn sefyllfa anodd iawn. Mae fy nghyd-Aelod Rebecca Evans wrthi'n ystyried beth yw'r ffordd orau o ymdrin â hynny.
Ac mae'r fformiwla, wrth gwrs, yn seiliedig ar yr is-grŵp cyllid ac is-grŵp dosbarthu'r awdurdod lleol a chyngor partneriaeth Llywodraeth Cymru, sy'n cynnwys cynrychiolwyr trysoryddion a phobl allanol ac yn y blaen. Rydym wedi'i ailadrodd droeon—ac mae'r Llywydd bron yn sicr o golli amynedd gyda mi os dechreuaf fynd drwy'r gwahanol agweddau ar fformiwla'r is-grŵp dosbarthu—ond y rhagosodiad sylfaenol yw mai'r pethau sydd wedi'u nodi yno yw'r pethau pwysicaf. Felly, maent yn seiliedig ar boblogaeth, amddifadedd, prinder a gwledigrwydd, a gwahanol bethau eraill o'r fath sydd y tu hwnt i reolaeth y cyngor. Felly, nid ydynt yn seiliedig ar benderfyniadau lleol a allai olygu newid mawr yn y ffordd y mae'r cyngor yn defnyddio ei adnoddau. Felly, byddwn yn synnu gweld unrhyw gyngor ar gynnydd o 2 y cant, er ei fod yn llai na'r cyfartaledd ledled Cymru, yn gwneud toriadau llym o unrhyw fath, oherwydd dyna'r rhagdybiaeth gynllunio roeddem yn seilio ein rhagamcanion arni tan yn ddiweddar iawn.
O ran y cyllid gwaelodol, roedd y cyllid gwaelodol bob amser yno i atal effaith negyddol ar gyngor—felly, lle roedd gennych setliad a oedd yn is na sero ac felly roeddent yn gweld gostyngiad ers y flwyddyn flaenorol. Nid oedd y cyllid gwaelodol erioed yno i sicrhau bod pawb yn cyrraedd y cyfartaledd. Felly, mae tri pheth i'w hystyried ac yn amlwg, gan ein bod ynghanol y setliad dros dro ar hyn o bryd, nid wyf mewn sefyllfa i ddweud beth fydd y setliad terfynol heddiw—mae rhai wythnosau i fynd eto ac mae nifer o bethau i weithio drwyddynt. Ond y sefyllfa ar hyn o bryd yw nad ydym yn gwybod sut olwg fydd ar ein hamlen gyllido a phe baem yn cynnwys cyllid gwaelodol, byddai'n rhaid i'r cyllid gwaelodol hwnnw ddod o'r amlen sy'n cynnwys y setliad. Felly, i bob pwrpas, yr hyn y byddech yn ei wneud yw mynd ag arian oddi wrth rai cynghorau a'i roi i gynghorau eraill. Felly, ar y sail honno, mae'n amlwg na fydd y rhai sy'n colli'r arian yn hapus iawn. Mae CLlLC wedi ysgrifennu ataf ac wedi gofyn am gyllid gwaelodol ar y sail ei fod yn cael ei ariannu'n allanol gan Lywodraeth Cymru, ac nid wyf mewn unrhyw sefyllfa i ddweud y byddem yn gallu gwneud hynny ar hyn o bryd. Ond unwaith eto, nid oes gennym y gyllideb derfynol eto ac felly, mae arnaf ofn, Delyth, nad wyf mewn sefyllfa i ddweud heddiw ble fyddai hynny. Ond byddwn yn dweud ein bod yn hapus i weithio gyda Cheredigion ynghylch pam y byddai'n dweud y byddai cynnydd o 2 y cant yn arwain at y mathau hynny o broblemau oherwydd dyna'r rhagdybiaeth gynllunio y gofynnwyd i bob cyngor weithio gyda hi.
Wel, diolch, Weinidog. Rwy'n siŵr y bydd pob cyngor, gan gynnwys Caerffili, fel yr ychwanegwyd gennych, yn edrych ymlaen yn ddisgwylgar at y setliad terfynol.
Yn olaf, hoffwn droi yn awr at y dreth gyngor. Mae Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru, fel y gwyddoch rwy'n siŵr, i roi mwy o arian i awdurdodau lleol er mwyn osgoi codiadau yn y dreth gyngor ar gyfer eleni, pan fydd llawer o deuluoedd ac unigolion eisoes yn ei chael yn anodd cael dau ben llinyn ynghyd, ac o gofio'r ffaith—ac mae hyn yn rhywbeth y gwn y byddwch yn cydymdeimlo ag ef—mai treth atchwel yw'r dreth gyngor sy'n taro grwpiau incwm isel galetaf. Nawr, er bod budd-dal y dreth gyngor yn rhoi rhywfaint o ryddhad mawr ei angen i'r rhai sy'n gymwys i'w gael, mae nifer sylweddol o bobl o hyd nad ydynt yn gymwys i'w gael ac sydd eto'n wynebu'r baich enfawr hwn. Nid yw'n gyfrinach fod awdurdodau lleol yn parhau i wynebu heriau ariannol enfawr. Felly, oni bai eich bod yn bwriadu darparu'r arian ar gyfer rhewi'r dreth gyngor yn gyffredinol, a allwch ddweud wrthyf beth y bwriadwch ei wneud i sicrhau nad yw'r heriau ariannol y mae ein cynghorau yn eu hwynebu yn cael eu trosglwyddo i rai o'r bobl dlotaf yn y gymdeithas ar ffurf codiadau yn y dreth gyngor?
Felly, unwaith eto, Delyth, diolch. Yn amlwg, rwy'n gwybod am ein sefyllfa gyda'r dreth gyngor, ond mae'r dreth gyngor ym mhortffolio fy nghyd-Aelod Rebecca Evans. Yn ddiweddar, mae wedi gallu cyhoeddi £33 miliwn arall, rwy'n credu—er y byddai'n rhaid i chi ofyn iddi gadarnhau'r ffigur gwirioneddol; rwy'n ceisio gweld a yw hi'n ysgwyd ei phen—i roi cymorth i gynghorau mewn perthynas â chyllid rhyddhad y dreth gyngor a nifer o bethau eraill, i sicrhau bod y cynllun yn cael ei ariannu ar y lefel briodol.
Rydych yn llygad eich lle: mae nifer y bobl sy'n gwneud cais am ryddhad y dreth gyngor wedi codi yn ystod y pandemig. Rwy'n falch iawn o ddweud ein bod wedi cadw rhyddhad y dreth gyngor yma yng Nghymru pan gafodd ei ddiddymu dros y ffin yn Lloegr beth amser yn ôl. Gwnaethom hynny—rydych yn llygad eich lle—oherwydd ein bod yn gwybod ei bod yn dreth atchwel, ac rydym yn derbyn yn llwyr fod pobl angen rhywfaint o gymorth gyda hi pan fo cymaint o fygythiad i'w hincwm.
Fel y clywsoch fy nghyd-Aelod Vikki yn dweud nawr, mae rhai cynghorau wedi gallu gwneud pethau da iawn o fewn amlen dreth gyngor resymol iawn, a byddem yn disgwyl i gynghorau weithio'n galed iawn i sicrhau eu bod yn gwneud hynny ac i ddeall beth yw eu seiliau cost. Felly, os ydynt yn ei chael yn anodd ymdopi â lefel y cynnydd y maent wedi'i gael—a chofiwch mai dyma'r ail setliad da iddynt ei gael yn y ddwy flynedd ddiwethaf—byddem yn falch iawn o weithio gyda hwy i ddeall pam oedd eu sail cost mor gyfnewidiol. Ond ni fyddem yn disgwyl, o ystyried y setliad hael iawn y mae'r setliad dros dro, o leiaf, yn ei nodi, y byddai llawer iawn o gynghorau angen codiadau enfawr yn y dreth gyngor er mwyn cadw eu gwasanaethau'n gadarn. Y rheswm am hynny yw ein bod, yn ystod y pandemig, wedi bod yn falch iawn, drwy'r gronfa galedi llywodraeth leol, o allu ariannu'r holl gostau ychwanegol i gynghorau drwy'r pandemig. Rwy'n falch iawn o fod wedi gallu gwneud hynny. Felly, rydym wedi gweithio'n gyfeillgar iawn mewn llywodraeth leol i ddeall y taliadau a'r costau yn gyffredinol. Rydym wedi gallu gwneud iawn am incwm a gollwyd, ar ffurf incwm cyffredinol o daliadau meysydd parcio ac yn y blaen, yn sgil cau meysydd parcio, y ffaith nad yw canol dinasoedd yn cael eu defnyddio, yr holl ffordd drwodd i'r dreth gyngor ac ardrethi annomestig. Felly, byddwn yn synnu'n fawr pe bawn yn gweld unrhyw gyngor yn codi'r dreth yn helaeth.
Wedi dweud hynny, clywsoch fi'n dweud, mewn ymateb i nifer o gyd-Aelodau yn gynharach, nad ydym yn credu mewn capio ein cynghorau oherwydd ein bod yn credu mewn democratiaeth leol. Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, a basiwyd gan y Senedd yn ddiweddar, yn ymwneud â grymuso democratiaeth leol i wneud eu penderfyniadau'n lleol. Felly, nid wyf yn credu mai lle Llywodraeth Cymru yw rhoi cap ar hynny pan fo cynghorwyr lleol, a etholwyd yn ddemocrataidd, yn meddwl yn wahanol.